CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheoleiddio addysg a hyfforddiant gwaith cymdeithasol

Gwybodaeth am sut rydyn ni’n rheoleiddio ac yn gosod safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

Pam rydyn ni’n rheoleiddio

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ein galluogi i gymeradwyo cymwysterau mewn gwaith cymdeithasol. Trwy'r broses hon rydyn ni’n sicrhau bod cymwysterau gwaith cymdeithasol ledled Cymru yn gyson, o safon uchel ac yn cwrdd ag anghenion pobl Cymru.

Gwnawn hyn drwy osod safonau ar gyfer hyfforddiant gwaith cymdeithasol ar lefelau cymhwyso ac ôl-gymhwyso sydd wedi'u cynnwys yn y rheolau a ddisgrifir isod. Rydyn ni’n cymeradwyo rhaglenni yn erbyn y rheolau ac yn parhau i sicrhau eu hansawdd, er mwyn gwneud yn siŵr bod y safonau'n cael eu cynnal.

Mae'r wybodaeth a geir o'n gwaith rheoleiddio yn rhoi gwybodaeth werthfawr am addysg gwaith cymdeithasol ac am fyfyrwyr gwaith cymdeithasol. Cyhoeddir y wybodaeth bob blwyddyn yn ein hadroddiad blynyddol – gallwch weld yr adroddiad diweddaraf yma:

Rhaglenni gwaith cymdeithasol cymwys

Mae’r ‘Fframwaith ar gyfer y radd gwaith cymdeithasol yng Nghymru’ yn amlinellu’r safonau ar gyfer y cymhwyster proffesiynol ac yn cynnwys:

  • y rheolau sy’n ymwneud â chymeradwyo a rheoleiddio’r rhaglen gymhwyso gwaith cymdeithasol
  • rhestr yn gosod allan gofynion mwy manwl ar gyfer cymeradwyo rhaglenni.

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi dogfen ar wahân sy'n darparu canllawiau atodol i'r rheolau.

Dylech ddarllen y canllawiau atodol ar y cyd gyda’r rheolau gan eu bod yn:

  • rhoi esboniad pellach o’r rheolau
  • rhoi fframwaith sy’n dangos bod pob myfyriwr sy’n llwyddo i gwblhau’r radd yng Nghymru yn cwrdd â’r gofynion cymhwysedd sylfaenol sy’n cael eu disgrifio yn y rheolau.

Y rhaglenni gwaith cymdeithasol cymwys sydd wedi’u cymeradwyo o dan y Rheolau yma yw:

Rhaglenni gradd israddedig

  • Coleg Penybont (wedi ei rhyddfreinio gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd) BSc Anrh GC
  • Prifysgol Fetropolitan Caerdydd BSc Anrh GC
  • Prifysgol Glyndŵr BA Anrh GC
  • Prifysgol Abertawe BSc Anrh GC
  • Y Brifysgol Agored BA Anrh GC (Cymru)

Rhagenni gradd ôl-raddedig

  • Prifysgol Bangor MA GC
  • Prifysgol Caerdydd MA GC
  • Prifysgol Abertawe MSc GC

Safonau a chanllawiau ychwanegol

Mae ‘Addasrwydd ar gyfer gwaith cymdeithasol’ yn rhoi canllawiau ar rolau a chyfrifoldebau sefydliadau addysg uwch, eu partneriaid cyflogi a ni er mwyn sicrhau bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn addas ar gyfer hyfforddiant a chofrestru proffesiynol.

Mae'r ‘Arweiniad ar addysg ymarfer ar gyfer y radd mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru’ yn rhoi mwy o wybodaeth am y disgwyliadau ar gyfer cefnogi dysgu ac asesu myfyrwyr yn ymarferol.

Mae ‘Safonau ar gyfer dysgu ymarfer yn y radd mewn gwaith cymdeithasol’ yn sicrhau cysondeb a thegwch wrth ddysgu'n ymarferol i bob myfyriwr. Mae’r safonau’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd a byddent yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Rhaid i raglenni gwaith cymdeithasol gynnwys pobl ag anghenion gofal cymdeithasol wrth reoli a chyflwyno rhaglenni cymeradwy. Mae ein safonau am gynnwys pobl yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, a byddent yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Rhaglenni gwaith cymdeithasol ôl-gymhwyso

Mae’r Rheolau Cymeradwyo ac Archwilio Cyrsiau ôl-gymhwyso ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol (Cymru) 2018 yn amlinellu’r safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-gymhwyso ac maen nhw’n cynnwys:

  • y rheolau sy’n ymwneud â chymeradwyo a rheoleiddio’r rhaglenni ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol
  • rhestr yn gosod allan gofynion mwy manwl ar gyfer cymeradwyo rhaglenni.

Mae yna hefyd gofynion penodol ar gyfer rhai rhaglenni ôl-gymhwyso – mae’r rhain yn ychwanegol i’r gofynion ôl-gymhwyso cyffredinol.

Codi pryder am raglen gofal cymdeithasol

Gall unrhyw un gysylltu â ni gyda phryder ynglŷn â rhaglen addysg gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys:

  • pobl sy’n ymgeisio ar gyfer rhaglen
  • myfyrwyr
  • pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr
  • sefydliadau sy’n ymwneud â darparu cyfleoedd dysgu ymarfer
  • pobl sy’n ymwneud â darparu rhaglenni gwaith cymdeithasol.

Mae ein pwerau statudol ond yn caniatáu i ni ymchwilio i bryderon am raglen os yw’n ymddangos nad ydy’r rhaglen wedi cydymffurfio gyda’r rheolau a’r gofyniadau y cawsant eu cymeradwyo oddi tano.

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar ein rheolau ar gyfer rhaglenni gofal cymdeithasol cymwys a rhaglenni ôl-gymhwyso.

Os ydych chi’n fyfyriwr, byddem yn eich cynghori i godi eich pryder gyda’ch darparwr addysg yn y lle cyntaf. Mae hyn oherwydd eu bod nhw yn y sefyllfa gorau i gydweithio â chi er mwyn ymateb i’ch pryderon. Dylech allu dod o hyd i wybodaeth am y drefn cwynion ar wefan y brifysgol.

Ni allwn ymchwilio i mewn i gwynion am benderfyniadau asesu, gan fod hyn tu allan i’n cylch gwaith. Yn ogystal, ni allwn newid canlyniad ymchwiliad cwyn unrhyw brifysgol, gallwn ni ond ymchwilio os ydy rhaglen yn parhau i gwrdd â’r amodau ar gyfer cymeradwyo.

Os ydych chi angen arweiniad ynglŷn â sut i ddelio â’ch pryder, cysylltwch â ni drwy e-bostio rheoleiddiohyfforddiant@gofalcymdeithasol.cymru.

Sut i godi pryder

I godi pryder, e-bostiwch rheoleiddiohyfforddiant@gofalcymdeithasol.cymru gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • eich manylion cyswllt, yn cynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
  • y rhaglen sy’n achosi pryder i chi
  • amlinelliad o’ch pryderon
  • unrhyw dystiolaeth berthnasol sy’n ymwneud â’ch pryder.

Byddwn ni’n cysylltu â chi o fewn saith diwrnod gwaith er mwyn gadael ichi wybod os gallwn ni ymchwilio i’ch pryder. Yna, byddwn ni’n eich cynghori am y camau nesaf yn y broses. Bydd hyn yn golygu cysylltu â’r rhaglen i adael iddyn nhw wybod am y gwyn ac i osod trefn ar gyfer yr ymchwiliad. Byddwn ni wedyn yn gadael i chi wybod am yr amserlen ac unwaith mae’r ymchwiliad drosodd, byddwn ni’n ysgrifennu i chi i adael i chi wybod y canlyniad.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.