CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Strategaeth gweithlu

Mae ein gwaith wedi cael ei gynllunio i ddarparu gweithlu medrus o ansawdd uchel i Gymru, sydd yn ddigonol i gwrdd â’i ofynion.

Datblygu’r gweithlu

Rydym wedi gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) i ddatblygu strategaeth gweithlu gyntaf erioed ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a all ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hon wedi'i lansio erbyn hyn.

Datblygwyd y strategaeth yn sgil ymgynghoriad helaeth i gasglu ystod eang o farnau a hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau.

Adroddiad blynyddol

Mae ein hadroddiad blynyddol yn crynhoi'r prif feysydd cynnydd a gyflawnwyd yn yr ail flwyddyn lawn o’r strategaeth.

Cynllun darparu

Rydyn ni wedi datblygu cynllun darparu i gefnogi uchelgais strategaeth y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r camau rydyn ni'n eu cymryd rhwng 2022 a 2023 yn erbyn pob un o themâu'r strategaeth i'w gweld yn y cynllun.

Os hoffech chi gael mwy o fanylion am strategaeth y gweithlu, cysylltwch â jon.day@gofalcymdeithasol.cymru

Ein cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Mae’r cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn gynllun ar y cyd rhyngom ni ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Ei nod yw gwireddu amcanion gwasanaethau iechyd meddwl y strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gan y cynllun 33 gweithred. Mae’r gweithrediadau’n cefnogi datblygiad gweithlu iechyd meddwl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol sy’n frwdfrydig, ymgysylltiol ac sy’n cael eu gwerthfawrogi, ac sydd â’r gallu i gwrdd ag anghenion pobl Cymru.

I greu’r cynllun, fe wnaethom ni siarad â phobl yn y sector, gan gynnwys:

  • pobl sydd â phrofiad byw o iechyd meddwl
  • cyflogwyr
  • undebau llafur
  • cyrff proffesiynol
  • colegau brenhinol
  • llywodraeth.

Fe wnaethom ni wrando ar y bobl sy’n darparu ein gwasanaethau iechyd meddwl i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw. Fe wnaethom ni hefyd edrych ar ymchwil, data am y gweithlu a rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Y cynllun hwn yw ein ffordd o ddod a newidiadau arwyddocaol a gwelliannau i sut rydyn ni’n datblygu, gwerthfawrogi a chefnogi ein gweithlu iechyd meddwl, mewn cydnabyddiaeth o’u rôl allweddol.

Cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol: 2022 i 2025

Rydyn ni wedi creu cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol i gefnogi Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’n nodi’r camau gweithredu i gefnogi’r proffesiwn gwaith cymdeithasol i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n eu hwynebu ar hyn o bryd, er mwyn iddo allu darparu’r gofal a’r cymorth gorau posib i bobl.

Cynllun gweithlu gofal uniongyrchol: 2022 i 2025

Rydyn ni wedi ysgrifennu cynllun gweithlu gofal uniongyrchol i gefnogi Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dyma ein cynllun i gefnogi gweithwyr gofal uniongyrchol i deimlo eu bod yn cael gofal, yn gweithio mewn diwylliant tosturiol a chynhwysol, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Mai 2022
Diweddariad olaf: 5 Medi 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (32.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch