CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adnoddau a all gefnogi cyflogwyr gofal cymdeithasol i fodloni rheoliadau safonau gwasanaeth

Gall y rhestr hon o adnoddau gefnogi cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau i fodloni rheoliadau safonau gwasanaeth

Sut all yr adnoddau helpu

Gall y rhestr hon o adnoddau gefnogi cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau i:

"sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi gan niferoedd priodol o staff sydd â’r gwybodaeth, cymhwysedd, sgiliau a chymwysterau i ddarparu’r lefelau o ofal a chymorth sydd eu hangen i alluogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol."

Gofynion ar Ddarparwyr Gwasanaethau o ran Staffio, Rhan 10 o'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

Fframweithiau sefydlu Cymru gyfan

Cymwysterau Craidd ac Ymarfer

  • Mae cynnwys y cymwysterau craidd ac ymarfer yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn disgwyl i weithwyr ei wybod, ei ddeall a'i roi ar waith.
  • Mae unedau arbenigol yn y cymwysterau ymarfer i adlewyrchu rolau gweithwyr.
  • Rydyn ni’n annog rheolwyr i edrych ar yr unedau hyn, sydd ar gael ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru, a bod yn rhan o ddewis y rhai perthnasol gyda'u gweithwyr fel rhan o'r broses gymhwyso.

Cod Ymarfer Proffesiynol

  • Mae'r Cod Ymarfer Proffesiynol yn set o reolau, neu safonau y mae'n rhaid i weithwyr gofal proffesiynol weithio yn unol â nhw, i helpu i'ch cadw'n ddiogel ac yn iach.

Canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cofrestredig

  • Mae'r canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cofrestredig yn cynnwys adrannau sy'n amlinellu’r hyn a ddisgwylir gan gweithwyr cartref gofal i oedolion sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant a reoleiddir yng Nghymru

  • Mae'r fframwaith cymhwyster yn egluro’r cymwysterau gofynnol a'r gofynion sefydlu ar gyfer rolau swyddi o fewn gofal cymdeithasol

Cofrestru gweithiwr gofal cymdeithasol

  • Disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol y mae'n ofynnol iddynt gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru gyflawni 45 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus dros eu cyfnod cofrestru o dair blynedd.
  • Mae canllawiau ar ein tudalennau cofrestru am yr hyn a ystyrir yn ddatblygiad proffesiynol parhaus derbyniol ac mae cefnogaeth i weithwyr gofal proffesiynol i adnewyddu eu cofrestriad
  • Dylai goruchwyliaeth a gwerthusiadau unigol helpu i nodi anghenion dysgu a datblygu sy'n benodol i bob gweithiwr.

Digwyddiadau cymwysterau a safonau

Gallwch weld unrhyw ddigwyddiadau cymwysterau a safonau yma.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau, drwy iwqueries@socialcare.wales