CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Mae angen i bob gweithiwr gofal cymdeithasol sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant neu ddysgu fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Sut mae'n gweithio

Pan fyddwch yn cofrestru gyda ni, rydych yn cytuno i gofnodi eich DPP.

Bydd nifer yr oriau y bydd angen i chi eu cyflawni yn dibynnu ar eich swydd:

  • mae angen i weithwyr gofal cymdeithasol gwblhau o leiaf 45 awr o DPP
  • mae angen i reolwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol gyflawni o leiaf 90 awr o DPP
  • nid oes angen i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol gwblhau DPP.

Dylech gofnodi'r holl oriau yr ydych wedi'u cwblhau o fewn eich cyfnod cofrestru tair blynedd.

Bydd angen i chi gofnodi eich DPP yn eich cyfrif GCCarlein.

Bydd angen hwn arnoch pan fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad gyda ni.

Dylech hefyd gadw portffolio o dystiolaeth i gefnogi eich cofnod oherwydd efallai y byddwn hefyd yn gofyn am brawf o'ch DPP os cewch eich dewis ar gyfer archwiliad.

Bydd eich cyflogwr – neu berson cymeradwy, os ydych yn hunangyflogedig – yn gwirio eich DPP unwaith y byddwch wedi ei gofnodi.

Mae angen hwn arnoch i adnewyddu eich cofrestriad gyda ni.

Pethau i'w cofio

  • eich cyfrifoldeb chi yw DPP
  • mae angen i weithwyr gofal cymdeithasol gyflawni o leiaf 45 awr o DPP yn ystod eu cyfnod cofrestru tair blynedd
  • mae angen i reolwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol gyflawni o leiaf 90 awr o DPP yn ystod eu cyfnod cofrestru tair blynedd
  • nid oes angen i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol gwblhau DPP
  • dylai DPP fod yn ganlyniad i'ch dysgu a datblygiad, a dylai gael ei gefnogi gan eich cyflogwr
  • trwy gael eich cofrestru, rydych wedi cytuno i gwblhau'r nifer gofynnol o oriau DPP ar gyfer eich rôl ac mae'n helpu i gadw'ch gwybodaeth yn gyfredol
  • gallwch ychwanegu DPP unrhyw bryd at eich cofnod yn eich cyfrif GCCarlein.

Beth sy'n cyfrif fel DPP

Dylai eich DPP:

  • wella eich gallu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel
  • bod o fudd i'ch anghenion personol neu ddatblygiad gyrfa
  • fod yn berthnasol i'ch swydd bresennol
  • eich helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth, polisi, ymchwil ac ymarfer
  • cynnwys unrhyw hyfforddiant gorfodol neu addysg a dysgu proffesiynol parhaus
  • gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i chi er mwyn ffurfio rhan o'ch datblygiad proffesiynol ehangach.

Dyma rai enghreifftiau y gallech eu defnyddio yn eich log DPP:

  • cwblhau cymhwyster perthnasol neu gwrs achrededig
  • gall gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso ddefnyddio'r oriau ar ôl cwblhau eu rhaglen gydgrynhoi
  • mynychu hyfforddiant mewnol, gweithdai, seminarau neu gynadleddau, a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol
  • cwblhau modiwl e-ddysgu sy'n berthnasol i'ch ymarfer
  • mynychu fforwm proffesiynol neu grŵp rhwydweithio a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol
  • cysgodi cydweithiwr mewn tîm, gwasanaeth neu broffesiwn cysylltiedig
  • cyflawni ymchwil neu ddarllen strwythuredig sy'n gysylltiedig â'ch practis a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol
  • rhoi cyflwyniad neu arwain trafodaeth ar bwnc newydd yr ydych wedi ymchwilio iddo a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol
  • cwblhau secondiad mewn maes perthnasol o waith newydd neu waith cysylltiedig
  • gwirfoddoli i weithio mewn gwasanaeth newydd
  • cymryd cyfrifoldebau newydd neu wahanol a chrynhoi sut mae hyn wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol.

Dylech anelu at ystod a chydbwysedd o wahanol weithgareddau dysgu.

Er enghraifft, ni ddylech ymgorffori darllen strwythuredig ar gyfer mwy na 10 y cant o'ch DPP a bydd angen i chi ddweud wrthym beth rydych wedi'i ddysgu, a sut y byddwch yn defnyddio'ch dysgu yn eich gwaith.

