CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyflogi pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru

Gallwch gyflogi pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.


Mae pobl ifanc 16-17 oed yn dal i gael eu hystyried yn blant. Mae angen i chi ystyried rhai materion, ond ni ddylid ystyried y rhain yn rhwystrau i gyflogaeth.


Manteision cyflogi pobl ifanc

Mae pobl ifanc yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr. Bydd gan rai brofiad o ofalu am aelodau’r teulu neu sgiliau bywyd perthnasol eraill.

Mae angen ichi sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl ifanc oherwydd eu hoedran.

Canllawiau ar gyflogi pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Dylech chi wneud y canlynol:

  • Cydymffurfio â’r ‘rheoliadau gwasanaeth’. Yn benodol, dylech sicrhau:
    • Bod gan staff y gwybodaeth, sgiliau a’r cymhwysedd i sicrhau bod anghenion lles yr unigolyn wedi’w diwallu
    • Bod gan staff y sgiliau iaith a sgiliau cyfathrebu addas

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglyn a’r rheoliadau yma.

  • Ymgymryd â phrosesau recriwtio diogel, gan gynnwys tystlythyrau a gwiriadau DBS.
  • Cael gafael ar adnoddau dysgu a datblygu priodol, gan gynnwys prentisiaeth. I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau, edrychwch ar Gofal Cymdeithasol Cymru a Gyrfa Cymru.
  • Cefnogi’r person ifanc yn ei raglen ddysgu.
  • Rhoi pobl iau mewn tîm sefydledig i’w helpu i ddysgu gan staff profiadol.
  • Sicrhau na ofynnir i bobl ifanc wneud gwaith nad ydynt wedi’u hyfforddi ar ei gyfer, neu sydd ddim yn gorfforol neu’n feddyliol addas iddynt ei wneud.
  • Ystyried diffyg profiad ac anaeddfedrwydd y person ifanc wrth gwblhau asesiadau risg.
  • Sicrhau eich bod yn cynnig cefnogaeth briodol a pharhaus iddynt; rhaglenni dysgu a datblygu, hyfforddiant, cefnogaeth gan gymheiriaid, cysgodi neu fentora.
  • Trefnu amser rheolaidd gyda’r bobl ifanc ar gyfer myfyrio personol, gan roi cyfleoedd i drafod a gofyn cwestiynau ac i roi adborth ar eu datblygiad personol a’u gwaith.
  • Sicrhau bod y rheolwr cofrestredig (neu berson dirprwyedig) yn ymgymryd â gwaith goruchwylio ac arfarnu priodol yng nghyswllt y person ifanc.
  • Sicrhau bod y person ifanc yn gyfarwydd â’r codau ymarfer proffesiynol.
  • Sicrhewch nad yw person ifanc dibrofiad byth yn cael ei adael i roli lleoliad gofal, nac yn cael ei adael i weithio ar ei ben ei hun
  • Diogelu’r amser a neilltuwyd i'r person ifanc ar gyfer gweithgareddau dysgu .

I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad am gyflogi pobl ifanc 16 ac 17 oed, ewch i:

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Rhagfyr 2021
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (31.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch