CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adnabod ac ymateb i gamdriniaeth a thrais domestig

Canllaw cyflym i weithwyr cymdeithasol i helpu i gydnabod ac ymateb i drais a cham-drin domestig. Mae'r canllaw yn seiliedig ar ganllawiau NICE ac mae wedi'i addasu ar gyfer ymarfer yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi staff, cefnogi pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, a sgyrsiau gyda gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

Cyflwyniad

Yn ôl diffiniad y Llywodraeth, mae unrhyw ymddygiad sy’n rheoli, gorfodi neu fygwth, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl 16 oed ac yn hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu sy’n aelodau o’r teulu, beth bynnag fo’u rhywedd neu eu rhywioldeb, yn gamdriniaeth a thrais domestig.

Trais domestig

Mae’n cynnwys cam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol, yn ogystal â thrais ar sail ‘anrhydedd’ a phriodas dan orfod. Mae salwch neu anabledd hirdymor, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, yn cynyddu risg unigolyn o brofi camdriniaeth neu drais domestig. Mae’r gyfraith yn pwysleisio bod rhyddid rhag camdriniaeth yn hanfodol i lesiant unigolyn (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) ac mae’n amlygu’r niwed i blant sy’n profi cam-drin domestig (Deddf Plant 2004).

Gofyn am gamdriniaeth a thrais domestig

Gofyn am brofiadau unigolyn yn ei berthnasoedd ac adnabod arwyddion o gamdriniaeth neu drais domestig yw’r camau cyntaf i sicrhau bod unigolyn yn cael y cymorth a’r gefnogaeth gywir.

  • Os ydych chi’n poeni y gall unigolyn fod yn profi camdriniaeth neu drais domestig, cynigiwch siarad yn breifat â’r unigolyn, rhywle y mae’n teimlo’n ddiogel.
  • Gofynnwch gwestiynau sensitif sy’n helpu’r unigolyn i siarad am ei brofiadau.
  • Os oes angen cymorth ar yr unigolyn i gyfathrebu, gan gynnwys cyfieithydd, defnyddiwch weithiwr proffesiynol sy’n ddiduedd ac y mae dyletswydd arno i gynnal cyfrinachedd. Peidiwch â defnyddio teulu a ffrindiau.
  • Bydd llawer o bobl yn poeni am rannu’r hyn sy’n digwydd iddyn nhw. Gall eich ymateb eu helpu i wybod nad ydynt nhw ar eu pen eu hunain ac i deimlo y byddant yn cael eu credu.

Byddwch yn ymwybodol o effaith bosibl materion cydraddoldeb ac amrywiaeth:

Gallai eich rhagdybiaethau am gredoau, gwerthoedd, oedran, hunaniaeth rhywedd neu rywioldeb pobl effeithio ar y ffordd rydych chi’n adnabod ac yn ymateb i gamdriniaeth a thrais domestig.

Mae risg priodas dan orfod i bobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thraws hefyd.

Gall trais ar sail ‘anrhydedd’ gael ei ysgogi gan hunaniaeth rhywedd neu rywioldeb unigolyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol i gynorthwyo pobl sy’n profi neu sy’n cyflawni camdriniaeth neu drais domestig, a sut i atgyfeirio.

Hyfforddiant a goruchwyliaeth

Dylech gael hyfforddiant parhaus a goruchwyliaeth gyson i’ch cynorthwyo i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen i ddeall camdriniaeth a thrais domestig, a rôl gweithwyr proffesiynol o ran sicrhau diogelwch pobl. Os yw eich rôl yn ymwneud yn benodol â diogelu, dylech fod yn hyderus hefyd i adnabod ac asesu risg (yn aml, trwy ddefnyddio adnodd cam-drin domestig, stelcian, aflonyddu a thrais seiliedig ar ‘anrhydedd’ (DASH)), cynllunio diogelwch a chydweithio â gwasanaethau cymorth arbenigol.

Ymateb i gamdriniaeth a thrais domestig

Ar ôl datgeliad

Os bydd unigolyn yn gwneud datgeliad am gamdriniaeth neu drais domestig, y flaenoriaeth gyntaf yw diogelwch yr unigolyn a diogelwch pobl eraill, gan gynnwys unrhyw blant y gall fod effaith arnynt.

1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am y Ddeddf Diogelu Data (2018), canllawiau proffesiynol a phrotocolau lleol yn ymwneud â chyfrinachedd a rhannu gwybodaeth.

Sicrhewch eich bod yn gwybod am:

  • Gael cydsyniad gan bobl i rannu eu gwybodaeth
  • Dweud wrth bobl pan fydd eu gwybodaeth yn cael ei rhannu, a chyda phwy
  • Pryd y gall fod angen rhannu gwybodaeth heb gydsyniad er mwyn cadw’r unigolyn yn ddiogel.

2. Rhannwch wybodaeth am wasanaethau arbenigol a chynigiwch atgyfeirio, gan gynnwys atgyfeirio i grŵp cymorth lleol.

3. Ystyriwch y math o gymorth y mae ei angen, ar unwaith ac yn y tymor hwy.

4. Os oes gan y person anghenion ychwanegol sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol neu gyffuriau, neu broblemau iechyd meddwl, cynigiwch atgyfeirio’r unigolyn i’r gwasanaeth perthnasol, yn ogystal ag i gymorth ynghylch camdriniaeth a thrais domestig.

5. Cofnodwch eich trafodaeth a’r camau gweithredu y cytunoch arnynt.

Gwasanaethau arbenigol

Dylech wybod beth gall eich gwasanaethau arbenigol lleol ei gynnig a sut i atgyfeirio rhywun i gael y cymorth hwn.

  • Gall gwasanaethau camdriniaeth a thrais domestig helpu i fynd i’r afael â niwed emosiynol, seicolegol, corfforol a rhywiol. Gallant gynnig cyngor, helpu i ddatblygu cynlluniau at y dyfodol a chynyddu diogelwch yr unigolyn.
  • Mae gwasanaethau’n cynnwys llochesi, eiriolaeth, cymorth fel y bo’r angen, cefnogaeth allgymorth, cymorth arbenigol i’r rhai sy’n cyflawni camdriniaeth a thrais domestig, ac ymyriadau wedi’u haddasu’n bwrpasol, ynghyd â gweithwyr tai, cynghorwyr annibynnol ar drais domestig, a Chynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg i bobl uchel eu risg.
  • Byddwch yn ymwybodol y gallai cael at wasanaethau camdriniaeth a thrais domestig, neu eu defnyddio, fod yn fwy anodd i rai pobl. Gallai hyn gynnwys pobl hŷn, dynion, pobl ag anableddau, pobl o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws. Hefyd, gall gynnwys pobl nad oes ganddynt hawl i fudd-daliadau, gwasanaethau tai a gwasanaethau cyhoeddus eraill, oherwydd eu statws mewnfudo fel arfer. Gallai cymorth ychwanegol ac eiriolaeth helpu yn hyn o beth.

Plant a phobl ifanc

Gall camdriniaeth a thrais domestig effeithio’n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys ei ofni, ei glywed neu ei weld yn eu teulu eu hunain neu boeni am ei effaith ar rywun arall. Hefyd, gallant gael profiad ohono yn eu perthnasoedd agos eu hunain os ydynt yn 16 oed neu’n hŷn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod yr arwyddion mewn plant a phobl ifanc, a’ch bod yn deall sut y gall effeithio arnyn nhw. Hefyd, dylech:

  • Wybod sut i siarad â phlant a phobl ifanc am gamdriniaeth a thrais domestig.
  • Casglu a rhannu gwybodaeth i lunio darlun clir o amgylchiadau, risgiau ac anghenion y plentyn neu’r person ifanc.
  • Gwybod sut a phryd i atgyfeirio i wasanaethau amddiffyn plant a phwy i gysylltu â nhw i gael cyngor ynghylch p’un a oes angen atgyfeirio.
  • Gwybod am bolisïau a gweithdrefnau lleol ynghylch camdriniaeth a thrais domestig. Dylech wybod sut i gael at wasanaethau sy’n gallu cynnig cymorth os yw camdriniaeth a thrais domestig wedi effeithio ar blant a phobl ifanc.

Rhagor o wybodaeth