CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gwybodaeth ac arweiniad ar ddod o hyd i gymhwyster

Gwybodaeth ac arweiniad ar sut i ddod o hyd i gymhwyster ar gyfer gwahanol swyddi o fewn gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru, beth yw'r meini prawf ar gyfer cynnwys cymwysterau a sut y gall gefnogi datblygiad proffesiynol.

Sut gellir defnyddio’r darganfyddwr cymwysterau

Mae’n bosib defnyddio’r darganfyddwr cymwysterau i helpu i gael gwybod y canlynol:

  • pa gymwysterau sy'n ofynnol neu sy’n cael eu hargymell mewn maes gwasanaeth
  • pa gymwysterau sy'n ofynnol neu sy’n cael eu hargymell ar gyfer rôl
  • pa hyfforddiant sefydlu sydd ei angen
  • beth fydd yn ddefnyddiol neu’n ofynnol er mwyn diweddaru, cynnal a datblygu sgiliau a gwybodaeth

Mae'r darganfyddwr cymwysterau hefyd yn gallu helpu i wneud y canlynol:

  • gwella gwybodaeth, cymhwysedd a hyder staff
  • gwneud yn siŵr bod gan bobl y cymwysterau priodol yn ystod y broses recriwtio
  • gosod safonau gwasanaeth yn ystod y broses gomisiynu
  • safoni hyfforddiant ac asesiadau sy’n cael eu comisiynu a’u darparu
  • datblygu polisïau sefydliad a chytuno arnynt
  • cynlluniau olyniaeth ar gyfer pobl allweddol mewn gwasanaethau
  • cynlluniau cynnydd a datblygu personol ar gyfer staff
  • cynllunio’r gweithlu a rhoi cyngor gyrfa
  • cadarnhau cymwysterau hŷn a chymwysterau o wledydd eraill yn y DU
  • gwaith arolygu a rheoleiddio gwasanaethau gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • gwaith sicrhau ansawdd a monitro gan gomisiynwyr neu unigolion cyfrifol.

Mae gan rai rolau a meysydd gwasanaeth ofynion ymarfer penodol:

  • y cymwysterau sy’n ofynnol o dan reoliadau, deddfwriaethau a safonau gofynnol cenedlaethol (NMS) ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant y blynyddoedd cynnar
  • y cymwysterau y mae’n rhaid i weithwyr a rheolwyr eu cael er mwyn cofrestru â ni.

Mae gan wasanaethau a rolau eraill lle nad yw'r gofynion hyn yn berthnasol (rolau sydd ddim yn cael eu rheoleiddio) gymwysterau a argymhellir. Bydd hyn yn sicrhau bod gan bobl gymwysterau, gwybodaeth a sgiliau priodol y mae modd eu trosglwyddo.

Beth yw’r meini prawf ar gyfer cynnwys cymwysterau

Mae’r cymwysterau gofynnol – dylai pob un ohonynt fod ar gael yn ddwyieithog – wedi cael sêl bendith ystod eang o bartneriaid er mwyn adlewyrchu’r anghenion a'r egwyddorion isod. Mae’r rhain yn cael eu galw’n “egwyddorion cynllunio”:

  • maent yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) sy’n briodol i anghenion y sector
  • mae cymhwysedd yn cael ei asesu yn y gweithle
  • maent yn cael eu dilysu’n allanol
  • maent yn seiliedig ar dystiolaeth ddibynadwy a chadarn o anghenion y cyflogwr a gwasanaethau
  • gellir eu gwneud yn gydnaws â fframweithiau cymwysterau ar draws y DU
  • maent wedi'u strwythuro mewn ffordd sy'n cynnig llwybrau dilyniant, yn ogystal â chyfleoedd i astudio hyd a/neu led gwybodaeth a sgiliau
  • maent yn gallu ymateb yn hyblyg i anghenion y sector a’i ddysgwyr, gan gynnwys modelau cyflawni, iaith a hygyrchedd
  • maent yn cydnabod mathau gwahanol o ddysgu, gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau.

Sut mae'r fframweithiau sefydlu yn ffitio i mewn?

Mae dau brif fframwaith sefydlu ar gyfer y gweithlu sef Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant a Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer Iechyd a gofal cymdeithasol (AWIF).

Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant

Mae’r fframwaith yn cynnig strwythur sy’n galluogi pawb i ddeall y broses sefydlu, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y dylai gweithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd. Mae'r rheoliadau presennol a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gyfer plant hyd at 12 oed yn cynnwys gofyniad y dylai pob ymarferydd gael hyfforddiant sefydlu – gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant ac iechyd a diogelwch – yn ystod ei wythnos gyntaf yn y swydd.

