Ein pwrpas yw meithrin hyder yn y gweithlu, ac arwain a chynorthwyo gwelliant mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein cyfrifoldeb ni i amddiffyn eich data
Rydym wedi cofrestru fel Rheolwr Data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae hyn yn golygu ein bod yn gyfrifol am:
- benderfynu pa wybodaeth y byddwn yn ei chadw amdanoch chi;
- rhoi gwybod i chi ynglŷn â’r data personol yr ydym yn ei gasglu amdanoch chi;
- dweud wrthych chi o ble rydym yn casglu eich data personol, os nad ydym yn ei gasglu oddi wrthoch chi’n uniongyrchol
- dweud wrthych chi sut rydym yn prosesu a defnyddio eich data personol;
- darparu manylion am sail gyfreithiol y prosesu; a
- dweud wrthych chi os yw hi’n debygol y bydd achosion ble byddwn yn rhannu eich data gydag asiantaethau eraill neu drydydd partiön.
Mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu eich data a chydymffurfio â deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifri.
Gwybodaeth a gesglir
Mae’r math o wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a sut rydym yn ei defnyddio wedi ei amlinellu isod. Caiff ychydig o’r wybodaeth hon ei darparu gennych chi’n uniongyrchol. Ar adegau eraill, mae’n bosibl y bydd cyflogwyr, hyfforddwyr ac asiantaethau tebyg yn ei darparu. Byddwn ond yn casglu a chadw gwybodaeth sydd ei hangen arnom i ymgymryd â’n swyddogaethau a/neu ddarparu gwasanaethau i chi.
Mae nifer o seiliau cyfreithiol y gallwn ddibynnu arnynt i gasglu a phrosesu eich data personol. Disgrifir y rhain yn fwy manwl isod.
Os ydych yn berson cofrestredig, y prif seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt wrth brosesu eich gwybodaeth yw’r seiliau cyfreithiol rhwymedigaeth gyfreithiol a budd cyhoeddus sy’n golygu ein bod wedi ymrwymo i gasglu gwybodaeth benodol amdanoch a’i phrosesu mewn ffyrdd penodol. Gallwn hefyd ddibynnu ar fudd y cyhoedd fel y sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich manylion cyswllt er mwyn anfon cylchlythyrau neu roi gwybod i chi am ddigwyddiadau gan fod gennym ddyletswydd gyfreithiol i gefnogi dysgu a datblygiad pobl cofrestredig.
Mae’r seiliau cyfreithiol y gellir dibynnu arnynt i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn cynnwys:
- Rhwymedigaeth gyfreithiol – Mae hyn yn berthnasol lle bydd angen i ni gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
- Budd cyhoeddus – Fel corff cyhoeddus, rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasgau sydd er budd cyhoeddus neu er mwyn cyflawni ein swyddogaethau swyddogol.
- Buddiannau hanfodol – rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth er mwyn amddiffyn eich buddiannau hanfodol eich hun neu rai unigolyn arall.
- Caniatâd – Efallai y byddwn ar adegau angen eich caniatâd i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mewn achosion o’r fath, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl neu ei addasu drwy gysylltu â ni (gweler isod) neu reoli eich dewisiadau o fewn eich cyfrif ar-lein gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, os oes gennych un.
- Contract - Mae hyn yn berthnasol pan fydd gennym gontract â chi ac angen prosesu eich data personol at ddibenion y contract. Mae hefyd yn berthnasol ble bydd angen i ni brosesu eich data personol er mwyn ymrwymo i gontract gyda chi.
- Buddiannau dilys - Mae hawl gennym hefyd i brosesu eich data personol pan fydd er lles ein buddiannau dilys i wneud hynny, neu fuddiannau trydydd parti. Rydym ond yn gwneud hyn ble rydym yn fodlon bod eich hawliau preifatrwydd yn cael eu diogelu yn foddhaol. Mae gennych hawl i wrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu mewn unrhyw ffordd ar sail y sylfaen gyfreithiol hon.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru yn unig ac nid yw’n cynnwys gwefannau eraill yr ydym yn cysylltu â nhw. Dylech ddarllen yr hysbysiadau preifatrwydd sydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.
Eich hawliau
Dewis peidio â rhoi eich gwybodaeth bersonol
Os byddwch yn dewis peidio â rhoi data personol perthnasol i ni, dylech fod yn ymwybodol na fyddwn o bosibl yn gallu cynnig gwasanaethau penodol i chi. Er enghraifft, ni allwn eich cofrestru os na allwn wirio eich hunaniaeth a dilysu eich cymwysterau.
Cael mynediad i’ch data
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r data personol yr ydym yn cadw amdanoch drwy wneud Cais Cyrchu Gwrthrych Data (CCGD). Anfonwch eich cais i FOI@gofalcymdeithasol.cymru. Byddwch yn cael ymateb gennym o fewn 30 diwrnod calendr o ni’n derbyn eich cais. Bydd angen i ni gadarnhau pwy ydych cyn prosesu eich cais. Os oes angen cymorth arnoch i wneud CCGD, cysylltwch â'r blwch post Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a byddwn yn cysylltu â chi i gynnig cymorth.
Ni chodir tâl am wneud cais oni bai eich bod eisiau copi ychwanegol o’r wybodaeth neu os yw eich ceisiadau’n ormodol.
Dylech fod yn ymwybodol nad oes rhaid i ni mewn rhai achosion ddarparu copi o’r data yn sgil eithriad. Dyma’r achosion ble gallai hyn fod yn berthnasol:
- mae’r data hefyd yn ddata personol unigolyn arall ac ni fyddai’n rhesymol ei ddatgelu i chi heb eu caniatâd nhw
- byddai datgelu’r data yn niweidio’n swyddogaethau rheoleiddio, er enghraifft drwy ei gwneud hi’n anodd i ni gynnal ymchwiliad teg addasrwydd i ymarfer.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Cynllun Cyhoeddi.
Rheoli sut rydym yn defnyddio eich data
Mae gennych rai hawliau dan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoli sut rydym yn defnyddio eich data, drwy ofyn i ni ei ddiwygio, ei ddileu neu gyfyngu ar sut yr ydym yn ei ddefnyddio. Er mwyn ymarfer yr hawliau hyn, dylech gysylltu FOI@gofalcymdeithasol.cymru neu ein Swyddog Diogelu Data, Kate Salter, ar kate.salter@gofalcymdeithasol.cymru.
