CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Beth rydym yn ei wneud

Dyma wybodaeth am yr hyn rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n gweithio, sut i gael gwybodaeth gennym ni neu'r hyn sydd angen i chi ei wneud i gwyno am wasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu.

Beth rydym yn ei wneud

Mae ein cynllun busnes yn nodi ein rhaglenni gwaith, ein hamcanion, mesurau perfformiad a’r gyllideb am y flwyddyn. Bob chwarter, mae ein Bwrdd a Llywodraeth Cymru yn craffu ar y broses o adrodd yn erbyn yr hyn rydym yn ei gyflawni o’r gweithgareddau.

Sut rydym yn gweithio

Rydym yn ymrwymedig i'r canlynol:

  • bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog
  • gwerthfawrogi amrywiaeth a gwella cyfleoedd i bawb
  • cynnwys pobl Cymru yn ein ffordd o weithio
  • gwrando ar eich adborth
  • pennu safonau uchel o ran gwasanaethau cwsmeriaid
  • cyhoeddi gwybodaeth a chael mynediad ati
  • gwella ein perfformiad ni ein hunain.

Safonau’r Iaith Gymraeg

Mae croeso i gwsmeriaid gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg, ac rydym yn awyddus i roi gwasanaeth hollol ddwyieithog ar draws ein holl feysydd gwaith. Yn unol ag adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae'n ofynnol i ni gydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg. Mae’r hysbysiad cydymffurfio yn nodi pa safonau sy’n rhaid i ni gydymffurfio â hwy.

Ein cynllun cydraddoldeb strategol

Mae hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl yn rhan bwysig o’n gwerthoedd craidd.

Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol yn dangos ein hymrwymiad i fod yn sefydliad sy'n ceisio gwella bywydau pobl â nodweddion gwarchodedig.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy fynd i'r afael â gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chreu cymdeithas fwy cynhwysol.

Crynodeb o'r cynllun

Mae ein Cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2022 i 2027 yn cefnogi uchelgeisiau ein Cynllun Strategol ar gyfer 2022 i 2027. Mae hefyd yn ymateb i’r anghydraddoldebau parhaus sydd wedi’u hamlygu a’u gwaethygu gan bandemig Covid-19.

I’n helpu i ddatblygu’r cynllun, fe wnaethom ni siarad â phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth a’u gofalwyr, ac fe wnaethom ni wrando ar bobl a oedd yn cynrychioli ystod o’r nodweddion gwarchodedig.

Mae gan y cynllun bum prif faes o ganlyniadau ffocws. Byddwn yn:

  • gwella'r defnydd o ddata a gwybodaeth cydraddoldeb
  • gweithio gyda chyflogwyr ac arweinwyr o fewn gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar i helpu i hybu cydraddoldeb yn y gwaith
  • gweithio i sicrhau bod cydraddoldeb, hygyrchedd a chynhwysiant yn ganolog i'n gwaith o adeiladu gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, sy'n barod i weithredu’n ddigidol
  • cefnogi’r gweithlu drwy hyrwyddo ein hadnoddau a’n cynigion llesiant, a gwella mynediad iddyn nhw
  • hyrwyddo cyfleoedd i weithio gyda ni, i'n helpu i gael Bwrdd, staff a phanel rheoleiddio mwy amrywiol a chynhwysol, ac i ehangu ein rhwydweithiau.

Ond ein huchelgais yw mynd y tu hwnt i’r cynllun a hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i’r afael â gwahaniaethu yn ein holl waith. Rydyn ni am chwarae rhan arweiniol wrth wneud yn siŵr bod Cymru yn gwrthwynebu gwahaniaethu, felly byddwn ni’n wyliadwrus, yn codi llais ac yn herio gwahaniaethu, ym mha bynnag ffurf y bydd yn cael ei amlygu.

Dywedodd David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio, am y cynllun: “Mae'r cynllun wedi'i seilio ar drafodaethau gyda llawer o unigolion a sefydliadau. Yn bwysicaf oll, fe wnaethom ni siarad â phobl sydd â phrofiad personol o'r heriau a wynebir gan y rhai â nodweddion gwarchodedig.

“Mae’n cynrychioli ymagwedd newydd a phendant ar draws ein holl waith i herio gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rhan bwysig o’r cynllun hwn fydd gweithio mewn partneriaeth ag eraill ledled Cymru, gan gefnogi dull newydd o fynd i’r afael â gwahaniaethu ar draws gwasanaethau cyhoeddus, megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.”

Rydym yn aned o gyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2020-21. Mae’r adroddiadau’n tynnu sylw at y cynnydd a aned yn ystod y flwyddyn ariannol Ebrill 2020 i Fawrth 2021 tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.

Sut i gael gwybodaeth

Rhyddid gwybodaeth

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FoI) yn caniatáu i chi gael gwybodaeth a gedwir gennym ac yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod â chynllun cyhoeddi.

Mae'r cynllun cyhoeddi'n golygu bod yn rhaid i ni drefnu bod rhai mathau penodol o wybodaeth ar gael. Mae'n rhoi gwybod i chi pa wybodaeth sydd ar gael, ym mha fformat y mae ar gael ac a oes rhaid i chi dalu ffi i'w chael.

Mae ein cynllun cyhoeddi yn seiliedig ar gynllun cyhoeddi enghreifftiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (sydd ar gael yn Saesneg yn unig).

Sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth

Os ydych chi eisiau gwybodaeth nad yw ar y cynllun cyhoeddi, mae angen i chi wneud y cais yn ysgrifenedig i'r cydlynydd rhyddid gwybodaeth ar foi@gofalcymdeithasol.cymru. Nodwch yn glir pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.

Am gymorth pellach, cysylltwch â 029 2078 0672.

Diogelu data

Dan Ddeddf Diogelu Data 2018 mae gennych hawl gyffredinol i weld data personol a gedwir amdanoch. Caiff yr hawl hon ei hadnabod fel 'hawl unigolyn i’w wybodaeth'. Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd mae gennych hefyd yr hawl i gael gwybod a oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw amdanoch chi ac i gael copi o'r wybodaeth honno.

Os hoffech wneud cais am eich data personol, ysgrifennwch atom gan ddefnyddio ein cyfeiriad e-bost foi@gofalcymdeithasol.cymru a chynnwys y term ‘cais am ddata personol’ i'n helpu i gyfeirio'ch cais yn gyflym. Bydd angen i ni wirio pwy ydych a'ch gwybodaeth cyswllt cyn i ni ystyried eich cais a rhyddhau unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym.

Os oes angen cyngor arnoch ar wneud cais am eich ddata personal, cysylltwch â 02920 780672 neu gweler ganllawiau'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Y Comisiynydd Gwybodaeth

Ceir Comisiynydd Gwybodaeth sy'n sicrhau bod yr holl ddeddfau mewn perthynas â rhyddid gwybodaeth a diogelu data yn cael eu dilyn. Rydym ni wedi'n cofrestru gyda'r comisiynydd felly gellir gwirio ein gwaith ni.

Cwynion ac adborth

Rydym yn deall bod pobl yn teimlo weithiau nad ydynt yn cael y cymorth cywir. Rydyn ni eisiau gwybod pryd mae hyn yn digwydd fel ein bod yn gwella'r ffordd rydyn ni'n gweithio.

Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth dylid cwblhau'r ffurflen cwyno, a byddwn yn edrych ymhellach i'r gŵyn.

Os na allwch lenwi'r ffurflen ar-lein, cliciwch ar y ffurflen gwyno isod i'w hargraffu. Gallwch ddychwelyd y ffurflen gwyno hon i

complaints@socialcare.wales neu drwy’r post i Gofal Cymdeithasol Cymru, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

Pan fyddwn yn cael pethau'n iawn, hoffem wybod. Cysylltu â ni i roi eich adborth.

Os yw'ch cwyn yn ymwneud â gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig, gweler sut rydym yn delio â phryderon.

Chwythu’r chwiban

Rydym wedi ein rhestru o dan Orchymyn Personau Rhagnodedig 2014 fel sefydliad dynodedig y gall unrhyw weithiwr yn y sector gofal cymdeithasol fynd ato i adrodd am gamweddau honedig neu hysbys. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘chwythu’r chwiban‘ neu’n wneud datgeliad hefyd.

Mae gan weithiwr yr hawl i beidio â chael ei ddiswyddo'n annheg na dioddef anfantais (fel cael ei wrthod i gael dyrchafiad) o ganlyniad i fod wedi gwneud datgeliad.

Fe ddylech chi gael yr amddiffyniad hwn os ydych chi'n codi pryder yn ddidwyll, mae hynny er budd y cyhoedd sy'n ymwneud ag un o'r categorïau hyn:

  • Trosedd
  • torri rhwymedigaeth gyfreithiol
  • camesgoriad cyfiawnder
  • perygl i iechyd neu ddiogelwch unigolyn
  • difrod i'r amgylchedd
  • ymdrin yn fwriadol â chamwedd yn y categorïau uchod.

Os hoffech chi siarad â ni a throsglwyddo gwybodaeth i ni am gamwedd yn y sector gofal cymdeithasol, Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r pennawd 'codi llais' neu 'chwythu'r chwiban'. Gallwch gyfeirio atoch eich hun fel Dienw os nad ydych am ddefnyddio'ch enw llawn.

Fel person rhagnodedig, mae gennym nifer o ddyletswyddau, sydd wedi’u hamlinellu mewn canllawiau gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ac un ohonynt yw adrodd yn flynyddol ar nifer y datgeliadau chwythu’r chwiban a dderbyniwn.

Ni wnaethom adrodd unrhyw ddatgeliadau chwythu’r chwiban i BEIS a Protect.org am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020.

Sut ni'n prynu nwyddau a gwasanaethau

Rydym yn prynu ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith adeiladu. Mae'r gwariant yn amrywio o symiau mawr i brosiectau bach iawn. Mae'r dudalen hon yn egluro sut rydym yn gwario ein harian. Gall helpu cyflenwyr i ddysgu mwy am gyfleoedd ac i roi cais am waith.

Rydym yn ceisio cael gwerth am arian. Mae hyn yn golygu cydbwyso ansawdd a chostau dros oes y gwariant.

Hoffwn weithio gyda'n cyflenwyr:

  • mewn awyrgylch agored a gonest
  • gyda disgwyliadau ac amcanion clir
  • gyda safonau clir i bawb.

Ein proses caffael

Mae'r math, gwerth a chymhlethdod cytundeb yn ein helpu i benderfynu ar y broses dendr. Rydym yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i gyd ar gyfer y broses pwrcasu. Wedyn rydym yn rhoi digon o amser i'r cyflenwyr baratoi eu cais.

Ar gyfer cytundebau o werth mawr neu rai cymhleth, rydym yn annog cyflenwyr i weithio mewn partneriaeth. Mae ceisiadau ar y cyd yn helpu cyflenwyr i fod yn fwy llwyddiannus wrth ennill gwaith.

Lle'n bosibl, rydym eisiau gweithio gyda chyflenwyr lleol a rhai o Gymru. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn hybu busnes lleol, datblygu sgiliau a dod â buddion cymunedol eraill.

Sut rydym yn prynu

Fel arfer rydym yn dilyn y rheolau cystadlu hyn wrth benderfynu ar gytundebau:

  • Dyfynbrisoedd (o dan £5k) – rydym yn gofyn am o leiaf 2 ddyfynbris ysgrifenedig.
  • Dyfynbrisoedd (£5k i £10k) – rydym yn gofyn am o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig.
  • Dyfyniadau (dros £10k) - rydym yn defnyddio proses Request for Quote (RFQ) mwy ffurfiol trwy Sell2Wales.
  • Tendrau (dros £25k) - mae cyfleoedd tendro dros y trothwy hwn (lle nad oes fframwaith ymarferol ar gael) yn cael ei hysbysebu ar Sell2Wales.
  • Contractau PCR 2015 (yn gyffredinol uwch na £ 122k) - rydym yn gosod hysbysebion ar wasanaeth Canfod Tendr trwy Sell2Wales.

Comisiynau ar y gweill 2023-24

  • Gwasanaethau Rheoli Prosiectau: Ail-osod Swyddfa Caerdydd. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 2.
  • Darparu Cwrs Dyfarniad Achrededig Rheolwr Iechyd Meddwl Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 2.
  • Gwasanaethau Llwyfannu a Goleuo: Gwobrau. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 2-3.
  • Gwasanaethau Cynhyrchu Fideo: Gwobrau. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 2-3.
  • Gwasanaethau Datblygu Cronfeydd Data, Rheolaeth ac Integreiddio Systemau. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 2-3.
  • Darpariaeth Gwasanaethau Ymchwil: Adolygiad o Rôl Cysylltydd Gyrfa Gofal Rhanbarthol. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 2-3.
  • Gwasanaethau Therapi Canolbwyntio ar Atebion Byr. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 3.
  • Hyfforddiant Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 3.
  • Darparu gwasanaethau gosod blaenoriaethau ar ymchwil data cysylltiedig â gofal cymdeithasol oedolion. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 3.
  • Ymarfer cwmpasu: Gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol: Chwarter 3.
  • Ysgrifennu cynnwys ar gyfer adnodd "sgwrs materion da i bobl â dementia": Chwarter 3.
  • Darparu Ap: Cysylltu AMHPs â Meddygon a.12 ar gyfer Asesiadau Deddf Iechyd Meddwl. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 3-4.
  • Cefnogaeth dylunio graffeg ar gyfer cynnwys sy'n gysylltiedig â thystiolaeth. Amcangyfrif o gyhoeddiad: Chwarter 3-4.

Rydym yn hysbysebu'r rhan fwyaf o'n cyfleoedd contract ar GwerthwchiGymru ac yn defnyddio'r y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i'n helpu i gyrchu nifer o fframweithiau i ddod o hyd i'r bargeinion gorau sydd ar gael.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu help i gynnig, cysylltwch â procurement@socialcare.wales neu ffoniwch 029 2078 0651.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.