Nid ydym fel arfer yn derbyn gweithgareddau rheolaidd, fel goruchwyliaeth neu gyfarfodydd tîm, fel DPP.

Sut i gofnodi eich DPP

Dylech ddefnyddio eich cyfrif GCCarlein i gofnodi'ch DPP.

Gallwch gofnodi eich DPP unrhyw bryd, gan ddefnyddio eich cyfrif GCCarlein. Gwyliwch ein fideo i ddysgu sut i wneud hyn.

Mae'n rhaid i chi gofnodi eich holl DPP cyn y gallwch adnewyddu eich cofrestriad.

Byddwn yn gofyn ichi pryd y cwblhawyd yr hyfforddiant neu'r dysgu a’i hyd, beth rydych wedi'i ddysgu a sut y byddwch yn ei ddefnyddio i wella'ch ymarfer.

Cofiwch

Dylech gofnodi eich DPP yn rheolaidd, fel ei fod bob amser yn gyfredol.

Bydd hyn yn cyflymu pethau pan ddaw hi'n amser i adnewyddu eich cofrestriad.

Tystiolaeth o'ch DPP

Os cewch eich dewis ar gyfer archwiliad, bydd angen i chi anfon portffolio o dystiolaeth o'ch DPP atom.

Bydd hyn yna’n brawf eich bod wedi cyflawni’r gweithgaredd ac yn dangos i ni beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r profiad.

Gall eich tystiolaeth gynnwys:

  • tystysgrifau cymwysterau
  • tystysgrifau o hyfforddiant
  • crynodeb byr o'r canlyniadau dysgu.

Gallech ddefnyddio cadarnhad e-bost ac agendâu o gynadleddau, fforymau neu ddigwyddiadau os nad oes gennych unrhyw ddogfennaeth arall.

Cyfrifoldeb eich cyflogwr

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cwblhau eich oriau DPP ac mae'n rhaid i'ch cyflogwr sicrhau eich bod yn cael cymorth i wneud hynny.

Mae hyn yr un peth p'un a ydych yn gweithio'n llawn-amser neu'n rhan amser, neu os ydych yn gweithio i asiantaeth.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr:

  • rhoi cyfleoedd i chi gael mynediad at, i drafod, myfyrio ar a rhannu arfer da yn y gweithle
  • sicrhau bod gennych chi gyfleoedd sefydlu, hyfforddi a dysgu sy'n eich cefnogi
  • rhoi amser i’ch goruchwylio a'ch gwerthuso
  • rhoi adborth defnyddiol i chi am eich perfformiad a'ch datblygiad.

Dylai eich DPP fod yn berthnasol i'ch rôl gofrestredig, a nodau ac amcanion eich cyflogwr a'ch gwasanaeth.

Mae'n bwysig eich bod chi a'ch cyflogwr yn trafod ac yn cynllunio sut y byddwch yn bodloni'ch gofynion.

Os ydych yn hunangyflogedig

Mae angen i chi gwblhau eich oriau DPP os ydych yn hunangyflogedig, a chadw cofnod o'ch DPP.

Pan fyddwch yn mewngofnodi eich DPP drwy GCCarlein ac yn cael eich dewis i'w harchwilio, gall eich gweithgareddau DPP naill ai gael eu dilysu gan berson priodol, neu gallwch anfon portffolio o dystiolaeth na ellir ei ddychwelyd at ein tîm cofrestru.

Os nad ydych yn siŵr pwy all ddilysu eich DPP, edrychwch ar y canllawiau dilysu.

Os ydych yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant

Os ydych yn dychwelyd i'r gwaith yn dilyn cyfnod o absenoldeb hir (er enghraifft: seibiant gyrfa, absenoldeb mamolaeth, salwch neu ddiweithdra) mae angen i chi gwblhau gweithgareddau dysgu neu adsefydlu. Gallwch eu cofnodi fel gweithgareddau DPP.

Mae angen i chi gwblhau eich oriau DPP gofynnol o hyd yn ystod eich cyfnod cofrestru tair blynedd er mwyn gallu adnewyddu eich cofrestriad.

Os ydych chi'n pryderu ynghylch gallu diwallu'ch gofynion DPP, e-bostiwch ein tîm cofrestru ar ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru cyn gynted â phosibl.