CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cefnogi gwirfoddolwyr mewn gofal cymdeithasol

Mae'r adran hon yn cynnwys arweiniad a gwybodaeth ar sut i gefnogi a rheoli gwirfoddolwyr mewn gofal cymdeithasol.

Fframwaith ar gyfer gwirfoddoli

Yn ystod y pandemig mae mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymgysylltu â gwirfoddolwyr nag erioed o'r blaen. Mae ein Fframwaith Gwirfoddoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cefnogi unrhyw sefydliad i gynnwys gwirfoddolwyr - p'un ai mewn ysbytai, gofal preswyl neu leoliadau cymunedol

Mae hyn yn cynnwys arweiniad i gomisiynwyr, cynllunwyr gwasanaeth a sefydliadau

Gallwch weld neu lawrlwytho hwn ar wefan CGGC.

Dolenni defnyddiol

Mae'r siarter ar wirfoddoli a pherthnasoedd gweithle ar gael yma.

Mae gwybodaeth am safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yma ac offeryn hunanasesu ar-lein am ddim.

Mae'r cod ymarfer ar gyfer sefydliadau sy'n cynnwys gwirfoddolwyr ar gael yma.