CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Sut i wneud cais

Gwybodaeth a chyngor ynglŷn â gwneud cais i gofrestru gyda ni, gan gynnwys canllawiau i’r rhai sydd am ddychwelyd i’r Gofrestr a gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso’r tu allan i’r DU.

Pwy sy’n gallu cofrestru

Mae’r Gofrestr yn agored i’r grwpiau gweithwyr canlynol:

  • gweithwyr cymdeithasol
  • myfyrwyr gwaith cymdeithasol

Rheolwyr gofal cymdeithasol

  • rheolwyr gofal preswyl i blant
  • rheolwyr cartrefi gofal i oedolion
  • rheolwyr gofal cartref
  • rheolwyr gwasanaethau mabwysiadu (yn orfodol o 2022 ymlaen)
  • rheolwyr lleoli oedolion (yn orfodol o 2022 ymlaen)
  • rheolwyr eiriolaeth (yn orfodol o 2022 ymlaen)
  • rheolwyr gwasanaethau maethu (yn orfodol o 2022 ymlaen)
  • rheolwyr canolfannau preswyl i deuluoedd.

Gweithwyr gofal cymdeithasol

  • gweithwyr gofal preswyl i blant
  • gweithwyr gofal cartref
  • gweithwyr cartrefi gofal i oedolion (yn orfodol o fis Hydref 2022 ymlaen)
  • gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd (yn orfodol o fis Hydref 2022 ymlaen)

Mae’n rhaid i’r holl weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gofrestru ar ôl cwblhau eu cymhwyster neu ddechrau yn y swydd.

Rhaid i bob gweithiwr gofal cymdeithasol arall gofrestru cyn pen chwe mis ar ôl dechrau yn y swydd.

Gwneud cais am y tro cyntaf

Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntraf, bydd angen i chi greu cyfrif GCCarlein i reoli’ch cofrestriad gyda ni.

Mae SCWonline yn caniatáu ichi:

Gwybodaeth y bydd angen arnoch i wneud cais

  • gyfeiriad e-bost personol
  • eich rhif yswiriant gwladol
  • manylion eich swydd (gan gynnwys cyfeiriad, teitl swydd a dyddiad dechrau neu ddyddiad dechrau yn y dyfodol os yw’n swydd newydd)
  • eich hanes cyflogaeth dros y pum mlynedd diwethaf
  • eich manylion banc i sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu eich ffioedd
  • dyddiad eich gwiriad cofnodion troseddol (DBS) diweddaraf
  • cadarnhad eich bod yn bwriadu ymarfer yng Nghymru
  • copïau wedi’u gwirio o’ch dogfennau adnabod, oni bai eich bod wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o fewn y tair blynedd diwethaf neu os ydych yn rhan o’i wasanaeth diweddaru (nid yw hyn yn orfodol i fyfyrwyr)

Manylion eich llwybr i gofrestru

Byddwch chi angen:

Cofnod disgyblu a chofnod troseddol

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym yn eich cais:

  • os oes gennych gofnod disgyblu
  • os ydych yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd
  • os oes gennych gofnod troseddol.

Cymeradwyo’ch cais

Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru gael eu cymeradwyo i gadarnhau eich cymeriad da ac nad oes unrhyw resymau pam na ddylech fod ar y Gofrestr.

Ar eich ffurflen gais byddwn yn gofyn i chi ddewis person, o restr o bobl gymeradwy (llofnodwyr) ar gyfer eich sefydliad, i gymeradwyo'ch cais.

Bydd y sawl sy’n eich cymeradwyo yn gallu gweld yr holl wybodaeth ar eich ffurflen gais ac eithrio’ch atebion i’r cwestiynau am iechyd a chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae’n rhaid i’r sawl sy’n eich cymeradwyo fod yn unigolyn proffesiynol nad yw’n perthyn i chi ac nad oes ganddo/ganddi berthynas bersonol â chi.

Os ydych yn cymhwyso mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru, dewiswch lofnodwr o ddarparwr y cwrs gradd neu’ch cyflogwr gofal cymdeithasol presennol. Os byddwch yn cael swydd erbyn i ni dderbyn cadarnhad o’ch cymhwyster, byddwn yn cysylltu â’ch cyflogwr newydd. Mae hyn yn digwydd cyn i ni gwblhau eich cofrestriad.

Eich iechyd

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol a allai effeithio ar eich gallu i weithio ym maes gofal cymdeithasol.

Eich dogfennau

Anfonwch gopïau o’r dogfennau gwreiddiol sydd wedi cael eu gwirio gan y sawl sy’n cymeradwyo’ch cais.

Gallwch anfon eich dogfennau trwy ddewis ‘Fy Mhroffil’ > ‘Lanlwytho dogfen’ yn eich cyfrif GCCarlein.

Darllenwch ein canllawiau ar anfon dogfennau atom.

Myfyrwyr gradd gwaith cymdeithasol

Os ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs gradd gwaith cymdeithasol yng Nghymru byddwch yn derbyn e-bost gennym i greu cyfrif GCCarlein er mwyn i chi allu gwneud cais i gofrestru.

Mae’n rhaid i chi gofrestru gyda ni cyn dechrau gradd gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

Os ydych yn ystyried astudio am radd gwaith cymdeithasol mewn prifysgol yng Nghymru, mae cynllun bwrsariaeth gwaith cymdeithasol ar gael.

Gweithwyr cymdeithasol sy’n dychwelyd i ymarfer

Os nad ydych wedi cofrestru’n weithiwr cymdeithasol neu os nad ydych wedi bod yn ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol ers tro, mae’n bosibl y bydd angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol i ni eich bod yn addas i ymarfer os ydych chi am ddychwelyd i weithio fel gweithiwr cymdeithasol.

Mae hyn yn berthnasol os ydych chi'n:

• gweithiwr cymdeithasol sydd wedi cael profiad o waith cymdeithasol ers cymhwyso, ond sydd heb gofrestru ers tair blynedd neu fwy
• gweithiwr cymdeithasol nad yw wedi ymarfer ers cymhwyso dros dair blynedd yn ôl.

Os ydych yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig sy’n dychwelyd i ymarfer bydd angen i chi ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol o ymarfer gwaith cymdeithasol i wneud cais i gofrestru.

Os ydych yn dychwelyd i ymarfer bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o CPD ar gyfer y cyfnod ers i chi gofrestru ddiwethaf.

Gweler ein canllaw Dychwelyd i ymarfer gwaith cymdeithasol am ragor o wybodaeth.

Darllenwch ein canllawiau am datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso’r tu allan i’r DU

​Dileu unigolion o’r Gofrestr

Os ydych wedi cael eich dileu o’r Gofrestr gan banel addasrwydd i ymarfer (gorchymyn dileu) gallwch wneud cais i ddychwelyd i’r Gofrestr bum mlynedd ar ôl y dyddiad i chi gael eich tynnu oddi arni.

I wneud cais i gofrestru eto, bydd angen i chi gwblhau cais ar GCCarlein. Bydd panel yn penderfynu a ddylid caniatáu’ch cais i gofrestru.

Gweithio’r tu allan i Gymru

Os ydych yn penderfynu gweithio’r tu allan i Gymru, bydd angen i chi gysylltu â chorff rheoleiddio’r wlad berthnasol.

Y cyrff rheoleiddio yn y DU yw:

Fideos canllaw cofrestru

Rydym wedi creu fideos canllaw i esbonio mwy am gofrestru.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Mehefin 2019
Diweddariad olaf: 22 Tachwedd 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (41.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch