CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cymeradwyo cais

Pan fyddwch chi’n gwneud cais i gofrestru neu adnewyddu eich cofrestriad fel gweithiwr gofal cymdeithasol, rydym angen gwybod bod y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni yn gywir a’ch bod yn addas i gofrestru gyda ni.

Mae cael cymeradwyad yn dangos i ni nad oes unrhyw broblemau gyda’ch cymeriad, eich cymhwysedd na’ch addasrwydd i ymarfer.

Pwy sydd angen cymeradwyad

Byddwch angen rhywun i gymeradwyo'ch cais os ydych chi’n:

  • weithiwr cymdeithasol (gan gynnwys os ydych chi newydd gymhwyso neu’n byw y tu allan i’r DU)
  • rheolwr gwasanaeth mabwysiadu
  • rheolwr cartref gofal i oedolion
  • gweithiwr cartref gofal i oedolion
  • rheolwr lleoliad i oedolion
  • rheolwr adfocatiaeth plant a phobl ifanc
  • rheolwr gofal cartref
  • gweithiwr gofal cartref
  • rheolwr gwasanaeth maethu
  • rheolwr gofal preswyl i blant
  • gweithiwr gofal preswyl i blant
  • rheolwr canolfan breswyl i deuluoedd
  • gweithiwr canolfan breswyl i deuluoedd.

Os ydych chi’n gwneud cais i gofrestru fel myfyriwr gwaith cymdeithasol, bydd eich prifysgol yn cadarnhau manylion eich cais yn awtomatig.

Sut mae’n gweithio

Pan fyddwch chi’n gwneud cais i gofrestru, bydd angen i chi ddewis yr unigolyn a fydd yn cymeradwyo’ch cais o restr o gymeradwywyr posibl ar gyfer eich cyflogwr.

Yna, byddwn yn anfon e-bost atynt i roi gwybod iddynt ein bod yn aros i wirio’ch manylion yn eu cyfrif GCCarlein.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eu bod yn cwblhau’ch cymeradwyad, er mwyn i ni allu dechrau prosesu’ch gwybodaeth.

Os ydych chi’n adnewyddu’ch cofrestriad, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod eich adnewyddiad wedi’i gwblhau 21 diwrnod cyn eich dyddiad adnewyddu.

Mae hyn yn cynnwys talu'ch ffioedd a sicrhau bod yr unigolyn a ddewiswyd i gefnogi’ch adnewyddiad (os oedd angen) wedi cwblhau’r cymeradwyad.

Pwy all gymeradwyo cais

Dylai gymeradwywyr:

  • fod yn llofnodydd Gofal Cymdeithasol Cymru cymeradwy ar gyfer eich sefydliad
  • fod mewn rôl uwch na chi
  • lle’n bosibl, fod wedi cael gwiriad heddlu fel gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • fod yn weithiwr proffesiynol nad yw’n perthyn i chi nac mewn perthynas bersonol â chi.

Gall gymeradwywyr:

Gall y sawl sy’n cymeradyo eich cais amrywio yn dibynnu at y gwaith rydych chi’n ei wneud neu sut rydych chi’n cael eich cyflogi.

Os ydych chi’n cael eich cyflogi ym maes gofal cymdeithasol

Y llofnodwr Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer eich sefydliad ddylai fod yn gymeradwywyr i chi.

Os oes gennych chi fwy nag un swydd gofal cymdeithasol, byddwch angen rhywun o’r naill sefydliad a’r llall i cymeradwyo’ch cais.

Os ydych chi’n gwneud cais am rôl gofrestredig lle nad oes unrhyw un ar lefel uwch i gymeradwyo’ch cais (er enghraifft, chi yw’r unigolyn cyfrifol ar gyfer eich sefydliad), byddwn yn gwirio’ch cofrestriad ag Arolygiaeth Gofal Cymru a fydd yn cael ei ystyried fel gymeradwywr.

Os ydych chi’n hunangyflogedig ym maes gofal cymdeithasol neu’n cael eich cyflogi gan aelod o’ch teulu

Dylech gael gymeradwywr gan ddau unigolyn uwch o wahanol gyflogwyr gofal cymdeithasol.

Mae angen i un cyflogwr gwblhau’r adran cymeradwyo ac i’r llall gydlofnodi fel ail gymeradwywr.

Mae’n rhaid i’r ddau gymeradwywr fod wedi’ch adnabod ers dwy flynedd o leiaf a nad yw’n perthyn i chi nac mewn perthynas bersonol â chi.

Os ydych chi’n cael eich cyflogi ym maes gofal cymdeithasol gan asiantaeth gyflogaeth

Y llofnodwr cymeradwy ar gyfer yr asiantaeth gyflogaeth ddylai fod yn gymeradwywr i chi.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais neu’n adnewyddu ar GCCarlein, byddwch yn gweld rhestr o bobl sy’n llofnodyddion ar gyfer eich asiantaeth gyflogaeth.

Bydd angen i chi ddewis unigolyn o’r rhestr i gymeradwyo’ch cais.

Os ydych chi’n gweithio ar secondiad

Dylai llofnodydd Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y sefydliad y cawsoch eich secondio ganddo a’r llofnodydd ar gyfer y sefydliad y cawsoch eich secondio iddo gymeradwyo’ch cais.

Mae angen i chi restru’r ddau gyflogwr fel ‘cyflogaeth bresennol’ wrth lenwi’ch cais ar GCCarlein, er mwyn i chi allu gweld rhestr o bobl sy’n llofnodyddion ar gyfer y ddau sefydliad.

Dylech ddewis cymeradwywyr o’r rhestr hon i’w cysylltu â’ch cais.

Os ydych chi’n weithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso

Y llofnodwr Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer eich sefydliad ddylai fod yn gymeradwywr i chi.

Os nad oes gennych chi swydd ym maes Gofal Cymdeithasol Cymru eto, bydd angen i chi gael eich ardystio gan lofnodydd Gofal Cymdeithas Cymru ar gyfer eich cwrs gwaith cymdeithasol.

Os ydych chi’n ddi-waith

Rydych chi angen dau unigolyn i’ch gymeradwyo. Mae’n rhaid i’r unigolyn cyntaf fod yn un o’r canlynol:

  • eich cyflogwr gofal cymdeithasol mwyaf diweddar, os cawsoch eich cyflogi yn y tair blynedd diwethaf
  • y llofnodydd ar gyfer eich cwrs gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol, os ydych chi wedi cwblhau’r cwrs yn y tair blynedd diwethaf
  • perchennog neu reolwr busnes gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda ni ac sy’n gwybod am eich gwaith
  • rhywun ar lefel uwch o gyflogwr gofal cymdeithasol.

Mae’n rhaid i’r ail unigolyn fod yn unigolyn proffesiynol sydd wedi’ch adnabod ers o leiaf dwy flynedd ac sy’n gallu tystio i’ch cymeriad da a’ch addasrwydd i gofrestru. Gallai fod yn:

  • weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig
  • ynad
  • meddyg
  • cyfreithiwr
  • pennaeth ysgol.

Os nad yw’r unigolyn proffesiynol hwn yn llofnodydd, ni all eich gymeradwyo ar system GCCarlein.

Ond gall roi geirda i chi i fynd law yn llaw â’r gymeradwywr gan yr unigolyn cyntaf a ddewiswyd i’ch gymeradwyo.

Yn y geirda, bydd angen iddo gynnwys:

  • ei gyfeiriad cartref
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn esboniad o sut mae’n eich adnabod chi.

Os ydych chi’n cael swydd ym maes gofal cymdeithasol tra byddwch yn gwneud cais i gofrestru

Bydd angen i chi gael eich cymeradwyo gan lofnodydd ar gyfer y sefydliad hwnnw. Bydd angen i chi argraffu’ch ffurflen gais wedi’i chwblhau o GCCarlein, er mwyn i’r gymeradwyad gael ei gwblhau â llaw.

Os ydych chi’n cael eich cyflogi y tu allan i faes gofal cymdeithasol

Os oes angen i chi gofrestru a’ch bod wedi bodloni ein gofynion (er enghraifft, darparu tystiolaeth eich bod yn bwriadu ymarfer yng Nghymru), bydd angen dau gymeradwr arnoch chi.

Mae angen i’r unigolyn cyntaf fod yn un o’r canlynol:

  • eich cyflogwr gofal cymdeithasol mwyaf diweddar, os cawsoch eich cyflogi yn y tair blynedd diwethaf
  • y llofnodydd ar gyfer eich cwrs gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol, os ydych chi wedi cwblhau’r cwrs yn y tair blynedd diwethaf
  • perchennog neu reolwr busnes gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda ni ac sy’n gwybod am eich gwaith
  • rhywun ar lefel uwch o gyflogwr gofal cymdeithasol
  • cadeirydd y bwrdd neu gorff llywodraethwyr ar gyfer y sefydliad rydych chi’n ei reoli
  • perchennog neu reolwr busnes gofal cymdeithasol sydd wedi’i gofrestru gyda ni ac sy’n gwybod am eich gwaith.

Mae’n rhaid i’r ail unigolyn fod yn gweithio i’ch cyflogwr presennol y tu allan i faes gofal cymdeithasol, eich asiantaeth gyflogaeth neu unigolyn proffesiynol sydd wedi’ch adnabod am ddwy flynedd o leiaf.

Mae angen i’r unigolyn hwn allu tystio i’ch cymeriad da a’ch addasrwydd i gofrestru. Gallai fod yn:

  • weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig
  • ynad
  • meddyg
  • cyfreithiwr
  • pennaeth ysgol.

Os nad yw’r unigolyn proffesiynol hwn yn llofnodydd, ni all eich ardystio ar ein system GCCarlein.

Ond gall roi geirda i fynd law yn llaw â’r cymeradwyad a ddarparwyd gan yr unigolyn cyntaf a ddewiswyd gennych i’ch cymeradwyo.

Yn y geirda, bydd angen iddo gynnwys:

  • ei gyfeiriad cartref
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn esboniad sut mae’n eich adnabod chi.

Os ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd wedi hyfforddi neu gymhwyso y tu allan i’r DU

Dylai eich cymeradwywr for yn uwch gynrychiolydd eich cyflogwr gofal cymdeithasol presennol neu fwyaf diweddar neu’n uwch gynrychiolydd o’ch cwrs gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol.

Mae’n debygol hefyd mai hwn fydd yr unigolyn sy’n gwirio’r wybodaeth a ddarparwyd gennych fel rhan o’ch cais i gofrestru neu fel rhan o gwblhau eich ffurflen asesu cywerthedd cymwysterau.

Os mai chi hefyd yw’r unigolyn cyfrifol a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Ni fyddwch angen cymeradwyad os ydych chi’n gwneud cais i gofrestru gyda ni.

Byddwn yn gwirio’ch cofrestriad gydag AGC a fydd yn cael ei ystyried fel cefnogaeth.

Os nad yw’ch gwasanaeth wedi’i gofrestru gydag AGC eto, dilynwch y canllawiau ar gyfer cymeradwyo’r hunangyflogedig.

Sut mae cael cymeradwyo'ch cais

  • Mewngofnodwch i GCCarlein
  • Cwblhewch eich cais neu adnewyddiad
  • Pan fyddwch yn cyrraedd adran ardystio’r ffurflen, dewiswch enw’ch ardystiwr o’r rhestr o’n llofnodyddion cymeradwy.

Ni allwch ofyn i gael cymeradwywr newydd os oes rhywun eisoes wedi’i restru yn eich sefydliad.

Gwyliwch ein fideo, sy’n dangos sut mae’r broses yn gweithio:

Os nad oes gan eich sefydliad unrhyw un ar ein system sy’n llofnodydd, gallwch naill ai:

  • ddewis ‘nid yw fy cymeradwywr wedi’i restru’ wrth gwblhau’ch cais ac ychwanegu’r manylion â llaw, neu
  • e-bostio llofnodwyr@gofalcymdeithasol.cymru a byddwn yn trefnu i unigolyn priodol i cymeradwyo’ch cais.

Ni all eich cymeradwywr weld unrhyw wybodaeth cydraddoldeb neu iechyd y byddwch yn ei chynnwys yn eich cais.

Sut mae cymeradwyo cais

Os ydych chi’n gymeradwywr, mae angen i chi:

  • ddarllen y cais a gwirio bod y wybodaeth y mae’r ymgeisydd wedi’i darparu yn cyfateb i’r wybodaeth sydd gennych chi amdano, gan gynnwys y manylion disgyblu ac addasrwydd i ymarfer
  • gwirio’r ffurflen yn erbyn cofnod cyflogaeth neu fyfyriwr yr ymgeisydd
  • cadarnhau pryd y cynhaliwyd archwiliad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd diweddaraf yr ymgeisydd fel rhan o’u cyflogaeth neu gwrs gwaith cymdeithasol
  • gwirio’r cofnod datblygiad proffesiynol parhaus, os oes angen
  • cwblhau’r wybodaeth ofynnol yn eich cyfrif GCCarlein i pob cais neu adnewyddiad y gofynnir i chi ei ardystio.

Os ydych chi’n cefnogi cais, gwyliwch ein fideo:

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau a ydych chi wedi llofnodi’r ffurflen a chadarnhau’ch hunaniaeth.

Byddwn yn anfon e-bost atoch chi i’ch atgoffa bod ffurflen yn aros i gael ei cymeradwyo.

Ni fyddwn yn gallu prosesu’r ffurflen tan i ni dderbyn yr cymeradwyad.

Os nad yw hyn wedi’i wneud, byddwn yn cau cais unigolyn heb eu hadnewyddu na’u cofrestru.

Cysylltu â ni

Os ydych chi angen cymorth i gael cymeradwyo’ch cais chi neu i chi cymeradwyo cais, e-bostiwch ein tîm cofrestru: ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru.