CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pwy sydd angen cofrestru a pham?

Gwybodaeth am pwy sy'n gorfod cofrestru i weithio yng Nghymru, pam rydym yn cofrestru gweithwyr a manteision cofrestru.

Beth yw cofrestru?

Prif ddiben cofrestru yw diogelu'r cyhoedd gan sicrhau mai dim ond y rhai sy'n gymwys ac yn gymwysedig sy'n gallu darparu gofal a chymorth mewn rolau lle mae angen cofrestru.

Mae cofrestru gyda ni yn golygu eich bod yn rhan o weithlu proffesiynol a gallwch ddangos bod gennych sgiliau a gwybodaeth sy'n hanfodol i ddarparu gofal a chymorth da i bobl Cymru.

Dyma ganllaw fideo cyflym ar gofrestru gyda ni.

Pwy sydd angen cofrestru

Mae’r Gofrestr yn agored i’r grwpiau gweithwyr canlynol:

  • gweithwyr cymdeithasol
  • myfyrwyr gwaith cymdeithasol

Rheolwyr gofal cymdeithasol

  • rheolwyr gofal preswyl i blant
  • rheolwyr cartrefi gofal i oedolion
  • rheolwyr gofal cartref
  • rheolwyr gwasanaethau mabwysiadu
  • rheolwyr lleoli oedolion
  • rheolwyr eiriolaeth (gwasanaethau i blant a phobl ifanc)
  • rheolwyr gwasanaethau maethu
  • rheolwyr canolfannau preswyl i deuluoedd.

Mae’n rhaid i’r holl weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gofrestru ar ôl cwblhau eu cymhwyster neu ddechrau yn y swydd.

Gweithwyr gofal cymdeithasol

  • gweithwyr gofal preswyl i blant
  • gweithwyr gofal cartref
  • gweithwyr cartrefi gofal i oedolion
  • gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd.

Mae gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe mis o ddyddiad dechrau eu rôl i gofrestru gyda ni.

Mae'n ofyniad cyfreithiol i weithwyr yn y rolau hyn gofrestru gyda ni.

Os ydych chi’n gweithio mewn mwy nag un o’r grwpiau sydd wedi’u rhestru uchod, neu os byddwch yn newid y grŵp rydych chi’n gweithio ynddo, bydd angen i chi newid eich cofrestriad. Gallwch newid eich cofrestriad trwy fewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein.

Os nad ydych chi'n siŵr os ydych chi angen cofrestru gyda ni, neu pryd y dylech chi gofrestru, cysylltwch â'n tîm am help drwy e-bostio ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru.

Manteision cofrestru

Mae manteision bod yn berson cofrestredig yn cynnwys y canlynol:

Meithrin ymddiriedaeth a hyder

  • gall pobl ddibynnu ar weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig
  • mae gan bobl hyder o wybod eich bod yn dilyn y Côd

Gwerthfawrogi gweithwyr gofal cymdeithasol

  • gallwch ddangos bod gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol
  • gallwch ddangos eich bod wedi cael hyfforddiant a’ch bod yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu gwybodaeth a sgiliau
  • gall cyflogwyr ddarparu’r cymorth a’r datblygiad sydd eu hangen arnoch
  • trwy wybod mwy amdanoch bydd yn haws i ni gynllunio ffyrdd o’ch cynorthwyo.

Sicrhau bod pobl yn ddiogel

  • amddiffyn hawliau pobl a sicrhau eu bod yn cael gwrandawiad
  • cynorthwyo pobl i fod yn annibynnol ac i amddiffyn eu hunain
  • os nad yw gweithiwr yn addas i ymarfer, gellir ei dynnu oddi ar y Gofrestr fel nad yw’n gallu ymarfer yng Nghymru.

Manteision eraill

  • defnyddio teitl eich proffesiwn yn gyfreithlon
  • cymorth a gwybodaeth o’n dogfennau canllawiau ymarfer a’n cyhoeddiadau eraill
  • gwahoddiadau i ddigwyddiadau a chynadleddau
  • gwahoddiadau i ymgynghoriadau.

Dyma ddau fideo astudiaeth achos sy'n dangos manteision bod yn weithiwr cofrestredig gyda ni.

Pam rydyn ni'n cofrestru

Rydyn ni'n cadw cofrestr o bobl sydd wedi dangos eu bod yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol. Rhaid i bawb ar y Gofrestr ddangos eu bod:

Rydyn ni'n defnyddio Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2022 i gynnal y Gofrestr. Cymeradwyir y rheolau hyn gan Lywodraeth Cymru, a rhain yw'r fframwaith ar gyfer cofrestru'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Data ac adroddiadau cofrestru

Ers Mehefin 2023, y nifer o bobl gofrestredig yw:

  • 6,777 – gweithwyr cymdeithasol
  • 2 – rheolwr gwasanaeth mabwysiadu
  • 1,320 – rheolwyr cartrefi gofal i oedolion
  • 24,051 – gweithwyr cartrefi gofal i oedolion
  • 13 – rheolwyr lleoli oedolion
  • 5 – rheolwr eirioli i blant a phobl ifanc
  • 980 – rheolwyr gofal cartref
  • 21,746 – gweithwyr gofal cartref
  • 21 – rheolwyr gwasanaeth maethu
  • 354 – rheolwyr gofal preswyl i blant
  • 3,915 – gweithwyr gofal preswyl i blant
  • 6 – rheolwyr canolfan preswyl i deuluoedd
  • 62 – gweithwyr canolfan preswyl i deuluoedd
  • 835 – myfyrwyr gwaith cymdeithasol.

Bob blwyddyn, rydyn ni'n cyhoeddi adroddiadau data ar y wybodaeth a roddir i ni gan ymgeiswyr a phobl cofrestredig.

Gweld holl adroddiadau data cofrestru.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.