CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol: 2022 i 2025

Ein nod: meithrin hyder yn y gweithlu, ac arwain a chefnogi gwelliannau mewn gofal cymdeithasol.

Cyflwyniad

Rydym wedi llunio’r cynllun hwn mewn ymateb i gam gweithredu penodol yn Cymru Iachach - Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae ein nod “i feithrin hyder yn y gweithlu ac arwain a chefnogi gwelliannau mewn gofal cymdeithasol” wrth wraidd y strategaeth hon.

Mae gwaith cymdeithasol yn bodoli at ddiben – sef asesu’r angen am wasanaethau gofal a chymorth i sicrhau bod llesiant yn cyd-fynd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae gwaith cymdeithasol yn newid. Mae’n dod yn fwy cymhleth oherwydd bod gan bobl anghenion cymdeithasol, iechyd a gofal sy’n fwy anodd. Er mwyn ymateb i hyn, mae angen ymarferwyr arnom sy’n aros yn y sector am amser hir ac sy’n ymroddedig i gefnogi a gwella bywydau bob dydd y bobl a’r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw.

Mae’r cynllun gweithlu hwn yn adeiladu ar ein gwaith gyda’r sector i newid sut rydym yn gwneud y canlynol:

  • cofrestru a rheoleiddio, gan ganolbwyntio mwy ar lesiant y gweithlu ac iechyd meddwl cadarnhaol
  • datblygu sgiliau a gwybodaeth i ateb y galw yn y dyfodol
  • defnyddio technoleg yn well
  • cryfhau a gwella cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu
  • rhoi cefnogaeth strategol a chymorth ymarferol i’r proffesiwn gwaith cymdeithasol.

Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar gynyddu a meithrin arferion proffesiynol rhagorol. Mae’n cydnabod bod angen i hyn gynnwys cefnogi pob gweithiwr cymdeithasol i wneud y canlynol:

  • teimlo bod rhywun yn gofalu amdanynt
  • gweithio mewn diwylliant tosturiol a chynhwysol
  • teimlo bod eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bawb, ac mae’n dal i fod felly, wrth i ni addasu i ffyrdd newydd o weithio. Rydym am ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i’n helpu ni i lunio’r cynllun gweithlu hwn. Mae eich cyfraniadau, eich adborth a’ch cefnogaeth wedi bod yn werthfawr iawn.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ledled Cymru a’n partneriaid i roi’r cynllun gweithlu hwn ar waith.

Diolch yn fawr.

Sut y gwnaethom ddatblygu’r cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol

Fe wnaethom ddatblygu’r cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol ar ôl siarad â rhanddeiliaid a phartneriaid.

Mae eu mewnbwn a’u hadborth wedi’n helpu ni i lunio drafft cyntaf dogfen roeddem wedi’i hysgrifennu yn ystod gwanwyn 2021. Roedd hwn yn ddechrau cyfnodhir o gydweithio â'r canlynol:

  • y gweithlu gwaith cymdeithasol
  • asiantaethau partner
  • cyrff proffesiynol
  • undebau llafur
  • cyflogwyr
  • arweinwyr a chomisiynwyr y gweithlu.

Maent i gyd wedi ein helpu i lunio cynnwys y cynllun gweithlu.

Rydym yn falch o ddweud bod y mwyafrif o’r bobl rydym wedi siarad â nhw yn cefnogi’r uchelgais, y themâu a’r camau rydym yn eu cynnig.

Er mwyn cael eu barn, rydym wedi:

  • cael 75 o ymatebion wedi’u cwblhau i’r arolwg ar-lein
  • cynnal gweithdai gyda 111 o bobl
  • cynnal 30 o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid gwaith cymdeithasol.

Ymateb i heriau a chyfleoedd

Fel rheoleiddiwr y gweithlu gwaith cymdeithasol, ni sy’n gyfrifol am ddatblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar. Rydym hefyd yn cefnogi ymchwil gofal cymdeithasol ac yn helpu i wella ein gwasanaethau yng Nghymru.

Mae arnom eisiau helpu i sicrhau bod pawb y mae angen gofal a chymorth arnynt yn gallu byw mor annibynnol â phosib a’u bod yn cael cymorth i fyw y math o fywyd sy’n bwysig iddyn nhw.

Byddwn yn darparu gwybodaeth, dadansoddiadau a rhagolygon i helpu’r sector i weithio gyda’i gilydd i ymateb i heriau ac i ddelio ag ansicrwydd.

