CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cymwysterau a ffyrdd eraill o gofrestru

Gwybodaeth am y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i gofrestru a beth sy’n rhaid i chi ei wneud i gofrestru os nad oes gennych y cymhwyster sydd ei angen.

Gweithwyr cartrefi gofal i oedolion

Mae amryw o ffyrdd o gofrestru cyn bydd cofrestru’n orfodol i weithwyr cartrefi gofal.

1. Cofrestru gyda chymhwyster

I weithwyr sydd â chymhwyster ar Lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma, QCF neu NVQ) neu gyfwerth.

Gall gweithwyr hefyd cofrestru gan ddefnyddio’r City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, ond yna bydd angen iddynt gwblhau’r lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma QCF neu NVQ) o fewn tair blynedd.

Beth y bydd angen i chi ei wneud:

2. Cofrestru drwy asesiad cyflogwr

Gall cyflogwyr gadarnhau cais eu gweithwyr i gofrestru ar ôl asesu eu dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd.

Rhaid i'r Cyflogwr fod yn hyderus bod gan y gweithiwr y ddealltwriaeth angenrheidiol fel y nodir yn asesiad y cyflogwr. Mae cyflogwr yn cwblhau'r asesiad hwn drwy gadarnhau'r wybodaeth yn eu cyfrif GCCarlien pan fydd gweithiwr yn cyflwyno cais ar-lein. Bydd angen i geisiadau ar-lein hefyd gael eu cymeradwyo gan y cyflogwr.

Bydd angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n defnyddio llwybr asesu'r cyflogwr i gofrestru, cwblhau un o'r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau. Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol gyflawni’r cymhwyster o few eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf, ond mae gan bob gweithiwr ofal cymdeithasol chwe blynedd i’w gwblhau.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am y newid hwn i gofrestru.

Gweithiwr gofal cartref

Mae amryw o ffyrdd o gofrestru fel gweithiwr gofal cartref:

1. Cofrestru gyda chymhwyster

I weithwyr sydd â chymhwyster ar Lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma, QCF neu NVQ) neu gyfwerth.

Gall gweithwyr hefyd cofrestru gan ddefnyddio’r City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, ond yna bydd angen iddynt gwblhau’r lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma QCF neu NVQ) o fewn tair blynedd.

Beth mae angen i chi ei wneud:

2. Cofrestru drwy asesiad cyflogwr

Gall cyflogwyr gadarnhau cais eu gweithwyr i gofrestru ar ôl asesu eu dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd.

Rhaid i'r Cyflogwr fod yn hyderus bod gan y gweithiwr y ddealltwriaeth angenrheidiol fel y nodir yn asesiad y cyflogwr. Mae cyflogwr yn cwblhau'r asesiad hwn drwy gadarnhau'r wybodaeth yn eu cyfrif GCCarlien pan fydd gweithiwr yn cyflwyno cais ar-lein. Bydd angen i geisiadau ar-lein hefyd gael eu cymeradwyo gan y cyflogwr.

Bydd angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n defnyddio llwybr asesu'r cyflogwr i gofrestru, cwblhau un o'r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau. Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol gyflawni’r cymhwyster o few eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf, ond mae gan bob gweithiwr ofal cymdeithasol chwe blynedd i’w gwblhau.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am y newid hwn i gofrestru.

Nid oes angen i weithwyr sy’n cofrestru drwy gael cadarnhad o’u cymhwysedd cyn mis Hydref 2022 wneud cymhwyster i ailgofrestru.

Gweithiwr gofal preswyl i blant

Mae amryw o ffyrdd o gofrestru fel gweithiwr gofal preswyl i blant:

1. Cofrestru gyda chymhwyster

I weithwyr sydd â chymhwyster ar Lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma, QCF neu NVQ) neu gyfwerth.

Gall gweithwyr hefyd cofrestru gan ddefnyddio’r City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, ond yna bydd angen iddynt gwblhau’r lefel 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol Diploma, QCF neu NVQ o fewn tair blynedd.

Beth mae angen i chi ei wneud:

2. Cofrestru drwy asesiad cyflogwr

Gall cyflogwyr gadarnhau cais eu gweithwyr i gofrestru ar ôl asesu eu dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd.

Rhaid i'r Cyflogwr fod yn hyderus bod gan y gweithiwr y ddealltwriaeth angenrheidiol fel y nodir yn asesiad y cyflogwr. Mae cyflogwr yn cwblhau'r asesiad hwn drwy gadarnhau'r wybodaeth yn eu cyfrif GCCarlien pan fydd gweithiwr yn cyflwyno cais ar-lein. Bydd angen i geisiadau ar-lein hefyd gael eu cymeradwyo gan y cyflogwr.

Bydd angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n defnyddio llwybr asesu'r cyflogwr i gofrestru, cwblhau un o'r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau. Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol gyflawni’r cymhwyster o few eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf, ond mae gan bob gweithiwr ofal cymdeithasol chwe blynedd i’w gwblhau.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am y newid hwn i gofrestru.

Gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd

Mae amryw o ffyrdd o gofrestru fel gweithiwr canolfan breswyl i deuluoedd.

1. Cofrestru gyda chymhwyster

I weithwyr sydd â chymhwyster ar Lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma, QCF neu NVQ) neu gyfwerth.

Gall gweithwyr hefyd cofrestru gan ddefnyddio’r City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, ond yna bydd angen iddynt gwblhau’r lefel 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol Diploma, QCF neu NVQ o fewn tair blynedd.

Beth y bydd angen i chi ei wneud:

2. Cofrestru drwy asesiad cyflogwr

Gall cyflogwyr gadarnhau cais eu gweithwyr i gofrestru ar ôl asesu eu dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd.

Rhaid i'r Cyflogwr fod yn hyderus bod gan y gweithiwr y ddealltwriaeth angenrheidiol fel y nodir yn asesiad y cyflogwr. Mae cyflogwr yn cwblhau'r asesiad hwn drwy gadarnhau'r wybodaeth yn eu cyfrif GCCarlien pan fydd gweithiwr yn cyflwyno cais ar-lein. Bydd angen i geisiadau ar-lein hefyd gael eu cymeradwyo gan y cyflogwr.

Bydd angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n defnyddio llwybr asesu'r cyflogwr i gofrestru, cwblhau un o'r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau. Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol gyflawni’r cymhwyster o few eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf, ond mae gan bob gweithiwr ofal cymdeithasol chwe blynedd i’w gwblhau.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am y newid hwn i gofrestru.

Rheolwyr gofal cymdeithasol

Mae'r dolenni isod yn rhestru'r cymwysterau gofynnol i wneud cais i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol. Yn ogystal â'r llwybr hwn, rydym wedi cyflwyno llwybr newydd i gofrestru i gefnogi sefydliadau sydd â swydd wag i reolwyr.

Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n meddu ar y cymhwyster lefel 3 perthnasol neu Dystysgrif USW lefel 4 mewn Camu i Reoli, nawr yn gallu cofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol os ydych chi wedi ymrestru ar y cymhwyster rheoli lefel 4 neu lefel 5. Bydd hyn yn cychwyn cylch cofrestru newydd a bydd yn rhaid ichi gwblhau lefel 5 erbyn eich adnewyddu ymhen 3 blynedd. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni, gallwch wneud cais i gofrestru ar GCCar-lein.

Yn ogystal, bydd gweithwyr cymdeithasol, nyrsys a therapyddion galwedigaethol nawr yn gallu cofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol gyda gofyniad i gwblhau cymhwyster rheoli o fewn tair blynedd gyntaf eich cofrestriad. Rhaid i'r cymhwyster rheoli fod yn isafswm o 37 credyd, wedi'i asesu yn y gweithle ac ar lefel 3 neu'n uwch.

Byddwn hefyd yn derbyn gweithwyr gofal cymdeithasol lle nad oes ganddynt y cymhwyster lefel 3 ond syn gall dangos digon o brofiad rheoli. Yn gyffredinol byddwn yn ystyried o leiaf tair blynedd of brofiad cyfatebol o fewn y 10 mlynedd diwethaf o reoli goal cymdeithasol, iechyd neu leoliad tebyg a oedd o dan oruchwyliaeth reoleiddiol yn ‘ brofiad rheoli digonol’. Bydd y Cofrestrydd yn ystyried pob achos yn unigol ac yn cymhwyso dyfarniad lle bod angen. Gall ymgeiswyr gysylltu ân dîm cofrestru i wneud cais am gofrestru fel hyn.

Beth os ydw i'n gweithio yn un o'r rolau hyn ond eisoes wedi cofrestru?

Bydd angen i chi gysylltu â ni ar cofrestru@gofalcymdeithasol.cymru a gofyn naill ai am newid cofrestriad, neu gofrestriad ychwanegol.

Gofynnir i chi gadarnhau manylion cyflogaeth ar gyfer y rôl newydd ac mewn rhai achosion, byddwn yn ceisio cymeradwyaeth llofnodwr.

Gweithiwr cymdeithasol

Cymwysterau sydd eu hangen er mwyn cofrestru fel gweithiwr cymdeithasol

Gwasanaeth gwirio cymhwyster gwaith cymdeithasol

Rydym yn cynnig gwasanaeth gwirio cymhwyster sy’n gwirio unrhyw gymhwyster cymeradwy mewn gwaith cymdeithasol a ddyfarnwyd yng Nghymru (gan gynnwys cymwysterau cyn y Radd Gwaith Cymdeithasol).

Gallwch ofyn am lythyr unigryw sy’n dangos:

  • y cymhwyster a gafwyd
  • dyddiad cymhwyso
  • sefydliad hyfforddi a fynychwyd
  • enw’r person a dderbyniodd y dyfarniad.

Noder y canlynol

  • gall y gwasanaeth hwn gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith
  • dim ond at y sawl a gafodd y cymhwyster y gallwn ni anfon llythyrau gwirio
  • mae angen caniatâd ysgrifenedig arnom i anfon y llythyr at gyflogwr neu asiantaeth gyflogaeth
  • nid yw’r llythyr gwirio yn brawf o bwy ydych chi
  • nid yw’r llythyr yn brawf bod person yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig cofrestredig
  • mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i wirio’r manylion hyn.

Os ydych eisiau derbyn llythyr gwirio ar gyfer cymhwyster a ddyfarnwyd yng Nghymru, dylech gwblhau’r ffurflen gais am lythyr gwirio isod a’i hanfon atom mewn e-bost i cofrestru@gofalcymdeithasol.cymru.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 6 Rhagfyr 2018
Diweddariad olaf: 30 Hydref 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (45.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch