CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gweithio gyda gofalwyr di-dâl

Mae ymchwil yn nodi rôl bwysig iawn i ofalwyr di-dâl (fel arfer teulu, ffrindiau a chymdogion) wrth ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl ac ein rôl ni yw i wella'r gweithlu i weithio'n dda gyda gofalwyr.

Sut i ddefnyddio dull canlyniadau wrth weithio â gofalwyr

Mae o leiaf 370,000 o ofalwyr yng Nghymru. Gyda 12 y cant, Cymru sydd â’r gyfran uchaf o ofalwyr yn y DU, gyda llawer ohonynt yn darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos. Mae’r cyfrifiad yn dangos bod dros 30,000 o ofalwyr o dan 25 oed yng Nghymru, gyda 7,500 ohonynt o dan 16 oed.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn sicrhau bod gan bob gofalwr yr hawl i gael eu hasesu os yw’n ymddangos bod angen cymorth arnynt. Rhaid i’r asesiad ystyried yr hyn mae’r gofalwr am ei gyflawni, a dyna pam mae angen cynnal sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ ar ddechrau unrhyw gysylltiad â gofalwr.

Rydym wedi datblygu pecyn cymorth o bedwar adnodd i helpu ymarferwyr i asesu anghenion cymorth gofalwyr.

Bydd yr adnoddau hyn yn helpu ymarferwyr i gynnal asesiadau o ansawdd uchel o anghenion gofalwyr a bydd yn helpu ymarferwyr i weithio gyda gofalwyr a’u teuluoedd i ganfod y pethau sy’n wirioneddol bwysig iddynt ac i’w galluogi i gyflawni eu canlyniadau.

Er sylw: Os na allwch weld cyflwyniadau PowerPoint drwy Internet Explorer, ceisiwch 'safio' y ddogfen i'ch 'desktop' er mwyn eu gweld.

Adnodd e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr

Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr archwilio rhai pynciau allweddol sy'n ymwneud â gofalu, megis:

  • pwy sy'n ofalwr
  • y mathau o gymorth y mae gofalwyr yn ei ddarparu
  • yr effaith y gall rôl gofalu ei gael
  • yr hyn sydd ei angen ar ofalwyr
  • hawliau gofalwyr, y gyfraith a lle i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael iddynt.

Yn dilyn cwblhau'n llwyddiannus, gall dysgwyr lawrlwytho dystysgrif i gefnogi eu datblygiad personol parhaus.

Bydd y cwrs yn cymryd tua 45 munud i'w gwblhau.

Mae'r adnodd ar gael ar wefan ddysgu'r GIG

Cymorth ataliol i ofalwyr

Gofynnwyd i Sefydliad Gofal Cymdeithasol ar gyfer Rhagoriaeth (SCIE) wneud arolwg o’r ymchwil mwyaf ddiweddar ar yr hyn sy'n gweithio orau i gefnogi gofalwyr sy'n oedolion.

Mae'r adroddiad cyflym: Cymorth ataliol i ofalwyr sy'n oedolion yng Nghymru, yn edrych ar ffyrdd effeithiol o gefnogi'r 370,000 o ofalwyr sy'n gofalu am oedolion eraill yng Nghymru.

Mae gofalwyr sy'n cefnogi aelodau o'r teulu neu ffrindiau yn rhan hollbwysig o'r system iechyd a gofal, ac mae ganddynt hawl gyfreithiol i gynllun asesu a chymorth drostynt eu hunain. Bydd yr adolygiad cyflym yn helpu i lywio ein cynllunio gwelliant dros y pum mlynedd nesaf.

Enghreifftiau ymarfer i gefnogi gofalwyr

Mae cyfres o Enghreifftiau Ymarfer SCIE: Cymorth ataliol ar gyfer gofalwyr sy’n oedolion yng Nghymru wedi eu creu er mwyn ysgogi trafodaeth am y modelau cymorth sydd ar gael i ofalwyr.

Mae'r enghreifftiau ymarfer hefyd yn cefnogi'r adroddiad, Cymorth ataliol i ofalwyr oedolion yng Nghymru: adolygiad cyflym.

Gofalwyr a'r Ddeddf

Rydym yn darparu adnoddau dysgu i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol i ddysgu mwy am sut mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn berthnasol i ofalwyr.

Adnodd Dysgu Gweithio gyda Gofalwyr

Pecyn hyfforddi arddangosydd gofalwr

Yn aml, bydd angen help ar ofalwyr i ddysgu sut i wneud tasgau gofal ymarferol ar gyfer y teulu. Mewn ymateb i'r angen hwn, datblygwyd pecyn adnoddau i helpu gweithwyr proffesiynol i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddangos tasgau gofal i ofalwyr teulu.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.