Byddwn yn datblygu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i drawsnewid a gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddylanwadu’n gadarnhaol ar y system gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar er mwyn gwella canlyniadau i blant, oedolion, gofalwyr di-dâl a theuluoedd sy’n defnyddio gofal a chymorth. Mae hyn yn golygu ein bod yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol i ennill y sgiliau a’r profiad iawn i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib.

Mae’r gweithlu gwaith cymdeithasol yn parhau i ymdrin â’r heriau parhaus a achoswyd gan bandemig Covid-19. Rydym yn deall yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y proffesiwn gwaith cymdeithasol ac ar bobl sy’n rheoli ac yn addasu gwasanaethau, wrth iddynt ymateb i heriau sy’n newydd i bob un ohonom.

Wrth ddatblygu’r cynllun gweithlu hwn, fe wnaethom wrando ar sylwadau ar yr heriau a’r goblygiadau i’r gweithlu. Roedd y gwelliannau a awgrymwyd yn cynnwys y canlynol:

  • cymorth ariannol i bobl sy’n astudio ar gyfer eu cymhwyster gwaith cymdeithasol
  • cynnig ôl-gymhwysol gwell gyda llwybrau datblygiad proffesiynol ôl-radd clir sy’n gysylltiedig â chyflog a datblygu gyrfa
  • lleihau nifer y swyddi gwag
  • cefnogi lles ac iechyd meddwl
  • dilyn agenda Gwaith Teg.

Roedd Covid-19 wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â pharch cydradd rhwng y gweithlu iechyd a’r gweithlu gofal cymdeithasol, a’r angen i wneud yn siŵr ein bod yn meddwl am ddiogelwch a lles staff gofal cymdeithasol, yn enwedig y rheini sydd ar y rheng flaen.

Rydym wedi cydnabod ers tro byd bod angen dull gweithredu cenedlaethol i fynd i’r afael â sicrwydd swyddi ac incwm. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys y Fforwm Gwaith Teg ym maes Gofal Cymdeithasol, i wneud hyn. Rydym hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio telerau ac amodau cenedlaethol ar gyfer gwaith cymdeithasol.

Rydym wedi dysgu llawer o’r newidiadau a wnaethom mewn ymateb i’r pandemig, ac mae wedi datgelu cyfleoedd i wneud pethau’n wahanol ac yn well yn y dyfodol. Dyma’r achos dros newid sy’n sail i’r cynllun gweithlu hwn.

Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion uchod ac rydym wedi nodi camau gweithredu ar draws saith thema, gan gynnwys:

  • recriwtio a chadw
  • rheoleiddio
  • datblygu gyrfa
  • cynhwysiant a chymorth i staff yn y gweithlu gwaith cymdeithasol.

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i fynd i’r afael â’r materion hyn. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi gweithwyr cymdeithasol i gyflawni eu potensial a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i les plant, pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru.

Sut mae’r cynllun gweithlu wedi’i strwythuro

Mae'r cynllun wedi’i rannu’n saith thema. Mae bob thema yn cynnwys datganiad byr am uchelgais y thema fel y nodir yn Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae gan bob datganiad uchelgais set o ddatganiadau “Rydw i”. Gan ein bod ni wedi siarad â phobl yn y proffesiwn, rydym yn hyderus bod y datganiadau hyn yn disgrifio’r effaith gadarnhaol mae arnom eisiau ei chael ar rywun sy’n gweithio mewn rôl gwaith cymdeithasol neu’n ei rheoli.

Y datganiadau “byddwn” yw’r camau rydym wedi ymrwymo i'w cymryd dros y tair blynedd nesaf gyda’n partneriaid. Mae pob un yn cynnwys awgrym o amserlen ar gyfer pryd byddwn yn ei gwblhau. “Byddwn” yw’r hyn y byddwn ni’n ei wneud, a “Byddaf yn teimlo” yw’r effaith y bydd hyn yn ei chael.

Mae gan bob datganiad “byddwn” gynllun gweithredu, sy'n rhestru’r camau y bydd yn rhaid i ni eu cymryd i gyflawni'r datganiad hwnnw. Mae’r cynlluniau gweithredu hefyd yn nodi’r adnoddau sydd eu hangen arnom i gyflawni’r nod, y tasgau y mae angen i ni eu cwblhau a phwy arall y mae angen eu cynnwys.

Mae angen i’r cynllun gweithlu fod yn hyblyg, er mwyn i ni allu adolygu ein cynnydd ym mhob un o’r tair blynedd nesaf.

Byddwn yn rhannu crynodeb o gynnydd y datganiadau “byddwn” gyda’r proffesiwn gwaith cymdeithasol. Bydd hyn yn dangos sut byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni ein nodau o dan bob un o’r saith thema.

Dyma enghraifft o sut mae’r cynllun gweithlu gwaith cymdeithasol yn edrych o dan bob un o’r saith thema:

  • Uchelgais: “Erbyn 2030, bydd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi lle bynnag y maent yn gweithio.” – strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
  • Datganiad “Byddwn”: “Byddwn yn lansio ein fframwaith lles gweithwyr i helpu eich sefydliad reoli a monitro’n gyson pob agwedd ar les eich gweithwyr yn y gwaith.” – ein cynllun gweithlu
  • Datganiad “Rydw i”: “Rydw i’n teimlo’n hapus, yn iach ac yn ddiogel yn y gwaith.”

Egwyddorion y cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol

Mae gan y cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol bum egwyddor. Rydym am gael gweithlu gwaith cymdeithasol:

  • sy’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ac sy’n cael ei werthfawrogi
  • sy’n meddu ar y gwerthoedd, yr ymddygiadau, yr wybodaeth, y sgiliau a’r hyder priodol i asesu anghenion gofal a chymorth a darparu cefnogaeth pan fo angen
  • sy’n gynaliadwy ac sydd â digon o bobl i ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol ymatebol sy’n diwallu anghenion pobl Cymru
  • sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae cefnogi lles gweithwyr yn hanfodol er mwyn i bobl a sefydliadau allu ffynnu
  • sy’n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, yr iaith Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol.

Datganiad o fwriad

Pwrpas y cynllun gweithlu hwn yw nodi camau gweithredu i gefnogi’r proffesiwn gwaith cymdeithasol i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n eu hwynebu ar hyn o bryd, er mwyn iddo allu darparu’r gofal a’r cymorth gorau posib i bobl. Nid yw gwaith cymdeithasol yn bodoli ar wahân a'r un yw’r trafferthion sy’n wynebu gwaith cymdeithasol ag sy’n wynebu holl weithlu’r maes gofal cymdeithasol.

Ond mae gwaith cymdeithasol yn unigryw o ran y ffordd y mae’n gweithio a lefel y cyfrifoldeb a’r ymreolaeth sydd gan bob gweithiwr. Rhywun caredig, sy’n malio am y bobl mae’n gweithio gyda nhw sy’n addas ar gyfer gwaith cymdeithasol. Mae modd dysgu popeth arall drwy’r llwybrau cymhwyso, y lleoliadau a’r tair blynedd gyntaf o ymarfer. Mae’r diffiniad y cytunwyd arno ar gyfer gweithiwr cymdeithasol wedi’i nodi yn atodiad un y cynllun hwn.

Er mai ein cynllun gweithlu ni yw hwn yn bennaf, mae ein holl waith yn cael ei gynhyrchu ar y cyd â’r sector. Mae ein partneriaid wedi cyfrannu at y cynllun hwn ac wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a mireinio’r camau gweithredu. Byddant yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni’r camau gweithredu. Rydym yn gwybod bod heriau sylweddol o'n blaenau, ond mae cyfleoedd hefyd rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â nhw gyda’n partneriaid.

Mae Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cael ei hadolygu’n ddiweddar ac rydym wedi cynyddu ein cynnig gwaith cymdeithasol i awdurdodau lleol yn sylweddol. Mae hyn yn cynnwys cynyddu’r gallu i “ddatblygu eich rhai eich hunain”.

Rydym wedi bod yn cynnal llawer o weithgareddau i gefnogi gwaith cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • cefnogi gweithwyr cymdeithasol syn cymhwyso
  • cefnogi llwybrau cymhwyso i waith cymdeithasol
  • dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gwaith cymdeithasol
  • cyhoeddi’r fframwaith ôl-gymhwyso
  • arweinyddiaeth
  • data gweithlu
  • cefnogi lles y gweithlu.

Mae arnom eisiau adeiladu ar y gwaith hwn a pharhau i arwain y sector tuag at broffesiwn sy’n cael ei werthfawrogi, sy’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ac sy’n cael yr holl gefnogaeth i ffynnu mewn diwylliant gwaith cadarnhaol.

Sut byddwn yn mesur effaith y cynllun gweithlu hwn?

Mae sawl ffordd y gallwn wneud hyn. Bydd arolwg gweithlu newydd yn cael ei roi ar waith yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, ac yn ein galluogi i ganfod pa mor effeithiol fu’r cynllun hwn a lle mae bylchau o hyd y mae angen mynd i’r afael â nhw.

Mae’r cynllun hwn ar gyfer ein holl bartneriaid gan y bydd angen eu cymorth a’u cefnogaeth arnom i’w symud yn ei flaen. Ond, yn anad dim, mae’n gynllun sydd wedi cael ei lunio gan y proffesiwn gwaith cymdeithasol a’i nod yw sicrhau newid ar gyfer pob gweithiwr rheng flaen.

Thema 1: Gweithlu ymroddgar, brwdfrydig ac iach

Uchelgais: Erbyn 2030, bydd aelodau’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi lle bynnag y maent yn gweithio.

Datganiadau “rydw i”:

  • “Rydw i’n teimlo’n hapus, yn iach ac yn ddiogel yn y gwaith.”
  • “Rydw i’n ymddiried yn y bobl rwy’n gweithio gyda nhw, yn parchu ac yn defnyddio eu sgiliau a’u harbenigeddau. Rydw i’n gwybod bod fy sgiliau a fy ngwybodaeth innau yr un mor werthfawr.”
  • “Rydw i’n cael fy ngwerthfawrogi am fy nghyfraniad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.”
  • “Mae’r disgwyliadau sydd arnaf yn realistig ac yn gyraeddadwy, ac yn sicrhau fy mod yn cyflawni’r canlyniadau gorau i’r unigolion rwy’n gweithio gyda nhw.”
  • “Rydw i’n cael fy nhrin yn deg ac rwy’n cael fy ngweld fel unigolyn.”
  • “Rydw i’n cael fy ysgogi, fy nghefnogi a’m hannog i berfformio ar fy ngorau.”

Datganiadau “Byddwn”:

  • “Byddwn yn diweddaru ein hadnoddau ar-lein i gyflogwyr a gweithwyr cymdeithasol yn barhaus ynghylch hunanofal yn y gwaith, gwella amodau gwaith a’r newidiadau i ymarfer gwaith cymdeithasol.”
    Gaeaf 2021 hyd haf 2022
  • “Byddwn yn adolygu’r telerau a’r amodau presennol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ledled Cymru.”
    Gwanwyn 2022
  • “Byddwn ni, a’n partneriaid, yn parhau i rannu arferion da o ran cynnig cefnogaeth gyffredinol i weithwyr cymdeithasol, megis cefnogaeth gan gymheiriaid a goruchwyliaeth a sesiynau ôl-drafodaeth.”
    2022 i 2027
  • “Byddwn yn parhau i hyrwyddo dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau ac ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn/y plentyn bob amser.”
    2022 i 2027
  • “Byddwn yn parhau i gyfrannu at Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac yn gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol cenedlaethol.”
    2022 i 2023
  • “Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i roi blaenoriaeth i les gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso ac amodau gwaith gwell iddynt. Mae hyn yn adeiladu ar yr hyb addysgwyr ymarfer a ddechreuwyd gennym yn 2021.”
    2022 i 2023
  • “Byddwn yn mesur effaith y cynllun gweithlu hwn yn erbyn nifer y gweithwyr cymdeithasol ac arolwg gweithlu cenedlaethol newydd a fydd yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol.”
    2022 i 2027
  • “Byddwn yn parhau i edrych ar sut y gallwn gael parch a thelerau ac amodau cyfartal rhwng y gweithluoedd iechyd a gofal cymdeithasol ac yn buddsoddi mewn ffyrdd newydd o ddarparu gofal a chymorth sy’n diwallu anghenion pobl Cymru.”
    2022 i 2027 (ein cynllun strategol)

Thema 2: Denu a recriwtio

Uchelgais: Erbyn 2030, bydd iechyd a gofal cymdeithasol wedi ennill eu plwyf fel brand cryf y gellir ei adnabod a’r sector o ddewis ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol.

Datganiadau “rydw i”:

  • “Rydw i'n cael cefnogaeth i’m helpu i ddeall a gweithio tuag at gael rôl neu yrfa mewn gwaith cymdeithasol.”
  • “Rydw i’n gweithio i sefydliad sy’n gwrando ar fy marn a’m profiadau o ran gweithio yn y proffesiwn gwaith cymdeithasol ac sy’n parchu’r rhain.”
  • “Rydw i’n gweithio i sefydliad lle mae’r amgylchedd a’r amodau iawn yn bodoli i gefnogi ymarfer gwaith cymdeithasol rhagorol.”
  • “Rydw i’n gweithio gyda phobl sy’n cynrychioli amrywiaeth a gwerthoedd fy nghymuned leol ac sy’n helpu i gadw ein plant a’n hoedolion mwyaf agored i niwed yn ddiogel ac yn iach.”

Datganiadau “Byddwn”:

  • “Byddwn yn ceisio sicrhau bod pob myfyriwr gwaith cymdeithasol cymwys yn cael bwrsariaeth”
    Gaeaf 2021 hyd haf 2023

  • “Byddwn yn datblygu rôl llysgenhadon gwaith cymdeithasol i helpu i hyrwyddo’r proffesiwn, eirioli dros y bobl sy’n gweithio yn y proffesiwn ac annog eraill i feddwl am yrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Byddwn hefyd yn defnyddio’r llwyfan Careersville i hyrwyddo’r proffesiwn drwy ymgyrch farchnata wedi’i hanelu at ysgolion a cholegau.”
    Haf 2022

  • “Byddwn yn darparu cymorth ac arweiniad ychwanegol i’n rhaglen denu, recriwtio a chadw, Gofalwn Cymru, a dangos gwahanol ffyrdd o ddechrau gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol a’r llwybrau sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys porth swyddi sy’n addas i’r diben. Byddwn hefyd yn hyrwyddo gwaith cymdeithasol yn ehangach yn y sector cyhoeddus ac fel dewis o yrfa.”
    Haf hyd hydref 2022
  • “Byddwn yn datblygu ffyrdd o helpu cyflogwyr i roi prosesau recriwtio sy’n seiliedig ar werthoedd ar waith. Bydd hyn yn cynnwys adnoddau recriwtio dwyieithog sy’n seiliedig ar werthoedd a bydd yn rhoi mynediad iddynt at adnoddau denu, recriwtio a chyfweld sydd wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru.”
    Haf 2022

  • “Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i adolygu ac i asesu’r opsiynau mewn perthynas â chyllid ar gyfer hyfforddiant gwaith cymdeithasol.”
    2022 i 2023

  • “Rydym yn sylweddoli, er mwyn bodloni gofynion heddiw a rhai’r dyfodol, y bydd hyfforddiant o ansawdd uchel yn cefnogi’r gweithlu ac yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau, y ddealltwriaeth a'r dull gweithredu priodol iddynt a fydd yn eu galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth o ansawdd da.”
    2022 i 2027 (ein cynllun strategol)

Thema 3: Modelau gweithlu di-dor

Uchelgais: Erbyn 2030, modelau gweithlu amlbroffesiwn ac aml-asiantaeth fydd y norm.

Datganiadau “rydw i”:

  • “Rydw i’n deall lefel y cyfrifoldeb a’r matho benderfyniadau sy’n ofynnol i mi eu gwneud wrth weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill.”
  • “Rydw i’n deall y rôl y gallaf ei chwarae wrth weithio gyda phobl sydd ag anghenion gofal a chymorth er mwyn iddynt gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw mor annibynnol â phosib.”
  • “Rydw i’n parchu ac yn deall cyfraniad unigryw pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio ochr yn ochr â mi.”
  • “Rydw i’n deall lefel yr atebolrwydd a’r ymreolaeth sydd ei hangen arnaf yn fy rôl fel rhan o dîm ehangach o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r unigolyn neu’r teulu.”
  • “Rydw i’n cael fy nghefnogi i feithrin perthynas waith effeithiol y gellir ymddiried ynddi rhwng partneriaethau ac asiantaethau eraill.”
  • “Rydw i’n gallu dibynnu ar weithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill i ddeall fy rôl a’m cyfrifoldebau fel gweithiwr cymdeithasol wrth weithio ag asiantaethau eraill.”

Datganiadau “Byddwn”:

  • “Gyda’n partneriaid, byddwn yn llunio set genedlaethol o safonau hyfforddiant diogelu. Bydd hyn yn gwella cysondeb ac ansawdd adnoddau a hyfforddiant diogelu. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i asiantaethau ddeall eu dyletswyddau eu hunain a dyletswyddau pobl eraill o ran diogelu wrth weithio gyda’i gilydd.”
    Hydref 2022
  • “Byddwn yn gweithio gyda’n hasiantaethau partner ym maes iechyd meddwl i lunio cynllun iechyd meddwl amlbroffesiwn ar gyfer y gweithlu.”
    2022 i 2023
  • “Byddwn yn gweithredu rhaglen gynefino gyffredin sy’n seiliedig ar werthoedd ar gyfer pawb yn ein gweithlu sy’n darparu gofal iechyd a chymdeithasol mewn lleoliadau sylfaenol a chymunedol ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill.”
    Haf 2022
  • “Rydym yn cydnabod yr angen i newid ein darpariaeth addysg a hyfforddiant i ddull gweithredu mwy aml-asiantaethol i wella gweithio di-dor a’i wneud yn fwy hygyrch i’r grwpiau sydd wedi’u cynrychioli leiaf yn ein gweithlu.”
    2022 i 2027 (ein cynllun strategol)