Dylech fod yn ymwybodol bod eithriadau i’r hawliau hyn. Er enghraifft, nid oes rhaid i ni ddileu gwybodaeth os ydym yn ei defnyddio ar gyfer ein swyddogaethau statudol ac mae gennym hawl gyfreithiol i barhau i ddefnyddio’r data.
Os ydych yn credu bod y wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, gallwch ofyn am adolygu’r wybodaeth a’i chywiro/ychwanegu ati.
Os byddwch yn gwrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth neu os ydych yn dymuno i ni ddileu eich gwybodaeth, cysylltwch â FOI@gofalcymdeithasol.cymru fel y gallwn ystyried eich cais a’r sail ar ei gyfer.
Pe byddech am newid eich dewisiadau ynglŷn â sut neu beth yr ydym yn cyfathrebu â chi, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg drwy gysylltu â FOI@gofalcymdeithasol.cymru.
Os oes gennych gyfrif ar GCCarlein gallwch hefyd newid eich dewisiadau yma.
Sylwch, os nad ydych yn dymuno i ni anfon gohebiaeth atoch, yn ddelfrydol, byddem eisiau cadw cofnod o hyn yn hytrach na dileu eich gwybodaeth yn llwyr er mwyn i chi beidio â derbyn rhagor o ohebiaeth.
Os ydych wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich llun ac mae wedi ei gynnwys mewn cyhoeddiad ac rydych eisiau dileu eich caniatâd, dylech fod yn ymwybodol na fyddem yn gallu dinistrio pob copi o’r ddogfen honno. Byddem, fodd bynnag, yn rhoi'r gorau i ddefnyddio’r llun ar gyfer unrhyw atgynhyrchu pellach o’r adeg yr ydych yn dileu eich caniatâd.
Gwybodaeth gofrestru - unigolion cofrestredig
Rydym yn cadw gwybodaeth am weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda ni. Rydym hefyd yn cadw gwybodaeth am weithwyr gofal cymdeithasol sy’n gwneud cais i gofrestru, a gweithwyr gofal cymdeithasol nad ydynt wedi cofrestru mwyach.
At ddibenion cofrestru, rydym yn cadw’r wybodaeth ganlynol am berson cofrestredig:
- manylion personol
- gwybodaeth gyswllt
- dogfennau adnabod
- cymwysterau/datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)
- Rhif Yswiriant Gwladol
- manylion banc
- gwybodaeth am iechyd
- gwybodaeth am euogfarnau
- gwybodaeth am ddisgyblu
- gweithgarwch troseddol
- rhestr y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- gwybodaeth am gydraddoldeb
- gwybodaeth am rybuddion yr UE.
Rydym yn derbyn y wybodaeth hon gan y person cofrestredig, ei gyflogwyr, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant a ffynonellau eraill sydd eu hangen i ddilysu bod hunaniaeth, cymwysterau a meini prawf cofrestru wedi eu bodloni.
Pam rydym yn cadw’r wybodaeth hon:
Mae’n ofynnol ein bod o dan Adran 80 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn cadw cofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol gan gynnwys, Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod y rhai hynny ar y rhestr yn gymwys. Rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth hon fel rhan o Rwymedigaethau Gorchwyl Gyhoeddus a Chyfreithiol. Caiff y wybodaeth ei defnyddio at y dibenion canlynol:
- prosesu ceisiadau a chofrestru gweithwyr
- cynnal ein Cofrestr
- casglu ystadegau
- cofnodi gwybodaeth am gymwysterau
- cofnodi hyfforddi, dysgu a datblygu
- ymchwilio i addasrwydd gweithwyr i ymarfer
- cynnal ein Cofrestr ar-lein
- diweddaru eich manylion
- cymhwyster neu hanes a marciau asesiadau dychwelyd i ymarfer.
- gan ddibynnu ar sut y maent yn talu eu ffi cadw flynyddol, rydym yn cadw gwybodaeth am gyfrifon banc neu gardiau credyd
Mae’n ofynnol ein bod yn sicrhau bod rhywfaint o’r wybodaeth hon ar gael fel a ganlyn:
- i’r cyhoedd yn gyffredinol ar gais a fydd ar gael ar Gofrestr y cyhoedd ar ein gwefan:
- enw llawn
- rhif cofrestru a rhan/rhannau’r Gofrestr yr ydych wedi cofrestru arni/arnynt
- y dref ble rydych yn gweithio
- y ffaith eich bod wedi eich tynnu neu’ch atal o’r Gofrestr.
Sut rydym yn ei rhannu
- canlyniad eich cais a’r rhesymau dros ein penderfyniad i’ch cyflogwr gwasanaeth cymdeithasol presennol
- rydym yn rhannu y wybodaeth ganlynol gyda eich cyflogwr gwasanaeth cymdeithasol presennol ac i unrhyw gyflogwr gwasanaeth cymdeithasol arall sy’n ystyried eich cyflogi, wedi i chi gofrestru:
- eich cyfeiriad gwaith llawn (oni bai mai eich cyfeiriad cartref ydyw, neu rydym yn fodlon y bydd datgelu yn eich gwneud yn agored i berygl)
- eich cymwysterau
- unrhyw amodau a rhybuddion yr ydym yn eu rhoi ar eich cofrestru
- penderfyniadau (a rhesymau drostyn nhw) a wnaed mewn perthynas â’ch cofrestru, er enghraifft, canlyniad gwrandawiadau allai gynnwys eich atal a’ch tynnu oddi ar y Gofrestr.
- Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyswllt â gwasanaethau trydydd parti a all ddarparu cymorth lles a chwnsela. I gael mynediad at gymorth ychwanegol, efallai y bydd rhai darparwyr angen rhagor o wybodaeth gennych chi gan ddefnyddio eich caniatâd. Cyfeiriwch at eu hysbysiad preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth lle y bo angen er mwyn cynorthwyo sefydliadau eraill i ymgymryd â swyddogaethau neu ble mae gan y sefydliad ddiddordeb dilys yn y wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- Prifysgolion, colegau, cyrff dyfarnu, cyrff sy’n asesu cymwysterau (ac ati) er mwyn cadarnhau eich cymwysterau
Cyrff amrywiol er mwyn diogelu’r cyhoedd fel:
- eich cyflogwr ac unrhyw berson arall pan fydd angen er mwyn diogelu’r cyhoedd, fel yr Heddlu, Cyflogwyr Gwasanaethau Cymdeithasol eraill a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Cynghorau Gofal Cymdeithasol eraill yn y DU, y Cyngor Proffesiynau Iechyd ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Cyrff rheoleiddio eraill a sefydliadau tebyg yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill
- Panelau Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru, asiantau yn gweithredu ar ein rhan a thystion arbenigol.
