CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyfrifoldebau cyflogwyr a SAUau

Mae gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch (SAU) gyfrifoldebau cofrestru. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys bod yn llofnodwyr cymeradwy, gwirio a chymeradwyo ceisiadau cyntaf a cheisiadau adnewyddu, a hyrwyddo’r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.

Beth yw llofnodwyr

Mae’n rhaid i gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch enwebu pobl briodol i weithredu fel llofnodwyr. Mae llofnodwyr yn cymeradwyo ceisiadau ac yn helpu i gynnal cofrestr gyfredol.

Mae dau fath o lofnodwr:

  • prif lofnodwyr – rhywun mewn rôl uwch sydd â mynediad at gofnodion Adnoddau Dynol
  • llofnodwyr ychwanegol – sy’n cael eu henwebu gan y prif lofnodwr ac sy’n gallu bod yn unigolyn sy’n gallu gwirio gwybodaeth, er enghraifft rheolwyr tîm.

Cyfrifoldebau llofnodwyr

Mae cyfrifoldebau llofnodwyr cyflogwyr neu sefydliadau addysg uwch yn cynnwys:

Darllenwch ein canllawiau am datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Gweler ein fideos am gyfrifoldebau cyflogwyr.

Sut i fod yn llofnodwr

Mae’n rhaid i bob llofnodwr newydd gwblhau ffurflen sy’n cynnwys ei fanylion cyswllt a’i lofnod.

Gofynnwch am ffurflen llofnodwr drwy e-bostio llofnodwyr@gofalcymdeithasol.cymru.

Ar ôl dod yn llofnodwr

Ar ôl dod yn llofnodwr, byddwch yn derbyn e-bost sy’n cynnwys gwybodaeth am sut i greu’ch cyfrif GCCarlein.

Mae GCCarlein yn helpu llofnodwyr i:

  • weld y rhestr o ymgeiswyr ac unigolion cofrestredig ar gyfer eu sefydliad
  • anfon dogfennau atom
  • cysylltu â ni’n uniongyrchol
  • gofyn am lofnodwyr newydd (prif lofnodwr yn unig)
  • bod yn brif gyswllt ar gyfer materion cofrestru
  • rhoi gwybod i ni os oes rhywun yn gadael ei swydd
  • cadarnhau bod enw person cofrestredig sydd wedi’i gyflogi gan eich sefydliad yn ystod y 12 mis diwethaf wedi’i dynnu oddi ar y Gofrestr
  • gweld gwybodaeth fanylach yn ymwneud â chofrestru, fel sancsiynau addasrwydd i ymarfer.

Gwirio a chymeradwyo ceisiadau

Gall prif lofnodwyr a llofnodwyr ychwanegol gymeradwyo a gwirio ffurflenni cais a ffurflenni adnewyddu.

Wrth gymeradwyo, mae’n rhaid i lofnodwyr sicrhau bod yr holl wybodaeth ar y ffurflen gais yn gywir, yn benodol:

  • datganiadau disgyblu neu droseddol
  • dyddiad y gwiriad diweddaraf gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
  • nad ydynt yn gwybod am unrhyw reswm pam na ddylai person fod wedi’i gofrestru.

Mae’n rhaid i bob cais newydd gael ei gymeradwyo gan gyflogwr yr ymgeisydd.

Mae’n rhaid cymeradwyo ceisiadau adnewyddu rheolwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithwyr gofal cartref.
Nid oes angen cymeradwyo ceisiadau adnewyddu gweithwyr cymdeithasol cymwysedig.
Gellir cymeradwyo ffurflenni cais a ffurflenni adnewyddu trwy ddefnyddio GCCarlein.

Os yw person yn eich dewis i’w gymeradwyo:

  • byddwch yn derbyn cais mewn e-bost
  • bydd angen gwirio’r ffurflen o fewn saith diwrnod
  • byddwch yn cwblhau ac yn cyflwyno’ch cymeradwyaeth.

Os nad ydych yn gallu neu os nad ydych yn fodlon cymeradwyo cais, dylech e-bostio cofrestru@gofalcymdeithasol.cymru

Os oes gennych bryder am ymgeisydd neu berson cofrestredig, gwelwch sut rydym yn delio â phryderon am wybodaeth ar sut i godi eich pryder.

Darllenwch ein tudalennau canllau am wirio a chymeradwyo.

Asesiad gan gyflogwr

Gelwir un o'r llwybrau i gofrestru yn asesiad gan gyflogwr. Gofynnwn i gyflogwyr gadarnhau addasrwydd ymgeisyddwrth eu hasesu yn erbyn rhestr o gymwyseddau.

Dyma fideo canllaw cyflym i helpu cyflogwyr i ddeall sut i reoli ceisiadau asesu gan cyflogwyr yn eu cyfrif GCCarlein.

Dysgwch fwy am y broses asesiad gan gyflogwr.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.