CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cofrestru gweithiwr cartrefi gofal i oedolion

Gwybodaeth am gofrestru gweithwyr cartrefi gofal i oedolion, sy'n cynnwys sut i gofrestru, arweiniad i gyflogwyr a beth sy'n digwydd ar ôl i weithwyr gofrestru.

Pwy yw gweithwyr cartrefi gofal i oedolion?

Mae gweithwyr cartrefi gofal i oedolion yn weithwyr a gyflogir gan wasanaeth cartref gofal sy’n darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu ofalmewn lleoliad yng Nghymru. Mae gwasanaethau cartrefi gofal wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Efallai nad teitl y swydd fydd ‘gweithiwr cartref gofal i oedolion’, ond os bydd gweithiwr yn rhoi gofal a chymorth i oedolion mewn lleoliad gofal a llety, ac mae’r gweithle wedi’i gofrestru gydag AGC, bydd angen iddyn nhw gofrestru gyda ni.

Os yw nyrsys cymwys yn darparu gofal nyrsio yn unig yna ni fyddai angen iddynt gofrestru gyda ni, fodd bynnag, bydd angen iddynt gofrestru os ydynt yn darparu gofal a chymorth fel y disgrifir uchod. Hyd yn oed os yw nyrs wedi'i chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) bydd angen iddynt gofrestru gyda ni o hyd os yw'n dod o fewn y diffiniad o weithiwr cartref gofal oedolion.

Gwyliwch ein fideos astudiaethau achos i glywed am cofrestru fel gweithiwr cartref gofal i oedolion.

Pryd mae angen i weithwyr gofrestru?

Mae cofrestru ar gyfer pobl sy'n gweithio fel gweithwyr cartrefi gofal oedolion wedi bod yn orfodol ers mis Hydref 2022. Os oes angen i chi wneud cais i gofrestru, gwnewch hynny cyn gynted â phosibl.

  • Os ydych eisoes yn gweithio fel gweithiwr cartref gofal i oedolion, rhaid i chi wneud cais gyda ni cyn gynted â phosibl.
  • Os ydych wedi dechrau gweithio fel gweithiwr cartref gofal i oedolion cyn y 30 Medi 2022, bydd gennych 12 mis o ddyddiad cychwyn eich rôl i gofrestru
  • Os ydych wedi dechrau gweithio fel gweithiwr gofal i oedolion o 1 Hydref 2022 i 31 Mawrth 2023, bydd angen i chi gofrestru gyda ni erbyn 1 Hydref 2023.
  • Os ydych wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd gennych chi chwe mis o ddyddiad cychwyn eich rôl i gofrestru gyda ni.

Sut i gofrestru

Mae amryw o ffyrdd o gofrestru fel gweithiwr cartrefi gofal i oedolion.

Os ydych yn gweithio mewn rôl arall, gallwch ddarganfod mwy am ymgeisio yma.

1. Cofrestru gyda chymhwyster

I weithwyr sydd â chymhwyster ar Lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma, QCF neu NVQ) neu gymhwyster gyfwerth.

Gall gweithwyr hefyd cofrestru gan ddefnyddio’r City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, ond yna bydd angen iddynt gwblhau’r lefel 2 neu 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma QCF neu NVQ) o fewn tair blynedd.

Y camau nesaf:

2. Cofrestru drwy asesiad cyflogwr

Gall cyflogwyr gadarnhau cais eu gweithwyr i gofrestru ar ôl asesu eu dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd.

Rhaid i'r Cyflogwr fod yn hyderus bod gan y gweithiwr y ddealltwriaeth angenrheidiol fel y nodir yn asesiad y cyflogwr. Mae cyflogwr yn cwblhau'r asesiad hwn drwy gadarnhau'r wybodaeth yn eu cyfrif GCCarlien pan fydd gweithiwr yn cyflwyno cais ar-lein. Bydd angen i geisiadau ar-lein hefyd gael eu cymeradwyo gan y cyflogwr.

Bydd angen i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n defnyddio llwybr asesu'r cyflogwr i gofrestru, cwblhau un o'r cymwysterau a restrir yn y fframwaith cymwysterau o fewn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am y newid hwn i gofrestru.

Dysgwch fwy am sut i ddewis y llwybr hwn yn eich cais drwy wylio y fideo cam wrth gam yma.

Gwyliwch ein fideos am wneud cais i gofrestru.

Beth yw'r ffi cofrestru?

Y ffi er mwyn cofrestru fel gweithiwr cartref gofal oedolion yw £30.

Rhagor o wybodaeth am ffioedd cofrestru.

Pa gyfrifoldebau sydd gan gyflogwyr?

Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i gyflogwyr:

Gweler rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau cyflogwyr.

Gwyliwch ein fideo canllaw cyflym i gyflogwyr i ddeall sut i reoli unrhyw ofynnion a gwnawn a’r camau i chi gymryd.

Beth sy’n digwydd ar ôl cofrestru?

Bydd angen i weithwyr dalu ffi flynyddol i gynnal eu cofrestriad a chyflwyno cais i adnewyddu eu cofrestriad bob tair blynedd. Gellir gwneud hyn trwy eu cyfrif GCCarlein.

Rhagor o wybodaeth am adnewyddu cofrestriad.

Dylai gweithwyr hefyd roi gwybod i ni pan fyddant wedi cwblhau unrhyw ofyniad hyfforddi sydd ar eu cofrestriad. Er enghraifft, os oes angen iddynt gwblhau cymhwyster sy'n berthnasol i'w rôl yn ystod y tair blynedd gyntaf o gofrestru gyda ni, dylent anfon eu tystysgrif atom unwaith y bydd wedi'i dyfarnu.

Gweler ein fideo canllaw cyflym am eich cyfrifoldebau fel person cofrestredig.

Beth sy'n digwydd os na fydd gweithwyr yn dilyn y Côd Ymarfer?

Byddwn yn edrych i mewn i ymarfer gweithiwr pan godir pryder. Byddwn yn ystyried os yw ffitrwydd i ymarfer y gweithiwr wedi cael ei amharu (a effeithir yn negyddol).

Os nad yw gweithiwr yn addas i ymarfer, gellir eu tynnu oddi ar y Gofrestr ac ni fyddant yn gallu ymarfer yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth ar sut rydym yn delio a phryderon.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.