- System Rhybuddion Ewropeaidd, sef system sydd, pan gaiff ei meini prawf rhag osodedig (perygl posibl difrifol yn ymwneud â gweithgaredd gwasanaethu/ ymddygiad darparwr gwasanaeth) eu bodloni, yn caniatáu i unigolion cofrestredig anfon a derbyn rhybuddion ar fanylion y perygl.
Os byddwn yn canfod bod eich addasrwydd i ymarfer yn ddiffygiol, byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon mewn unrhyw ffordd yr ydym yn credu sy’n briodol - ar hyn o bryd, fe’i cyhoeddir ar ein gwefan.
Gallwch ddarllen ein Polisi Gwybodaeth Gyhoeddus Addasrwydd i Ymarfer sy’n egluro’n fanylach sut y caiff hwn ei wneud a phryd na fyddwn efallai yn cyhoeddi gwybodaeth.
Nid ydych wedi cofrestru neu rydych yn gwneud cais i gael eich cofrestru ond rydym wedi eich hysbysu ein bod yn cadw gwybodaeth amdanoch
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon oherwydd ein bod wedi cael gwybod eich bod yn gweithio mewn proffesiwn yr ydym yn ei gofrestru neu’n bwriadu ei gofrestru ac y byddai’r wybodaeth hon yn ffurfio rhan o’r ystyriaethau wrth sefydlu a ydych yn addas i ymarfer pe byddech yn gwneud cais gyda ni i gofrestru yn y dyfodol. Rydym yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod gan y rhai hynny sydd ar y gofrestr gymwysterau addas.
Rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth hon drwy ddibynnu ar y sail gyfreithiol Budd Cyhoeddus neu’r sail gyfreithiol Diddordeb Dilys a’i chadw mor hir â bo angen er mwyn diwallu ein dibenion.
Yr hyn yr ydym yn ei gadw:
- manylion personol
- gwybodaeth gyswllt
- gwybodaeth ddisgyblu
- gwybodaeth droseddol.
Sut rydym yn ei rhannu:
Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon yn ôl yr angen er mwyn cynorthwyo sefydliadau eraill i ymgymryd â’u swyddogaethau neu ble mae gan sefydliad ddiddordeb dilys yn y wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- Eich cyflogwr er mwyn gallu rhannu canlyniad unrhyw gais cofrestru y gallech fod yn ei wneud
- Cyrff amrywiol er mwyn diogelu’r cyhoedd fel:
- yr Heddlu, Cyflogwyr Gwasanaethau Cymdeithasol eraill a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Cynghorau Gofal Cymdeithasol eraill yn y DU, Y Cyngor Proffesiynau Iechyd ac Arolygiaeth Gofal Cymru
- Cyrff rheoleiddio eraill a sefydliadau tebyg yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill
- Panelau Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru, asiantau yn gweithredu ar ein rhan a thystion arbenigol
- System Rhybuddion Ewropeaidd, system sydd, pan gaiff ei meini prawf rhagosodedig (perygl posibl difrifol yn ymwneud â gweithgaredd gwasanaethu/ ymddygiad darparwr gwasanaeth) eu bodloni, yn caniatáu i unigolion cofrestredig anfon a derbyn rhybuddion ar fanylion y perygl.
Rydym yn adolygu ein dull o gadw gwybodaeth ar gyfer y categori hwn o bobl yn rheolaidd. Byddwn yn cysylltu â chi eto os/a phan y byddwn yn derbyn diweddariadau neu unrhyw eglurhad sy’n awgrymu na ddylem gadw’r wybodaeth.
Cyd-lofnodwyr a’r rhai hynny sy’n cefnogi’r cofrestriad, er enghraifft y rhai sy’n cyflogi gweithwyr cofrestredig a darparwyr sy’n brifysgolion
Y wybodaeth yr ydym yn ei chadw:
- manylion personol
- manylion cyflogaeth
- gwybodaeth gyswllt
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
- caniatáu i gyflogwyr gyflawni rôl cyd-lofnodwyr/cymeradwyo sydd ei hangen o dan y Rheolau Cofrestru
- prosesu ceisiadau
- galluogi gwirio dogfennau
- caniatáu i gyflogwyr gael ‘Mynediad Cyflogwr’ Gofal Cymdeithasol Cymru Ar-lein.
Mae’r wybodaeth a ddarperir gennych chi yn cael ei chadw gennym ni gan ddibynnu ar y sail gyfreithiol Budd Cyhoeddus.
Os byddwch yn newid swydd, dylai’r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo roi gwybod i ni. Gallwch hefyd wneud hyn hefyd a gofyn i ni ddileu unrhyw gyfrifon neu gofnodion.
Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu yn y modd hwn at y diben hwn, ond caiff ymgeiswyr a chofrestrwyr eu cyfeirio at y cymeradwywyr sydd ar gael iddyn nhw drwy Gofal Cymdeithasol Cymru Ar-lein.
I pobl sy’n ymgeisio am swydd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Y wybodaeth yr ydym yn ei chadw:
- manylion personol
- gwybodaeth am iechyd
- gwybodaeth droseddol
- gwybodaeth am gydraddoldeb
- gwybodaeth am gymwysterau
- deunydd Camerâu Teledu Cylch Cyfyng (Swyddfa Llanelwy).
Rydym yn derbyn ac yn prosesu’r wybodaeth hon fel rhan o rwymedigaeth gytundebol bosibl, neu pan fydd er lles ein Diddordeb Dilys i wneud hynny.
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i:
- recriwtio a chyflogi staff
- rheoli perthnasoedd cyflogaeth
- sicrhau diogelwch y staff a’r safle
- cydymffurfio â’n goblygiadau cyfreithiol
Ceir y wybodaeth hon yn uniongyrchol oddi wrthoch chi, gan gynnwys y wybodaeth yr ydych yn ei darparu mewn CV neu lythyr cais neu ar ein ffurflen gais ac mewn cyfweliad.
Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth o drydydd parti fel asiant recriwtio neu drwy fwrdd swyddi ar-lein. Rydym hefyd yn creu ein gwybodaeth ein hunain yn ystod y broses recriwtio ac yn cael gwybodaeth amdanoch chi o ffynonellau eraill er mwyn ymgymryd â gwiriadau amrywiol.
Efallai y byddwn yn rhannu rhywfaint o’r wybodaeth hon gyda’r rhai hynny sy’n rhan o’r recriwtio a chyda chanolwyr a sefydliadau addysg at ddibenion dilys pe byddech yn llwyddiannus.
Nid yw gwybodaeth am gydraddoldeb yn wybodaeth orfodol - os na fyddwch yn ei darparu, ni fydd yn effeithio ar eich cais. Caiff unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu ei defnyddio i gynhyrchu a monitro ystadegau cyfle cyfartal yn unig.
Staff Gofal Cymdeithasol Cymru
Ar gyfer aelodau staff presennol a blaenorol, y wybodaeth sydd gennym yw:
- manylion personol
- gwybodaeth iechyd
- gwybodaeth droseddol a disgyblu / cwyn
- gwybodaeth am gydraddoldeb
- gwybodaeth am gymwysterau
- deunydd Camerâu Teledu Cylch Cyfyng (Swyddfa Llanelwy)
- gwybodaeth ariannol
- gwybodaeth am unrhyw buddiannau (a all wrthdaro efo ein gwaith)
- aelodaeth Undeb llafur
- lluniau
Rydym yn derbyn ac yn prosesu'r wybodaeth hon fel rhan o rwymedigaeth gontractiol bosibl, neu lle mae yn ein Buddiannau Cyfreithlon i wneud hynny.
Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i:
- cyflogi staff
- rheoli perthnasoedd cyflogaeth gan gynnwys tâl, pensiynau, hyfforddi a datblygu, rheoli perfformiad staff
- sicrhau iechyd, diogelwch a diogeledd staff
- cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol fel cyflogwr
- sicrhau bod hyfforddiant a datblygiad staff yn addas at y diben
- monitro bod ein Polisi Urddas a pharch yn y gwaith yn gweithio
- Llun i adnabod staff a cyfarthrebu elctronic (Llun proffil microsoft office, Teams, Sharepoint)
Chi sy'n cynhyrchu'r wybodaeth fel rhan o'ch cytundeb, gan gynnwys y wybodaeth rydych chi'n ei darparu mewn CV, lythyr eglurhaol neu ar ein ffurflen gais ac mewn cyfweliad.
Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth gan drydydd parti fel rhan o'r broses recriwtio gychwynnol ac yn cael gwybodaeth amdanoch chi o ffynonellau eraill i gynnal amryw o wiriadau.
Rydym yn rhannu'r wybodaeth hon gyda:
- Ein darparwr cyflogres
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)
- Ein darparwr pensiwn.
- Ein cynllun Buddion ar gyfer gweithwyr
Nid yw gwybodaeth cydraddoldeb yn wybodaeth orfodol a bydd yr holl wybodaeth categori arbennig yn cael ei phrosesu gan ddefnyddio mesurau diogelwch ychwanegol oherwydd ei sensitifrwydd. Dim ond i gynhyrchu a monitro ystadegau cyfle cyfartal y bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio.
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth iechyd â thrydydd parti sy'n gweithredu ar ein rhan ym materion iechyd galwedigaethol. Ar achlysuron o'r fath fe'ch gwahoddir i gytuno i'r wybodaeth gael ei rhannu.
Efallai y byddwn hefyd yn tynnu lluniau a fideos ohonoch mewn hyfforddiant a digwyddiadau. Mae’n bosib byddwn yn rhannu'r rhain ar ein tudalennau mewnrwyd mewnol. Gallwch ofyn i'ch llun gael ei dynnu o'r tudalennau hyn ar unrhyw adeg drwy gysylltu â FOI@gofalcymdeithasol.cymru.
Dylai unrhyw aelod o staff sy'n dymuno gwneud cais mynediad data personol gysylltu â FOI@gofalcymdeithasol.cymru.
Defnyddwyr gwasanaethau
Rydym yn cadw gwybodaeth am aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio gwasanaethau neu y mae aelodau o’u teulu yn defnyddio gwasanaethau ble mae pobl sy’n gofrestredig â Gofal Cymdeithasol Cymru yn cael eu cyflogi.
Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw, a allai gael ei derbyn fel rhan o’n hymchwiliadau addasrwydd i ymarfer, yn cynnwys:
- gwybodaeth bersonol
- gwybodaeth am iechyd
- trefniadau gofal
- gweithgarwch troseddol.
Rydym yn derbyn y wybodaeth hon o ffynonellau amrywiol gan gynnwys cyflogwyr, asiantaethau rheoleiddio, achwynwyr a phersonau cofrestredig. Rydym yn cadw’r wybodaeth hon o dan y sail gyfreithiol Budd Cyhoeddus ac rydym yn ei defnyddio i:
- ymchwilio a gwneud penderfyniadau am addasrwydd gweithiwr gofal cymdeithasol i ymarfer.
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
- Phanelau Addasrwydd i Ymarfer, asiantau yn gweithredu ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru, tystion arbenigol a thystion eraill ac asiantaethau rheoleiddio eraill yn ôl yr angen.
- Aelodau o’r cyhoedd (gan gynnwys cynrychiolwyr o’r cyfryngau) sydd â hawl i fynychu gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw hunaniaeth unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau, yn enwedig pan fyddan nhw’n agored i niwed, yn dod yn wybodaeth gyhoeddus.
Derbynwyr gwahoddiadau i gyhoeddiadau a digwyddiadau
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n cynhyrchu ystod o ddeunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau er mwyn hyrwyddo arfer da, datblygiadau ac adnoddau all ychwanegu at wybodaeth a helpu i wella arfer o fewn y sector.
Beth rydym yn ei gadw:
- manylion cyswllt
- meysydd o ddiddordeb.
Er mwyn ein galluogi ni i:
- anfon gwybodaeth mewn ardaloedd sydd â diddordeb
- dosbarthu cylchlythyr
- gwahodd pobl i fynychu digwyddiadau, gweminar, hyfforddiant neu ddysgu
- dosbarthu arolygon.
Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol o dan Adran 68 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i hyrwyddo a chynnal safonau uchel wrth ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth a gallwn ddefnyddio gwybodaeth a gesglir o'r Gofrestr i ymgysylltu â chi.
Weithiau bydd angen eich caniatâd* arnom i gadw’r wybodaeth hon a mi fyddwn yn ei gwneud yn glir ar y gwahoddiad neu'r ohebiaeth Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda thrydydd parti a allai ei phrosesu ar ein rhan er mwyn ein helpu i gysylltu â chi. Rydym yn sicrhau bod unrhyw drydydd parti yr ydym yn ei ddefnyddio yn ein helpu i gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.
Pe byddech yn dymuno newid eich dewisiadau ynglŷn â sut yr ydym yn cyfathrebu â chi, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg drwy gysylltu â FOI@gofalcymdeithasol.cymru.
Os oes gennych gyfrif gyda GCC ar-lein, gallwch newid eich dewisiadau yma
Sylwch, os nad ydych yn dymuno i ni anfon gohebiaeth atoch, yn ddelfrydol, byddem eisiau cadw cofnod o hyn yn hytrach na dileu eich gwybodaeth yn llwyr er mwyn i chi beidio derbyn rhagor o ohebiaeth.
*Nid yw personau cofrestredig yn gallu atal gohebiaeth gyda ni gan fod gorfodaeth arnom i anfon gohebiaeth atoch mewn perthynas â chofrestru, cymwysterau perthnasol a chyfleoedd DPP ac rydym yn dibynnu ar rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hyn.
Delweddau, fideos a straeon defnyddwyr
Trwy ein hymgyrchoedd ar y cyfryngau, digwyddiadau a phrosiectau eraill, rydym yn aml yn gofyn caniatâd i dynnu lluniau/ creu fideos neu gasglu straeon er budd hyrwyddo ein gwaith, arfer da a datblygiadau o fewn y sector. Os byddwch yn rhoi caniatâd ar gyfer hyn, gallwch bennu sut y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ac ym mha fformat, h.y. cyfryngau cymdeithasol, ar-lein ar ein gwefan, straeon yn y wasg, yn ein llenyddiaeth argraffedig a deunydd hyrwyddo.
Rydym yn cadw:
- straeon personol
- lluniau
- fideos
- gwybodaeth gyswllt oddi wrthoch chi at ddiben cyfathrebu â chi yn unig, mewn perthynas â’r mater hwn.
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
- hyrwyddo ein gwaith a’n gwasanaethau
- cynorthwyo ag anghenion hyfforddi a datblygu’r gweithlu.
Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
- y cyhoedd yn gyffredinol trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a chyhoeddiadau.
Caiff eich gwybodaeth bersonol a’ch caniatâd cysylltiedig eu cadw gennym ni a gellir eu defnyddio yn y fformatau yr ydych wedi cytuno iddynt am hyd at pum mlynedd. Pe byddech yn dymuno diddymu eich caniatâd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â FOI@gofalcymdeithasol.cymru
Pan gaiff eich gwybodaeth ei rhannu, gyda’ch caniatâd, â thrydydd parti, fel y wasg neu ar y cyfryngau cymdeithasol, dylech fod yn ymwybodol y bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd a chyfnod cadw’r trydydd parti perthnasol yn dod i rym ac ni fydd gennym unrhyw reolaeth dros hyn.
Mynychwyr digwyddiadau a rhwydweithiau rhanddeiliaid
Rydym yn cadw:
- enwau
- manylion cyswllt
- rôl eich swydd
- man gwaith
- gofynion mynediad
- gofynion dietegol
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
- rheoli ein digwyddiadau
- cynorthwyo ag anghenion hyfforddi a datblygu
- cael adborth ar ein gwaith presennol a yn y dyfodol
- Eich hysbysu a'ch diweddaru am waith presennol ac yn y dyfodol.
Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth hon, ond ar adegau rydym yn defnyddio meddalwedd trydydd parti er mwyn anfon manylion a rheoli’r trefniadau. Mae pob meddalwedd trydydd parti yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.
Efallai y byddwn hefyd, ar brydiau, yn defnyddio hwylusydd trydydd parti i arwain cyfarfodydd neu fforymau. Bydd unrhyw fynediad at ddata yn cael ei reoli gan ein contract gyda'r hwylusydd a bydd disgwyl iddynt lofnodi cytundeb cyfrinachedd fel rhan o'r broses honno.
Er mwyn galluogi mynychwyr digwyddiadau i rwydweithio’n effeithiol yn ein digwyddiadau, efallai y byddwn yn rhannu rhestrau mynychwyr. Rhowch wybod i ni os nad ydych yn dymuno i’ch manylion gael eu rhannu.
Ymwelwyr â'n swyddfeydd
Rydym yn dal:
- enwau
- manylion cyswllt
- man cyflogaeth
- lluniau teledu cylch cyfyng
Rydym yn cadw'r wybodaeth hon i:
- rheoli ein rhwymedigaethau diogelwch ac iechyd a diogelwch. Rydym yn dal cofrestr ymwelwyr yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llanelwy a ddefnyddir ar gyfer galwad y gofrestr ar ôl gwacáu e.e. os bydd tân.
- rydym yn cofnodi delweddau TCC o bobl sy'n dod i mewn ac yn gadael ein hadeiladau yn ogystal â lefydd strategol o amgylch yr adeilad. Cofnodir y wybodaeth hon ar gyfer monitro diogelwch ac ymchwilio i droseddau honedig. Gellir rhannu'r delweddau fel rhan o faterion disgyblu neu gyda asiantaethau'r gyfraith a'r llysoedd yn ôl yr angen.
Lle nad ni yw unig swyddfa yn yr adeilad (Swyddfa Caerdydd) mae Teledu Cylch Cyfyng ychwanegol sy'n cael ei reoli gan berchnogion yr adeilad.
Aelodau’r Bwrdd ac Aelodau Annibynnol
Rydym yn cadw:
- manylion personol
- gwybodaeth gyswllt
- gwybodaeth ariannol
- gwybodaeth gefndirol am waith a gwybodaeth bersonol
- gwybodaeth am gydraddoldeb.
- gofynion dietegol
- gofynion hygyrchedd / gofynion cymorth ychwanegol
- gwybodaeth droseddol a disgyblu / achwyn
- gwybodaeth am gymwysterau fel rhan o ddadansoddi sgiliau
- gwybodaeth ynghylch gwrthdaro buddiannau drwy'r gofrestr buddiannau
- aelodaeth plaid wleidyddol
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon o dan seiliau cyfreithiol Budd Cyhoeddus a Chontract er mwyn:
- cyfathrebu ag Aelodau’r Bwrdd yn ystod gwaith y Bwrdd
- at ddibenion recriwtio er mwyn galluogi croestoriad o brofiadau ac arbenigedd ar y Bwrdd
- talu ffioedd a chostau.
Rydym yn cael y wybodaeth yn uniongyrchol gan Aelodau’r Bwrdd ac Aelodau Annibynnol neu ddarpar Aelodau’r Bwrdd neu Aelodau Annibynnol, ond gallem hefyd ei chael o drydydd parti fel asiant recriwtio. Rydym hefyd yn creu ein gwybodaeth ein hunain yn ystod y broses recriwtio ac yn cael gwybodaeth gan ffynonellau eraill er mwyn gwneud gwiriadau amrywiol.
Efallai y byddwn yn rhannu rhywfaint o’r wybodaeth hon gyda’r rhai hynny sy’n rhan o’r broses recriwtio a chyda chanolwyr at ddibenion dilysu.
Defnyddir unrhyw wybodaeth am gydraddoldeb i gynhyrchu ystadegau cyfle cyfartal yn unig.
Rydym yn rhannu enwau a bywgraffiadau aelodau’r bwrdd gyda’r cyhoedd ar ein gwefan.
Deiliaid Cerdyn Gweithiwr Gofal
Rydym yn dal:
- enw
- cysylltu â chyfeiriad e-bost
- teitl swydd
- awdurdod lleol
- i bwy rydych chi'n gweithio (enw'r cyflogwr)
- dewis iaith gyfathrebu
Rydym yn cadw'r wybodaeth hon i:
- rhoi mynediad i chi i gerdyn digidol
- cyfathrebu â chi
- cynhyrchu cyfeirnod unigryw i adnabod y cerdyn
Rydym yn rhannu'r cyfeirnod unigryw â thrydydd partïon sy'n darparu gostyngiadau mewn perthynas â'r cerdyn - nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw bartïon eraill.
I gael mynediad at rai gostyngiadau ychwanegol, efallai y bydd angen gwybodaeth bellach arnoch chi ar rai darparwyr gan ddefnyddio'ch caniatâd. Cyfeiriwch at eu hysbysiad preifatrwydd i gael mwy o wybodaeth.
Tystion Addasrwydd i Ymarfer
Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw, a allai gael ei derbyn fel rhan o’n hymchwiliadau addasrwydd i ymarfer, yn cynnwys:
- Manylion personol
- Gwybodaeth ariannol.
- gwybodaeth bersonol
- gwybodaeth am iechyd
- trefniadau gofal
- gweithgarwch troseddol.
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon gan ddibynnu ar y sail rhwymedigaeth gyfreithiol er mwyn:
- ymchwilio a gwneud penderfyniadau’n ymwneud ag addasrwydd parhaus gweithiwr gofal i ymarfer
- gallu talu costau.
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
- Panelau Addasrwydd i Ymarfer, asiantau yn gweithredu ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru, tystion arbenigol a thystion eraill ac awdurdodau rheoleiddio eraill.
- Aelodau o’r cyhoedd (gan gynnwys cynrychiolwyr o’r cyfryngau) sydd â hawl i fynychu gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw hunaniaeth tystion, yn enwedig pan fyddan nhw’n agored i niwed, yn dod yn wybodaeth gyhoeddus.
- Gwasanaethau trydydd parti sy'n gallu darparu cymorth lles a chwnsela. I gael mynediad at gymorth ychwanegol, efallai y bydd rhai darparwyr angen rhagor o wybodaeth gennych chi gan ddefnyddio eich caniatâd. Cyfeiriwch at eu hysbysiad preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Aelodau panel
Rydym yn cadw gwybodaeth am aelodau panel presennol, blaenorol a darpar aelodau addasrwydd i ymarfer.
Y wybodaeth yr ydym yn ei chadw:
- manylion personol
- gwybodaeth am iechyd
- gwybodaeth am droseddau
- gwybodaeth am gydraddoldeb
- gwybodaeth ariannol
- diddordebau personol a masnachol
- gwybodaeth ynghylch nifer o weithiau yn eistedd ar wrandawiadau
- unrhyw gwynion a dderbynnir am aelodau ac unrhyw ddogfennaeth mewn perthynas ag ymchwilio i gwynion o'r fath
- gwybodaeth am arfarniad a datblygiad personol
- gwybodaeth am gymwysterau
- Deunydd camerâu teledu cylch cyfyng (Swyddfa Llanelwy).
Rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth hon ar y sail gyfreithiol Contract a Budd Cyhoeddus. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i:
- cysylltu â'n haelodau
- sicrhau bod dyletswydd gofal yn cael ei gynnal
- recriwtio a penodi aelodau panel
- rheoli'r gweithdrefnau gweinyddu a llywodraethu ar gyfer penodi ac ailbenodi aelodau o’r panel
- rheoli ein perthynas ag aelodau'r panel
- sicrhau bod hyfforddiant a datblygiad aelodau panel yn addas at y diben
- sicrhau bod perfformiad ac ymddygiad aelodau panel diogelwch yn cydymffurfio â chymwyseddau aelodau panel Gofal Cymdeithasol Cymru a'n gwerthoedd
- prosesu ffioedd cyfradd dyddiol a threuliau
- monitro bod ein polisi urddas a pharch yn y gwaith yn gweithio.
Rydym yn cael gwybodaeth yn uniongyrchol gan aelodau o’r Panel neu ddarpar aelodau o’r Panel, ond efallai y byddem hefyd yn ei chael gan drydydd parti fel asiant recriwtio. Rydym hefyd yn creu ein gwybodaeth ei hunain yn ystod y broses recriwtio ac yn cael gwybodaeth gan ffynonellau eraill er mwyn ymgymryd â gwiriadau amrywiol.
Efallai y byddwn yn rhannu rhywfaint o’r wybodaeth hon gyda’r rhai hynny sy’n rhan o’r broses recriwtio a chyda chanolwyr at ddibenion dilysu.
Caiff unrhyw wybodaeth am gydraddoldeb ei defnyddio i gynhyrchu a monitro ystadegau cyfle cyfartal yn unig.
Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)
- Rhondda Cynon Taf sy’n ymgymryd â’n swyddogaeth cyflogres Trydydd partiön sy’n darparu ein systemau gwybodaeth ac yn prosesu’r wybodaeth hon ar ein rhan, y mae pob un ohonynt yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
Pobl sy'n cwyno am weithiwr gofal cymdeithasol
Rydym yn cadw:
- manylion personol
- manylion cyswllt
- natur y gŵyn neu bryder.
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
- chwilio am ragor o wybodaeth
- caniatáu i benderfyniad gael ei wneud am asesiad cychwynnol neu barhaus ar addasrwydd i ymarfer gweithiwr gofal cymdeithasol ar gyfer cofrestru.
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
- Phanelau Addasrwydd i Ymarfer, asiantau sy’n gweithredu ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru a thystion arbenigol. Aelodau o’r cyhoedd (gan gynnwys cynrychiolwyr o’r cyfryngau) sydd â hawl i fynychu gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw hunaniaeth achwynwyr, yn enwedig pan fyddan nhw’n agored i niwed, yn dod yn wybodaeth gyhoeddus.
Pobl sy’n cwyno am Gofal Cymdeithasol Cymru
Rydym yn cadw:
- manylion personol
- manylion cyswllt
- natur y gŵyn.
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
- cydymffurfio â’n gofyniad statudol i reoli cwynion. Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth hon yn allanol er efallai y byddwn yn cyhoeddi ystadegau a manylion anhysbys am achwynwyr.
Ymholiadau cyffredinol
Rydym yn defnyddio meddalwedd Clobba a ddarperir gan Code Software UK ltd ar gyfer ein system ffôn Ymholiadau Cyffredinol. Mae'r meddalwedd a ddefnyddir yn bodloni gofynion ISO27001.
Dim ond peirianwyr cod fydd â mynediad at ddata cwsmeriaid ar sail angen gwybod at ddibenion sefydlu a chymorth.
Mae systemau Meddalwedd Cod a data yn cael eu cynnal mewn canolfannau data a gynhelir gan Microsoft Azure yn yr UE.
Mae meddalwedd cod wedi’i gofrestru gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth ac yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data’r DU 2018 a GDPR.
Y cyfnod cadw ar gyfer data ar hyn o bryd yw 2 flynedd neu ei ddileu ar gais.
Mae’r wybodaeth a gasglwyd yn cynnwys:
- Galwadau (llais, fideo a chynhadledd sain)
- Cofnodion manylion galwadau
- Enw, cyfeiriad e-bost, adran, teitl
- Manylion holl gyfarfodydd ‘Teams’ gan gynnwys sgyrsiau
- Rhannu apiau
Defnyddir y wybodaeth hon ar gyfer:
- ymateb i ymholiadau a delio ag ymholiadau
- adrodd ar berfformiad
- darparu cymorth TG/rheoli galwadau yn ôl yr angen.
Sgwrsfot
Ar hyn o bryd rydym yn treialu nodwedd Sgwrsfot ar ein gwefan. Gellir defnyddio'r nodwedd hon os oes gan ddefnyddwyr ymholiad yn ymwneud â chymwysterau.
Ein cyflenwr ar gyfer nodwedd Sgwrsfot yw Logic Dialog Platform.
Os bydd defnyddiwr yn gofyn cwestiwn sydd y tu allan i gwmpas y sgwrsfot bydd yn gofyn am eich caniatâd i anfon eich manylion cyswllt dewisol at aelod o'r tîm cymwysterau.
Os bydd defnyddwyr yn dewis anfon eu manylion cyswllt bydd ganddynt y dewis o rannu'r canlynol:
- cyfeiriad ebost
- rhif cyswllt
- y dull cysylltu dewisol
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei dileu yn awtomatig ar ôl 12 wythnos.
Mae Logic Dialog Platform yn dal ardystiad ISO20071 ac mae'n cydymffurfio â GDPR.
Data ar gyfer ymchwil Gweithlu Gofal Cymdeithasol
Rydym yn cynnal ac yn comisiynu ymchwil ar ystod o bynciau er mwyn cynnal ein gwaith statudol. Mae’r rhain yn ymwneud â chofrestru, addasrwydd i ymarfer, recriwtio a chadw. Rydym yn cynhyrchu ystadegau yn seiliedig ar y wybodaeth sydd gennym, er enghraifft y Set Ddata Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i Gymru
Rydym yn cadw:
- manylion personol
- gwybodaeth a gyflwynwyd gan y person sy'n ymwneud â'r ymchwil
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
- ymgymryd â’n swyddogaeth gwybodaeth statudol am y gweithlu. Rydym yn rhannu’r wybodaeth ystadegol hon gyda’r cyhoedd ar ein gwefan ac yn ein hadroddiadau proffil; fodd bynnag, caiff ei chyhoeddi’n ddienw.
- Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data dienw â thrydydd partïon at ddibenion ymchwil ond rhaid i unrhyw brosiectau ymchwil fodloni meini prawf ein Fframwaith Cymorth ac Ymgysylltu Ymchwil cyn y gellir ei rannu. Cyhoeddir canfyddiadau unrhyw brosiectau ymchwil sy'n defnyddio ein data ddienw ar ein gwefan.
Pobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth hyfforddi Arloesedd
Rydym yn darparu gwasanaeth hyfforddi am ddim i gefnogi datblygiadau gofal cymdeithasol addawol ledled Cymru. Mae'r gwasanaeth ar gyfer pobl mewn rolau gofal cymdeithasol sy'n gweithio i arloesi neu wella eu hymarfer i ddarparu gwasanaethau gofal gwell.
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych wedi’i rhoi i ni i:
- cael mynediad i'r gwasanaeth hyfforddi arloesi
- darparu adnoddau a gwasanaethau i'ch cefnogi i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
- anfon eich gwybodaeth am wasanaethau pellach sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth arloesi gan gynnwys y cyn-fyfyrwyr hyfforddi
- datblygu darpariaeth hyfforddi â thema
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn:
- gwneud cais am wasanaethau Hyfforddi Arloesedd,
- cymryd rhan yn un o'n cyrsiau/digwyddiadau,
- edrych ar ein gwefan,
- cwblhau gwerthusiadau ac arolygon rhaglen hyfforddi a chwrs/digwyddiad
- cymryd rhan mewn gweithgareddau diagnostig a hyfforddi.
Byddwn hefyd yn cadw:
- Enw
- Manylion cyswllt
- Manylion y sefydliad
- Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol yn dibynnu ar y rhaglen / digwyddiad neu weithgaredd hyfforddi. Gall hyn gynnwys manylion dewisol, er enghraifft hygyrchedd neu ofynion dietegol.
Os hoffech i ni newid neu ddileu’r manylion dewisol hyn, cysylltwch â ni trwy FOI@gofalcymdeithasol.cymru.
Efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon:
- gyda sefydliadau partner a/neu gontractwyr sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth hwn megis hyfforddwyr o sefydliadau partner. Byddant wedi arwyddo cytundeb rhannu data i ddiogelu a rheoli eich data yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data
- os ydym dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol
At ddibenion y gwasanaeth hwn rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth hon fel rhan o’n rhwymedigaethau cyfreithiol. O dan adran 69 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) gallwn roi cyngor neu gymorth arall (gan gynnwys grantiau) i unrhyw berson sy’n darparu gwasanaeth gofal a chymorth (gan gynnwys grantiau) er mwyn annog gwelliant yn y ddarpariaeth. o'r gwasanaeth hwnnw.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol (gan gynnwys pob cais llwyddiannus ac aflwyddiannus) am 13 mis ar ôl i ni werthuso’r cwrs/digwyddiad. Mae hyn yn ein galluogi i adrodd ar ein gweithgaredd a defnyddio data gwerthuso i wella cyrsiau/digwyddiadau yn y dyfodol. Ar ôl yr adeg yma byddwn yn gwneud eich gwybodaeth yn ddienw.
Ar gyfer rhai rhaglenni mae angen i ni gadw rhywfaint o'ch gwybodaeth am fwy na 13 mis. Er enghraifft, mae angen inni gadw cofnodion ariannol am gyfnod safonol Llywodraeth Cymru o 7 mlynedd.
Os hoffech chi ddiweddaru eich manylion neu os nad ydych am i ni gysylltu â chi bellach at ddibenion cydweithredu, gyrrwch ebost at
FOI@gofalcymdeithasol.cymru os gwelwch yn dda.
Ymholiadau am lywodraethu gwybodaeth
Rydym yn cadw:
- gwybodaeth bersonol
- manylion cyswllt.
Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:
- cydymffurfio â gofynion statudol
- prosesu ceisiadau am wybodaeth
- casglu ystadegau.
- Ystyried a yw ein cynllun cyhoeddi yn ddigonol.
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
- Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth y cyhoedd pan fyddwn yn cyhoeddi ceisiadau ac ymatebion Rhyddid Gwybodaeth ar ein gwefan, er bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei chyhoeddi’n ddienw.
Rydym yn cadw cynnwys y ceisiadau hyn am yr amser canlynol:
- Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth sy'n dal i gael eu dosbarthu fel rhai agored yn cael eu cadw am flwyddyn. Mae dogfennau sy'n cael eu hagor wedyn yn cael eu cadw am 2 flynedd.
- Ceisiadau rhyddid gwybodaeth sydd wedi eu cau yn cael eu chadw am 10 mlynedd.
- Cedwir ceisiadau am fynediad at Ddata gan y Testun am 5 mlynedd.
Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
- Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
- y cyhoedd pan fyddwn yn cyhoeddi ceisiadau ac ymatebion Rhyddid Gwybodaeth ar ein gwefan, er bod gwybodaeth o'r fath yn cael ei chyhoeddi'n ddienw.
Ymwelwyr â’n gwefan a’r Defnydd o gwcis gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy'n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Maent yn cael eu defnyddio'n helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio'n fwy effeithiol, yn ogystal â darparu gwybodaeth ddadansoddol i berchnogion y wefan.
Rydym yn defnyddio rheolaeth Civic Cookie i reoli caniatâd cwcis.
Mae modd caniatâd, y cyflwr caniatâd a Civic yn cael eu rheoli o fewn Rheolwr Tagiau Google.
Yn ddiofyn, mae modd cydsynio i wrthod, wrth i unrhyw dudalen lwytho ar ein safleoedd.
Hyd nes y bydd dewis wedi'i wneud ni fydd unrhyw gwcis yn cael eu gosod ar
bydd porwr defnyddwyr, a bydd baner cwci Civic yn parhau i fod yn bresennol.
Ar yr ymweliad cyntaf, cyflwynir yr opsiwn i chi osod eich dewisiadau a gallant dderbyn neu wrthod cwcis yn eu dewis iaith gan ddefnyddio Civic.
Bydd y faner cwci Civic yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr am y categorïau o gwcis sydd yn cael eu defnyddio ar y wefan ac yn caniatáu iddynt osod eu dewisiadau ar gyfer pob categori.
- Gallwch chi ddiweddaru eich dewisiadau cwci ar unrhyw adeg yn ystod ymweliad
- Mae'r dewisiadau a wneir mewn Civic yn cael eu cofnodi gan Civic
- Mae dewisiadau defnyddwyr a wneir yn Civic yn diweddaru'r cyflwr caniatâd yn Rheolwr Tasgiau Google.
- Bydd diweddariadau i'r statws caniatâd (derbyn/gwrthod) yn caniatáu/rhwystro tagiau i mewn i Rheolwr Tasgiau Google yn atal cwcis rhag cael eu osod.
Rhagor o wybodaeth
Mae gennym ni un brif wefan yn ogystal â nifer o safleoedd at ddibenion penodol. Pan fydd rhywun yn ymweld â’n safleoedd, rydym yn casglu gwybodaeth cofnodi cyffredinol y rhyngrwyd fel y dudalen y gofynnodd y person amdani, cyfeiriad protocol y rhyngrwyd, math o borwr, iaith y pori, dyddiad ac amser y cais. Rydym yn gwneud hyn er mwyn cael gwybodaeth am bethau fel nifer yr ymwelwyr â rhannau amrywiol y safle. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn ffordd nad yw’n adnabod unrhyw un. Nid ydym yn ceisio dod o hyd i hunaniaeth y rhai hynny sy’n ymweld â’n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gasglwyd gydag unrhyw wybodaeth sy’n adnabod rhywun yn bersonol o unrhyw ffynhonnell. Os ydym eisiau casglu gwybodaeth syn adnabod rhywun yn bersonol trwy ein gwefan, byddwn yn dweud hyn. Byddwn yn ei gwneud hi’n glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn egluro’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud â hi.
Y wybodaeth sydd gennym:
- Cyfeiriad IP. Wedi'i gasglu trwy Google Analytics
Rydym yn cadw’r wybodaeth i:
- casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol
- casglu ystadegau.
Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:
- trydydd parti sy'n darparu ein systemau gwybodaeth ac yn prosesu'r wybodaeth hon ar ein rhan.
YouTube
Rydym yn gwreiddio fideos o’n sianel YouTube swyddogol drwy ddefnyddio dull ehangu preifatrwydd YouTube. Efallai y bydd y dull hwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur wedi i chi glicio ar y chwaraewr fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth cwcis lle gellir adnabod rhywun yn bersonol ar gyfer fideos yn cael eu chwarae nôl wrth ddefnyddio’r dull ehangu preifatrwydd.
Peiriant chwilio
Mae’r peiriant chwilio ar ein gwefan yn cael ei ddarparu gan Craft CMS. Os ydych wedi derbyn y defnydd o gwcis, wrth chwilio ein gwefan, caiff cofnod o’ch term chwilio ei gofnodi yn Google Analytics, a defnyddir y wybodaeth hon er mwyn helpu wella cynnwys ar ein gwefan.