Dyma ganllaw i ddangos i chi sut i gofrestru ar-lein, gydag awgrymiadau i'ch helpu trwy bob cam o'r broses hon.
Cliciwch y botwm i anfon côd dilysu i'ch cyfeiriad e-bost. Yna bydd angen i chi ddod o hyd i'r côd dilysu yn eich mewnflwch e-bost.
Teipiwch hwn yn y blwch perthnasol a chliciwch ar ‘Gwirio côd.
Gallwch nawr greu eich cyfrinair ar gyfer eich cyfrif GCCarlein.
Cliciwch ar y ddolen ‘Gwneud Cais i Gofrestru’, lle byddwch yn cael eich tywys i’r dudalen cyn ymgeisio.
Fe welwch ddolenni i'r hysbysiad preifatrwydd, y canllawiau ymarfer a'r cod ymarfer proffesiynol.
Bydd angen i chi gadarnhau eich bod wedi darllen y rhain a chytuno iddynt, a’ch bod yn bwriadu ymarfer ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae gennym ganllawiau ymarfer ar gyfer pob rôl y mae angen ei chofrestru.
Dewiswch yr arweiniad sy'n ymwneud â'r rôl yr ydych yn gwneud cais amdani.
Mae gennym wybodaeth am y Codau ymarfer proffesiynol, yn ogystal â fersiynau llawn a hawdd eu darllen o'r Cod.
Mae'n rhaid i chi gytuno i gadw at y rhain fel gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol cofrestredig.
Unwaith y byddwch wedi darllen a chytuno i'r dogfennau, gallwch symud ymlaen i'r ffurflen gais.
Yna bydd angen i chi ddatgan os ydych erioed wedi cofrestru gyda ni o’r blaen a dewis y rôl yr ydych yn gwneud cais amdani.
Yna, byddwch yn cael eich tywys i’r dudalen ‘cyn i chi ddechrau’, sydd â gwybodaeth am yr hyn y bydd ei angen arnoch i gwblhau eich cais.
Pan fyddwch wedi cwblhau adran, bydd tic werdd yn dangos wrth ymyl yr adran honno ar y ffurflen.
Os nad yw rhywbeth yn gyflawn, fe welwch ebychnod melyn yn dweud wrthych fod angen rhagor o wybodaeth arnom.
Os ydych yn cael trafferth cyflwyno eich ffurflen, gallwch gysylltu â ni ar yr e-bost a ddangosir.
Yn yr adran gyntaf, byddwn yn gofyn am eich manylion personol, gan gynnwys enw, manylion cyswllt a dyddiad geni.
Gallwch deipio'r dyddiad neu ddefnyddio'r calendr.
Yn yr adran nesaf, bydd angen eich cyfeiriad presennol arnom.
Yna byddwn yn gofyn i chi ychwanegu manylion eich cyflogaeth bresennol.
Bydd angen i chi ddewis eich cyfeiriad gwaith o'r gwymplen.
Dechreuwch deipio enw eich sefydliad, neu'r cod post, a bydd yn dangos yn y rhestr.
Gallwch ychwanegu mwy nag un gyflogaeth os oes angen.
Nesaf, mae angen i chi ychwanegu manylion eich cyflogaeth dros y 5 mlynedd diwethaf, gan gynnwys teitl eich swydd ac enw'r sefydliad ar gyfer pob cofnod.
Rhaid i chi roi cyfrif am unrhyw fylchau o fwy na 3 mis.
Os nad ydych wedi newid swydd yn y 5 mlynedd diwethaf, gallwch hepgor yr adran hon.
Nawr mae'n bryd ychwanegu manylion eich cymwysterau.
Gallwch ddod o hyd i restr o gymwysterau a dderbynnir ar gyfer pob rôl ar ein gwefan gan ddefnyddio'r ddolen ar y dudalen hon.
Os oes gennych gymhwyster, bydd angen i chi ychwanegu'r manylion.
Bydd angen copi o'ch tystysgrif arnom cyn y gallwn brosesu eich cais.
Gallwch uwchlwytho hwn yn yr adran Dogfennau.
Os nad oes gennych gymhwyster ond bod gennych 3 blynedd o brofiad yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, gallwch gofrestru gan ddefnyddio cymhwysedd wedi’i gadarnhau.
Bydd angen i chi ddewis Ardystiwr Cymhwysedd fel rhan o'ch cais gan ddefnyddio'r ddolen a ddangosir.
Os nad yw eich rheolwr yn ymddangos yn y rhestr hon, gallwch lenwi ei fanylion ef neu hi yma.
Nesaf, bydd angen i chi ddweud wrthym a ydych erioed wedi’ch cofrestru gyda chorff rheoleiddio arall.
Bydd angen cadarnhau nad ydych erioed wedi bod yn destun unrhyw achosion.
Yn yr adran nesaf mae angen i chi ddweud wrthym am eich cofnod disgyblu.
Os atebwch yn gadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, gofynnir i chi ddarparu rhagor o wybodaeth gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Bydd angen i chi gwblhau pob adran yn y cam hwn er mwyn gallu symud ymlaen.a
Nawr bydd angen i chi roi manylion eich gwiriad DBS diweddaraf.
Os ydych yn defnyddio gwasanaeth diweddaru’r DBS, ychwanegwch rif eich tystysgrif DBS ddiweddaraf yn y gofod a ddarperir.
Bydd angen i chi gadarnhau eich bod wedi darparu dyddiad DBS o fewn y 3 blynedd diwethaf, yna cadarnhau nad ydych wedi cael eich gwahardd rhag gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n agored i niwed.
Yn olaf, gofynnir i chi gadarnhau unrhyw euogfarnau troseddol, yn y gorffennol neu yn yr arfaeth.
Nawr mae angen i chi ddewis rhywun o'ch sefydliad i gymeradwyo'ch cais.
Ychwanegwch y cymeradwywr gan ddefnyddio'r ddolen a ddangosir.
Yna dewiswch eich cymeradwywr o'r gwymplen.
Os nad yw eich cymeradwywr ar y rhestr, gallwch ychwanegu ei fanylion ef neu hi yn yr adran a ddangosir.
Sylwch y bydd gan bron bob sefydliad ardystiad, ac y gallai peidio â dewis un arwain at oedi gyda'ch cais.
Yn yr adran nesaf, bydd angen i chi ddweud wrthym am unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio ar eich gallu i weithio.
Os dewiswch ie, bydd angen i chi ddarparu ychydig mwy o wybodaeth.
Nid yw eich cymeradwywr yn gweld yr adran hon.
Ni ddefnyddir yr adran cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer prosesu. Mae hon yn adran ddewisol sy’n ein helpu i ddysgu mwy am amrywiaeth y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yn yr adran hon byddwch yn uwchlwytho unrhyw ddogfennau sydd eu hangen ar gyfer eich cais, megis tystysgrifau cymhwyster.
Gallwch ddewis y math o ddogfen y mae angen i chi ei huwchlwytho a'i hatodi i'ch cais o'ch dyfais.
Os ydych yn gwneud cais gan ddefnyddio cymhwyster, bydd angen copi o'ch tystysgrif arnom cyn y gallwn brosesu eich cais.
Cam olaf y cais yw eich datganiad personol.
Darllenwch yr holl ddatganiadau a chadarnhewch gyda'r botwm ar y gwaelod.
Ticiwch y blwch dim ond os oes angen dau gofrestriad neu fwy arnoch, os mai dim ond mewn un math o rôl rydych yn gweithio dim ond un cofrestriad sydd ei angen arnoch.
Nawr fe fydd angen i chi dalu eich ffi ymgeisio. Sylwch na fydd eich cais yn cael ei brosesu nes bod y ffi wedi’i thalu. Rydym yn argymell Debyd Uniongyrchol fel y ffordd orau o sicrhau bod eich ffioedd yn cael eu talu bob blwyddyn.
Byddwch yn cael eich tywys i’ch ‘sgrîn ffioedd a thaliadau’ lle byddwch yn gweld beth fydd angen i chi ei dalu.
Cliciwch ‘Talu nawr’ a byddwch yn gallu sefydlu debyd uniongyrchol i gasglu eich ffi ymgeisio, a’ch ffioedd yn y dyfodol yn hawdd.
Bydd angen i chi lenwi manylion eich cyfrif a calico i ddod o hyd i gyfrif.
Os yw’n well gennych dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd, gallwch glicio ar y botwm ar waelod y dudalen, lle gofynnir i chi am eich manylion talu.
Dyna fe! Mae eich cais wedi'i gyflwyno.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, neu os ydym wedi prosesu eich cais, byddwn yn cysylltu â chi ar yr e-bost a ddarparwyd gennych felly cadwch lygad ar eich e-byst!