Pwy ddylai gwblhau'r fframwaith sefydlu hwn?

P’un ai a ydynt yn cael eu cyflogi’n llawn-amser, yn rhan-amser, yn sesiynol neu’n gwirfoddoli, dylai’r fframwaith sefydlu gael ei gwblhau gan y canlynol:

  • gweithwyr sy’n newydd i’r sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar
  • gweithwyr sy’n newydd i sefydliad neu leoliad
  • gweithwyr sy’n ysgwyddo rôl newydd
  • gweithwyr sydd â phrofiad blaenorol mewn sector gwahanol
  • gweithwyr sy’n dychwelyd ar ôl seibiant gyrfa, neu
  • aelodau presennol o’r staff sy’n defnyddio'r fframwaith fel adnodd i gefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus.

Os yw’r gweithiwr wedi gweithio o’r blaen, does dim angen iddo gwblhau’r fframwaith sefydlu llawn, ond mae’n bosibl y bydd angen iddo gyflawni elfennau ohono.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith sefydlu ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer Iechyd a gofal cymdeithasol (AWIF)

Mae’r fframwaith yn creu sylfaen gadarn i weithwyr newydd er mwyn eu helpu i ddatblygu eu harferion a’u gyrfa yn y dyfodol yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn helpu i sicrhau dealltwriaeth glir o’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd sydd eu hangen er mwyn gwneud yn siŵr bod gweithwyr newydd yn ddiogel ac yn gymwys i ymarfer ar y cam hwn yn eu datblygiad. Mae'r fframwaith sefydlu wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae canlyniadau dysgu’r fframwaith sefydlu yr un fath â'r rheini sydd wedi’u cynnwys yn y cymhwyster ‘craidd’ ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Pwy ddylai gwblhau'r fframwaith sefydlu hwn?

P’un ai a ydynt yn cael eu cyflogi’n llawn-amser, yn rhan-amser, yn sesiynol neu’n gwirfoddoli, dylai’r fframwaith sefydlu gael ei gwblhau gan y canlynol:

  • gweithwyr sy’n newydd i’r sector
  • gweithwyr sy’n newydd i sefydliad neu leoliad
  • gweithwyr sy’n ysgwyddo rôl newydd
  • gweithwyr sydd â phrofiad blaenorol mewn sector gwahanol
  • gweithwyr sy’n dychwelyd ar ôl seibiant gyrfa, neu
  • aelodau presennol o’r staff sy’n defnyddio'r fframwaith fel adnodd i gefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus.

Os yw’r gweithiwr wedi gweithio o’r blaen, does dim angen iddo gwblhau’r fframwaith sefydlu llawn, ond mae’n bosibl y bydd angen iddo gyflawni elfennau ohono er mwyn dangos ei fod yn gymwys yn ei leoliad gwaith newydd.

Mae'r fframwaith sefydlu wedi cael ei gynllunio a’i ddatblygu er mwyn i’r holl weithwyr gofal a chymorth allu ei ddefnyddio.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith sefydlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)

Mae dysgu a datblygu proffesiynol a phersonol parhaus (DPP) yn golygu cynnal a gwella gwybodaeth a sgiliau gydol oes. Mae hyn yn helpu i symbylu pobl, yn ffordd o ddatblygu sgiliau arbenigol ac yn ategu gwasanaethau gofal a chymorth o ansawdd da. Mae’n bosibl y bydd pobl yn dysgu pethau newydd, a sut i helpu gyda sefyllfaoedd a ffyrdd o weithio mwy cymhleth. Gall helpu pobl i gyflawni nodau gyrfa, i wella eu hyder ac i gynyddu eu hymrwymiad.

Mae DPP yn gallu digwydd ar sawl ffurf, gan gynnwys drwy ddulliau anffurfiol fel y canlynol:

  • pwyso a mesur eich gwaith eich hun, a beth gellid ei wneud yn wahanol
  • gwylio arddangosiad
  • ‘cyfeillio’ neu gysgodi person mwy profiadol neu arbenigol (gan gynnwys gofalwr neu unigolyn sy'n defnyddio'r gwasanaeth)
  • gwaith ymchwil a darllen.

Gallai dulliau mwy ffurfiol gynnwys y canlynol:

  • dilyn cwrs neu fynd i gynhadledd
  • cyflawni cymhwyster
  • cwblhau uned neu lwybr arbenigol o'r cymwysterau
  • e-ddysgu a gweminarau
  • hyfforddi neu fentora
  • cymryd rhan mewn setiau dysgu gweithredol.

Mae DPP yn un o’r gofynion cofrestru pan fydd unigolyn yn cofrestru â ni, ac mae’n ddisgwyliedig o dan reoliadau gwasanaeth. Efallai y bydd angen dangos ychydig o waith diweddaru a datblygu. Rhagor o wybodaeth DPP.

Dyma rai adnoddau sy'n cynnig canllawiau a chymorth pellach:

Cymwysterau nad ydynt wedi'u cynnwys

Gwaith Chwarae

Mae’n bosibl y bydd angen i’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig, gyda phlant rhwng pump a 12 oed, gyflawni cymhwyster gwaith chwarae er mwyn bodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol a gofynion rheoleiddio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Bydd gofynion penodol ar gyfer rheolwyr o fis Medi 2021 ymlaen. Pan fydd lleoliad gofal plant yn darparu ar gyfer plant hyd at 12 oed, dylai fod gan y person â chyfrifoldeb y ddau gymhwyster canlynol:

  • cymhwyster gofal plant lefel 3 sy’n cael ei gydnabod yn y fframwaith cymwysterau, a
  • cymhwyster gwaith chwarae lefel 3 neu ddyfarniad llai.

Dylai fod gan y person â chyfrifoldeb mewn lleoliad chwarae cofrestredig ar gyfer plant hyd at 12 oed:

  • gymhwyster gwaith chwarae lefel 3.

Dylai fod gan y person â chyfrifoldeb ar gyfer cynllun chwarae yn ystod y gwyliau:

  • gymhwyster gwaith chwarae lefel 3.

Bydd angen i staff nad ydynt yn goruchwylio ond sydd wedi'u cynnwys yn y cymarebau staff cymwysedig wneud cymhwyster gwaith chwarae lefel 2.

O safbwynt gwarchodwyr plant, does dim newidiadau i'r gofyniad i gwblhau cwrs cyn cofrestru priodol, gan fod hyn eisoes yn ystyried anghenion plant hŷn.

Cyfwerthedd a dysgu blaenorol

Mae’n bosibl y gall cymhwyster sydd gan weithiwr yn barod edrych yn debyg neu’r un fath ag un sydd yn y fframwaith hwn. Ni all Gofal Cymdeithasol Cymru gadarnhau hyn ar gyfer pawb, dim ond y rheini y mae’n rhaid iddynt gofrestru. Dim ond y cymwysterau a restrir yn y fframwaith hwn a dderbynnir yng Nghymru fel rhai gofynnol neu rai a argymhellir, ond gallai cymwysterau eraill neu ddysgu blaenorol gyfrannu'n sylweddol at fodloni'r gofynion.

Efallai y gall Cyrff Dyfarnu eich helpu i baru tystiolaeth o ddysgu â'r hyn sy'n ofynnol o dan gymwysterau’r fframwaith hwn. Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yw’r enw am hynny. Os bydd gweithiwr am weithio yng Nghymru a bod y broses gofrestru’n galw am gymhwyster gofynnol, ond nad yw’r cymhwyster sydd gan y gweithiwr wedi'i restru yn y fframwaith hwn, gall y gweithiwr wneud cais i Gofal Cymdeithasol Cymru am asesiad o gyfwerthedd os yw’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • mae'r cymhwyster yn seiliedig ar gymhwysedd, fel y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) sy'n berthnasol i'r rôl
  • mae’r person wedi cael ei asesu yn y gweithle
  • rhaid bod yr unigolyn mewn rôl berthnasol wrth iddo gyflawni’r cymhwyster
  • rhaid bod yr unigolyn mewn lleoliad perthnasol wrth iddo gyflawni’r cymhwyster.

Cymwysterau sydd wedi cael eu cyflawni y tu allan i Gymru

Mae’r cymwysterau a gynigir yng ngwledydd y DU yn wahanol i’w gilydd. Rydym yn gweithio gyda partneriaid yn y DU i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau diangen sy’n atal cymwysterau a gweithwyr rhag symud ar draws ffiniau'r DU.

Bydd angen i weithwyr sydd wedi cyflawni eu cymhwyster yng Nghymru, ond sy'n awyddus i weithio yn un o wledydd eraill y DU, gysylltu â'r Cyngor Sgiliau Sector perthnasol i gael cyngor.

Lloegr
Gogledd Iwerddon
Yr Alban

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.