Yn dilyn gyrfa amrywiol ym myd diwydiant ac yn y sector adwerthu, cymerodd Sue seibiant o waith cyflogedig i ddod yn ofalwr ac yn rhiant llawn-amser. Yna fe ailgydiodd yn ei haddysg uwch a bu'n gweithio gyda nifer o fudiadau gwirfoddol.
Ymunodd Sue â'r GIG ym 1992, gan symud o Feddygaeth Iechyd y Cyhoedd i amryw swyddi rheoli. Daeth profiad Sue yn y sector gwirfoddol â hi at flaen y gad o ran diwallu anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau. Fe daniodd hyn ei diddordeb mewn gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Roedd ei rolau blaenorol yn y GIG yn canolbwyntio ar gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd (sylfaenol, cymunedol, acíwt a thrydyddol) yn Ne Ddwyrain Cymru, gyda diddordeb arbennig yn y rhyngwyneb rhwng y GIG a sefydliadau allanol.
Rhwng 2006 a 2012, fy ymgymerodd Sue ag ystod o rolau fel Cyd-gyfarwyddwr a hithau'n gyfrifol am gynllunio, comisiynu a chyflawni gweithredol ar gyfer ystod o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Roedd hyn yn cwmpasu rôl Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, a gadwodd fel Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Thai gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen tan fis Gorffennaf 2016, pan ddaeth hi’n Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae gan Sue ddiddordeb brwd mewn hyrwyddo pwysigrwydd rôl gofal cymdeithasol i helpu i ddiogelu a gwella bywydau pobl, trwy rymuso yn ogystal â chymorth. Mae Sue yn awyddus i ddefnyddio'i phrofiad hi ei hun o fod yn ofalwr di-dâl er mwyn helpu i sicrhau bod gofal cymdeithasol ledled Cymru yn canolbwyntio ar y dinesydd.