Thema 4: Adeiladu gweithlu sy’n barod ar gyfer y byd digidol

Uchelgais: Erbyn 2030, bydd gallu digidol a thechnolegol y gweithlu wedi’i ddatblygu’n dda ac yn cael ei ddefnyddio i sicrhau ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosib, er mwyn ein helpu i ddarparu’r gofal gorau posib i bobl.

Datganiadau “rydw i”:

  • “Rydw i’n gallu rheoli a monitro fy natblygiad proffesiynol gan ddefnyddio offer a thechnolegau digidol.”
  • “Rydw i’n gallu cael mynediad at dechnoleg ddibynadwy, effeithiol a diogel.”
  • “Mae gen i’r dewis i ddod o hyd i ffyrdd digidol ac arloesol o gefnogi fy natblygiad a’m dysgu personol a phroffesiynol.”
  • “Rydw i’n teimlo bod fy mywyd gwaith o ddydd i ddydd yn cael ei wella gan dechnoleg hawdd ei defnyddio sy’n arbed amser ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar y bobl rwy’n eu cefnogi.”
  • “Rydw i’n hyderus, yn gymwys ac yn gallu manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol yn fy rôl a defnyddio ei photensial i wella ansawdd ac effeithlonrwydd y gofal rydw i’n ei ddarparu.”

Datganiadau “Byddwn”:

  • “Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu argaeledd ac amrywiaeth datrysiadau rhith-ddysgu.”
    Gaeaf 2021 hyd haf 2023
  • “Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cydweithwyr i wneud yn siŵr ein bod yn deall yn llawn beth fydd effaith gwella sgiliau digidol, er mwyn i ni fod yn y sefyllfa orau i ddatblygu adnoddau dysgu arloesol i fynd i’r afael â’ch anghenion dysgu.”
    Hydref 2022
  • “Byddwn yn datblygu ‘Fframwaith gallu digidol ar gyfer gwaith cymdeithasol’ sy’n nodi’r wybodaeth a’r sgiliau digidol sydd eu hangen i helpu gyda'r gwaith o farnu a gwneud penderfyniadau.”
    Hydref 2022
  • “Byddwn yn gweithio gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru a’n darparwyr addysg uwch ac addysg bellach i gomisiynu elfen sgiliau digidol ddiwygiedig o’r cwricwlwm gwaith cymdeithasol ar gyfer pob rhaglen israddedig.”
    Gaeaf 2022 hyd Haf 2023
  • “Rydym yn sylweddoli bod y datblygiadau cyflym ym maes technoleg yn golygu mai nawr yw’r amser iawn i edrych ar yr elfen fyfyriol ac ymatebol o ymchwil, data a mathau eraill o dystiolaeth o ansawdd uchel.”
    2022 i 2027 (ein cynllun strategol)

Thema 5: Addysg a dysgu rhagorol

Uchelgais: Erbyn 2030, bydd y buddsoddiad mewn addysg a dysgu ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

Datganiadau “rydw i”:

  • “Rydw i'n gallu cael mynediad at raglenni addysg a hyfforddiant sy’n cefnogi fy natblygiad proffesiynol wrth i mi symud ymlaen drwy fy ngyrfa ac ymgymryd â swyddogaethau neu rolau gwaith cymdeithasol newydd.”
  • “Rydw i’n cael amser wedi’i neilltuo i gyflawni rhaglenni dysgu er mwyn datblygu fy hun.”
  • “Rydw i'n gallu cael mynediad at hyfforddiant o safon sy’n hyblyg o ran sut rydw i’n cael gafael arno, yn ategu’r ffordd rydw i’n dysgu orau ac yn gwella fy sgiliau, fy ngwybodaeth a’m hyder.”
  • “Rydw i'n cael cyfleoedd hyblyg i gael gafael ar hyfforddiant a chyllid ar gyfer cymhwyster (gradd) mewn gwaith cymdeithasol sy’n gynaliadwy ac yn deg.”
  • “Rydw i’n gallu cael mynediad at ddull hyblyg o ennill cymwysterau gwaith cymdeithasol ychwanegol i ddatblygu fy ngwybodaeth a’m profiad o helpu pobl i fod yn gyfrifol am eu dyfodol eu hunain a gwireddu eu dyheadau.”

