CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cofrestru os cymhwysoch chi’r tu allan i’r Deyrnas Unedig

Mae’r dudalen hon i weithwyr cymdeithasol a gymhwysodd y tu allan i’r DU, sydd am gofrestru i weithio yng Nghymru.

Os ydych chi erioed wedi cofrestru gyda:

rhaid i chi e-bostio cymwysteraurhyngwladol@gofalcymdeithasol.cymru cyn i chi wneud cais er mwyn rhoi gwybod eich bod am wneud cais gyda ni.

Ni fydd angen asesu eich cymhwyster yr eildro.

Cyn i chi wneud cais

Rhaid bod gennych:

  • y dystysgrif ar gyfer eich cymhwyster gwaith cymdeithasol yn barod
  • tystiolaeth o 130 diwrnod o leiaf o ymarfer gwaith cymdeithasol wedi’i oruchwylio a’i asesu neu brofiad gwaith cymdeithasol ôl-gymhwyso.

Byddwn yn gwirio bod eich cymhwyster a’ch profiad gwaith cymdeithasol yn cyd-fynd â fframwaith gradd Cymru a meincnodau pwnc cytunedig y DU ar gyfer gwaith cymdeithasol.

Nid oes angen tystiolaeth arnom o’ch hyfedredd mewn Saesneg i gofrestru. Ond mae’n bosibl y bydd gan gyflogwyr eu gofynion eu hunain, felly trafodwch hyn gyda nhw’n uniongyrchol.

Os ydych chi’n dychwelyd i ymarfer gwaith cymdeithasol ar ôl tair blynedd neu fwy, bydd angen i chi:

  • ddangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o ymarfer gwaith cymdeithasol cyfoes
  • bodloni gofynion dychwelyd i ymarfer.

Cyrff rheoleiddio eraill y DU

Os penderfynwch chi weithio’r tu allan i Gymru, bydd angen i chi gysylltu â’r corff rheoleiddio ar gyfer y wlad honno.

Yn y DU, y rhain yw:

Llenwi cais cymhwyster rhyngwladol

Os dyma’r tro cyntaf i chi gofrestru yn y DU, bydd angen i chi lenwi ffurflen cywerthedd cymhwyster.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu manylion llawn eich:

  • lleoliadau ymarfer wedi’u goruchwylio a’u hasesu
  • cyflogaeth gwaith cymdeithasol ôl-gymhwyso.Dylai’r wybodaeth gynnwys manylion cyswllt ar gyfer y gweithiwr cymdeithasol goruchwylio ac asesu o’ch lleoliadau. Neu, gallai fod yn gyswllt o’r brifysgol y cymhwysoch ohoni.

Llenwi'r caiss cofrestru

Bydd angen i chi greu cyfrif ar ein gwefan GCCarlein er mwyn llenwi'r cais cofrestru.

Dogfennau

Bydd angen i chi:

  • gael copïau wedi’u llofnodi a’u dyddio gan unigolyn cydnabyddedig sydd wedi gweld y fersiynau gwreiddiol
  • darparu cadarnhad eich bod yn bwriadu ymarfer yng Nghymru
  • os yw’n bosibl, darparu tystiolaeth o’ch gwiriad cofnodion troseddol diweddaraf
  • talu’r ffi, sef £350.

Rhaid i chi lanlwytho neu e-bostio copïau o’r canlynol i’ch cyfrif GCCarlein:

  • dogfennau adnabod wedi’u gwirio
  • tystysgrif cymhwyster wedi’i gwirio
  • trawsgrifiad y cwrs wedi’i wirio
  • tystiolaeth ategol wedi’i gwirio
  • ffurflen asesu cywerthedd cymhwyster (os na wnaed hynny eisoes).

Cymeradwyo’ch cais

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau cymeradwyo.

Os ydych chi eisoes yn gweithio yng Nghymru mae’r cais ar-lein yn gofyn i chi ddewis y sawl a fydd yn gwirio’ch dogfennau adnabod a chymeradwyo’ch cais. Bydd yn dod o restr o unigolion cymeradwy.

Os nad ydych chi eisoes yn gweithio yng Nghymru bydd angen i chi lenwi manylion eich cymeradwywr eich hunan. Bydd angen i chi argraffu’r ffurflen gais a mynd â hi i’ch cymeradwywr ei gwirio, ei llofnodi a’i dyddio. Yna, sganiwch a lanlwytho’r fersiwn hon wedi’i llofnodi i’ch cyfrif GCCarlein.

Ffioedd

Bydd angen i chi dalu ffi pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru. Dysgwch ragor ar ein tudalen ffioedd.

Ystadegau am ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso’n rhyngwladol

Ers 1 Hydref 2022, rydyn ni wedi:

  • derbyn 246 cais gan bobl a gymhwysodd y tu allan i’r DU
  • cofrestru 91 person sydd wedi cymhwyso y tu allan i’r DU. Nodwch y gallai’r pobl hyn fod wedi gwneud cais cyn 1 Hydref 2022.

Mae 250 person a gymhwysodd y tu allan i’r DU ar y Gofrestr.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiwn, e-bostiwch: cymwysteraurhyngwladol@gofalcymdeithasol.cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 2 Tachwedd 2022
Diweddariad olaf: 22 Tachwedd 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (35.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch