CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ein canlyniadau

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth yng Nghymru ar gyfer plant, oedolion a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae’n bwysig bod plant, pobl ifanc ac oedolion mewn cymunedau o Fôn i Fynwy yn gallu dibynnu ar ofal cymdeithasol a gofal plant o ansawdd uchel i’w helpu i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw.


Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, rydyn ni'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd cenedlaethol ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Rydyn ni'n arwain ar reoleiddio a datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.


Mae ein Cynllun Strategol yn nodi ein ffocws ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Neges gan ein Cadeirydd a Prif Weithredwr

Dydyn ni ddim yn diystyru'r heriau a ddaw yn sgil y newidiadau hyn, ond credwn fod gennym gyfleoedd sylweddol i gefnogi gwelliannau i bobl Cymru. Ni fyddwn yn gallu cyflawni'r newidiadau hyn ar ein pen ein hunain. Mae gweithio gydag eraill yn ganolog i'n ffordd o weithio, a bydd partneriaeth wrth wraidd sut y byddwn yn cyflawni'r blaenoriaethau hyn.

Hoffem barhau ein taith i ymgorffori diwylliant o gynnwys pobl a sefydliadau eraill ar draws ein gwaith. Byddwn yn parhau i ymateb i anghenion newidiol y sectorau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Rydyn ni wedi ymrwymo i ymateb i farn ac anghenion oedolion a phlant sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, eu teuluoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y sector i lywio’n gwaith. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phobl sy'n dibynnu ar ofal a chymorth, gweithwyr gofal a gweithwyr proffesiynol yn y blynyddoedd cynnar i ddatblygu hyfforddiant priodol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth amrywiol dinasyddion ledled Cymru.

Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gydweithio, dysgu o arferion gorau a chroesawu 'ffrindiau beirniadol' o sectorau eraill. Bydd y pwyslais hwn ar bartneriaeth yn llywio'r holl waith sydd i'w gyflawni o dan y cynllun hwn.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n cyfrifoldebau fel sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y strategaeth hon yn adeiladu ar sylfeini 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' a'r 'Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol' i greu gweithlu brwdfrydig, iach, hyblyg, ymatebol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol sy'n adlewyrchu poblogaeth amrywiol Cymru, ei hunaniaeth ddiwylliannol a’r Gymraeg.

Bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar cryf yng Nghymru yn helpu i leihau effaith pobl yn byw mewn tlodi, esgeulustod, salwch, anabledd, neu wahaniaethu oherwydd hil neu nodweddion gwarchodedig eraill. Yn aml mae’r anfanteision hyn yn arwain at anghydraddoldebau iechyd a rhagolygon salach i blant o ran cyflawni eu potensial neu i oedolion allu byw bywyd llawn. Byddwn yn parhau i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar ynghyd â sut rydym yn gweithio ac ar draws ein Bwrdd a'n gweithlu wrth gyflawni'r amcanion yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Drwy ddatblygu ac adeiladu ar sgiliau'r gweithlu gofal, byddwn yn helpu plant, oedolion a phobl hŷn sy'n defnyddio gofal a chymorth i gynnal a gwella eu hiechyd a'u lles a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Byddwn yn atebol i bobl Cymru drwy'r Senedd a'i Haelodau. Yn dilyn ein hymgynghoriad, a gafodd gefnogaeth gadarnhaol i'n blaenoriaethau, rydyn ni wedi ystyried eich safbwyntiau ac wedi ceisio sicrhau bod y cynllun strategol hwn yn dangos yn glir y gwahaniaeth rydyn ni'n bwriadu ei wneud a sut y byddwn yn mesur ein heffaith. Rydyn ni'n byw mewn byd sy'n newid yn gyson ac yn gorfod byw gydag amwysedd ac ansicrwydd. Mae ein cynllun strategol yn rhoi cyfeiriad ond mae’n ddigon hyblyg ac ymatebol i sicrhau bod yr hyn a ddarparwn yn addas i'r diben. Byddwn yn cyhoeddi ein camau gweithredu a'n gweithgareddau manwl bob blwyddyn trwy'n cynllun busnes a bydd y gwahaniaeth a wnawn yn ymddangos mewn adroddiad effaith blynyddol.

Ein gweledigaeth

Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth yng Nghymru ar gyfer plant, oedolion a'u teuluoedd a'u gofalwyr.

Byddwn yn defnyddio profiadau pobl o ddefnyddio gofal a chymorth, canlyniadau a dangosyddion llesiant cenedlaethol, adroddiadau thematig ac astudiaethau achos i ddangos y cynnydd tuag at wireddu ein gweledigaeth. Hoffem sicrhau mai'r unigolyn sydd wrth wraidd y ffordd o ddarparu gofal a chymorth ledled Cymru.

Ein diben

Rydyn ni'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd cenedlaethol ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar, gan arwain ar ddatblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol[1], gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal a chymorth.

[1] Fel ei ddiffinnir gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Ein cynllun strategol 2022 - 2027

Mae ein cynllun strategol yn diffinio ein gweledigaeth, pwrpas, a chanlyniadau am y pum mlynedd nesaf. Mae'n egluro beth fydd yn wahanol, beth a wnawn a sut byddwn yn gweithio.

Mae'n bwysig ein bod ni'n gwbl glir am yr hyn rydyn ni am i'r cynllun strategol hwn ei gyflawni a'r gwahaniaethau a'r newidiadau yr hoffem eu gweld ar ddiwedd y pum mlynedd.

Canlyniadau cenedlaethol sy'n dibynnu ar waith caled llawer o sefydliadau, pob un â'i gylch gwaith a'i gyfrifoldebau ei hun, yw'r newidiadau yr hoffem eu gweld. Ond mae angen i ni fod yn glir ynghylch beth allwn ni gyfrannu ato sy'n arwain at y canlyniadau neu'r newidiadau rydyn ni i gyd am eu gweld.

Canlyniadau

Dyma'r wyth canlyniad cenedlaethol:

  • Llesiant gwell ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar
  • Gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr
  • Ymarfer a pholisi gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar arloesi, ymchwil a data o'r radd flaenaf, a mathau eraill o dystiolaeth[2]
  • Gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig sydd â hyder y cyhoedd
  • Gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sydd â chymwysterau, gwybodaeth a sgiliau addas gyda'r gwerthoedd, yr ymddygiad a'r ymarfer cywir
  • Gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n denu, recriwtio a chadw pobl â'r gwerthoedd cywir i ddiwallu anghenion y rhai sydd angen gofal a chymorth
  • Gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n ymgorffori ac yn darparu dulliau gofal a chymorth sy'n seiliedig ar gryfderau
  • Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy o'r radd flaenaf.

Ar gyfer pob canlyniad cenedlaethol, rydyn ni'n esbonio pam mae'n bwysig, sut y byddwn yn dangos newid, a lle byddwn yn canolbwyntio ein hegni a'n hymrwymiad i weithio gyda chi dros y pum mlynedd nesaf i wireddu ein gweledigaeth.

[2] Ystyr ymarfer seiliedig ar dystiolaeth yw bod penderfyniadau ynghylch sut i ddarparu gofal a chymorth yn cael eu llywio gan ddealltwriaeth o'r dystiolaeth orau sydd ar gael am yr hyn sy'n effeithiol – gan fanteisio ar ymchwil.

Adroddiad effaith 2021 i 2022

Mae'r Adroddiad effaith yn rhoi tTrosolwg o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni yn ystod y flwyddyn, yn erbyn ein wyth canlyniad cenedlaethol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.