Datganiadau “Byddwn”:

  • “Byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn edrych ar y llwybrau cymhwyso i waith cymdeithasol a’r heriau a’r cyfleoedd mae’r rhain yn eu cyflwyno. Rydym yn cydnabod yr angen am amrywiaeth o rolau mynediad i waith cymdeithasol.”
    Haf 2022
  • “Byddwn yn lansio ein Fframwaith ôl-gymhwyso newydd ar gyfer gwaith cymdeithasol. Bydd hyn yn hwyluso datblygu gyrfa yn y rôl ac yn golygu y bydd modd arbenigo mewn un neu ragor o feysydd. Bydd hefyd yn cyfrif tuag at gymhwyster cydnabyddedig ar draws y proffesiynau.”
    2022 i 2023
  • “Byddwn yn cyflwyno fframwaith dysgu a datblygu i gefnogi’r gwaith o roi’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid newydd ar waith a fydd yn disodli’r Trefniadau Diogelu rhag Amddifadu o Ryddid.”
    2022 i 2023
  • “Byddwn yn cyhoeddi cynllun iechyd meddwl ar gyfer y gweithlu. Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad i weld a allwn gynnwys lefel uwch o wybodaeth am iechyd meddwl fel rhan o’r radd mewn gwaith cymdeithasol a chymhwyster meistr.”
    2022 i 2023
  • “Byddwn yn cefnogi mynediad at adnoddau dysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys datblygu cymunedol ac yn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a gwneud addysg ar amrywiaeth, cynhwysiant a chymhwysedd diwylliannol gwrth-hiliol yn orfodol i bob gweithiwr cymdeithasol.”
    Haf 2022
  • “Byddwn yn lansio’r dull cyflwyno ar gyfer y cymhwyster Lefel 4 Dyfarniad Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ei gydnabod fel ffordd o gael hyfforddiant gwaith cymdeithasol proffesiynol.”
    Hydref 2022
  • “Byddwn yn adolygu ein dull gweithredu a’n proses ar gyfer cofnodi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), er mwyn i weithwyr cymdeithasol allu ei gofnodi’n hawdd a’i weld mewn ffordd gadarnhaol.”
    Gaeaf 2022
  • “Byddwn yn defnyddio gwybodaeth a thystiolaeth o reoleiddio i lywio ac ysgogi datblygiad y gweithlu a gwelliannau iddo er mwyn gwella’r profiad a’r canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.”
    2022 i 2027 (ein cynllun strategol)

Thema 6: Arweinyddiaeth ac olyniaeth

Uchelgais: Erbyn 2030, bydd arweinwyr yn y system iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos arweinyddiaeth ar y cyd a thosturiol.

Datganiadau “rydw i”:

  • “Mae gen i berthynas waith llawn ymddiriedaeth a pharch gyda fy rheolwr, sy’n cael ei gwerthfawrogi, ac mae fy rheolwr yn gyson, yn deg ac yn hawdd mynd ato.”
  • “Rydw i’n gweithio i sefydliad lle mae arweinwyr yn ceisio deall a pharchu diwylliannau eraill ac yn gallu arwain grŵp amrywiol o bobl.”
  • “Fel arweinydd, rydw i'n gallu cael mynediad at raglenni arwain a rheoli sy’n fy nghefnogi i greu a chynnal yr amodau i rymuso eraill i wella ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu.”
  • “Rydw i’n gallu manteisio ar gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ystyrlon sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran fy ngalluogi i gefnogi cydweithwyr a thimau i addasu i ffyrdd newydd o weithio.”
  • “Rydw i’n gallu manteisio ar gyfleoedd llwybr sy’n addas i’r diben i gefnogi fy natblygiad fel darpar reolwr.”
  • “Rydw i’n gweithio i sefydliad sy’n datblygu arweinwyr cynhwysol ar bob lefel yn y sector gofal cymdeithasol.”

Datganiadau “Byddwn”:

  • “Byddwn yn parhau i gynhyrchu cynnwys a chyfleoedd dysgu ac ymgysylltu i gefnogi arweinwyr i wella eu lles personol ac i helpu i ddiogelu gwytnwch arweinwyr a gweithwyr cymdeithasol.”
    Haf 2022
  • “Byddwn yn defnyddio’r Egwyddorion Arwain ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru i ddylunio fframwaith rhinweddau arwain sy’n darparu cymorth ac arweiniad i reolwyr sy’n egluro beth yw arweinyddiaeth dosturiol a sut beth ydyw yn ymarferol yn y gweithle.”
    Gaeaf 2022
  • “Byddwn yn datblygu tudalen we sy’n cynnwys gwybodaeth am adnoddau, dosbarthiadau meistr a gweminarau i gefnogi arweinyddiaeth dosturiol ac ar y cyd sy’n seiliedig ar yr Egwyddorion Arwain ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.”
    2022 i 2023
  • “Byddwn yn datblygu rhaglen arweinyddiaeth ar gyfer darpar arweinwyr o blith cydweithwyr o grwpiau lleiafrifol sy’n gweithio yn y proffesiwn gwaith cymdeithasol sy’n pontio’r bwlch rhwng ble mae’r ymgeiswyr a lle mae angen iddynt fod, er mwyn symud ymlaen i swyddi uwch.”
    Gwanwyn 2023
  • “Byddwn yn hyrwyddo’r dystiolaeth gynyddol a grymus sy’n dangos bod arweinyddiaeth dosturiol yn gallu effeithio’n uniongyrchol ar allu’r gweithlu i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.”
    2022 i 2027 (ein cynllun strategol)

Thema 7: Ffurf a chyflenwad y gweithlu

Uchelgais: Erbyn 2030, bydd gennym weithlu cynaliadwy gyda digon o bobl i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ein poblogaeth.

Datganiadau “rydw i”:

  • “Mae pobl yn gwrando arna i o ran deall cymhlethdod a gwerth gwaith cymdeithasol a’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu cymorth sy’n ddiwylliannol berthnasol i bobl yn fy nghymuned leol.”
  • “Rydw i’n gweithio gyda chydweithwyr sydd â’r sgiliau, yr wybodaeth, y gwerthoedd a’r ymddygiadau sy’n golygu ein bod yn y lle gorau i adnabod a darparu gofal a chymorth o safon gynyddol uwch.”
  • “Rydw i’n gweithio mewn lleoliad sy’n croesawu siaradwyr Cymraeg, sy’n falch o ddarparu’r cynnig gweithredol ac sy’n ymdrechu i gynrychioli’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu fel rhan o ddarparu gofal sydd wirioneddol yn canolbwyntio ar yr unigolyn.”
  • “Rydw i’n parchu ac yn gwerthfawrogi rôl hollbwysig tymor hir gofalwyr di-dâl, mudiadau gwirfoddol a chymunedol o ran cefnogi iechyd a lles plant, teuluoedd ac oedolion yn fy nghymuned leol.”

Datganiadau “Byddwn”:

  • “Byddwn yn dadansoddi’r porth swyddi a’i ddata i edrych ar y gweithlu o ran cyflenwad a galw. Byddwn yn defnyddio’r data hyn i weithio gyda’r proffesiwn gwaith cymdeithasol er mwyn i ni allu adolygu ein dull o gynllunio’r gweithlu. Bydd hyn yn dangos i ni pa sgiliau, galluoedd, mathau o rolau a niferoedd sydd eu hangen arnom dros y pum mlynedd nesaf.”
    Gwanwyn 2023
  • “Byddwn yn adolygu sut rydym yn cynllunio’r gweithlu ac yn edrych ar broffiliau ein poblogaeth a’n cymunedau o ran yr iaith Gymraeg. Byddwn yn defnyddio’r rhain i asesu sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn ystyried ymwybyddiaeth y gweithlu o’r Gymraeg a’i heffaith ar y bobl rydym yn eu cefnogi.”
    Gaeaf 2022 hyd haf 2023
  • “Byddwn yn darparu adnoddau dysgu a thystiolaeth i gefnogi dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc er mwyn dylanwadu ar gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.”
    Hydref 2022
  • “Byddwn yn datblygu ac yn lansio porth data a llwyfan rhagamcanion gwell sy’n darparu gwell data a gwybodaeth, a fydd yn galluogi awdurdodau lleol a byrddau partneriaeth rhanbarthol i ddeall anghenion eu poblogaeth leol yn well.”
    Haf 2022 hyd Gwanwyn 2023
  • “Mae gennym swyddogaeth diogelu’r cyhoedd bwysig o hyd o ran sicrhau bod y gweithlu wedi’i gofrestru a’i fod yn addas i ymarfer.”
  • “Mae angen i ni fod yn rhagweithiol wrth dargedu prinder penodol a chefnogi staff drwy gydol eu gyrfaoedd.”
    2022 i 2027 (ein cynllun strategol)