CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheolwr gofal cartref (gwasanaethau i oedolion)

Registration required

Cofrestrwch yma

I gofrestru fel Rheolwr gofal cartref (gwasanaethau i oedolion):

  • Opsiwn 1

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    • City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

  • Opsiwn 2

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer cwblhau yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 3

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer cwblhau yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 4

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

    and

    Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 5

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 6

    • Gradd mewn gwaith cymdeithasol

    neu

    • Gradd mewn Therapi Galwedigaethol

    neu

    Gradd Nyrsio

    a

    • Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol Cymdeithasol (adnabyddir hefyd fel Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm (TMDP))

  • Opsiwn 7

    • Gradd mewn gwaith cymdeithasol

    neu

    • Gradd mewn Therapi Galwedigaethol

    neu

    Gradd Nyrsio

    a

    Cymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:

    • yn o leiaf lefel 3
    • ganddo o leiaf 37 credyd
    • wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol a bod y person cofrestredig mewn rôl iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.

    Mae’r rheolwyr sy’n dal un o’r graddau a rhestrwyd ond dim un o’r cymwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau'r cymhwyster perthnasol yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

Other accepted qualifications

  • Other qualifications that will be accepted for this job, if you don’t hold the current Welsh qualifications:

    • Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon 

    • NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal

    • NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)

    • NVQ 4 Dyfarniad Rheolwr Cofrestredig

    • NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

    • NVQ 4 mewn Gofal

    • Diploma mewn Rheoli Gofal Cartref

    Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 neu uwch arall ar y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer gweithiwr gofal cartref (gwasanaethau i oedolion) neu Tystysgrif Prifysgol De Cymru Camu Ymlaen i Reoli (Gofal Cymdeithasol Cymru) ac wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer. 

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf ac wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer. Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

    Neu i’r rhai sydd wedi cofrestru cyn 2013:

    Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru

Gofynion eraill

Os bydd rheolwyr gofal cartref yn gweithio gydag oedolion a phlant, mae’n ddyletswydd ar y cyflogwyr i wneud yn siŵr bod y rheolwr wedi cyflawni'r dysgu priodol o fewn y cymwysterau yng nghyswllt oedolion a phlant, a bod ganddo’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl.

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Qualifications gained outside of Wales

Mae’r wybodaeth ganlynol yn berthnasol i chi os:

  • rydych yn gweithio, neu os hoffech weithio, fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru a  
  • meddu ar gymhwyster perthnasol (o’r DU neu dramor) nad yw wedi’i restru ar y fframwaith cymhwyster na’r rhestr flaenoriaeth.  

Cymwysterau a enillwyd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Cymwysterau a enillwyd cyn Rhagfyr 2026
Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster (a gyflawnwyd cyn Rhagfyr 2026. Mae'r dyddiad cyflawni i'w weld ar eich tystysgrif) sy'n cael ei gydnabod gan Skills for Care (Lloegr), Northern Ireland Social Services Council neu Scottish Social Services Council dylech gwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gwasanaeth.

Proses QEA o fis Ionawr 2027
Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster o Loegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw eich cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.

Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].

Cymwysterau rhyngwladol
Os ydych chi'n rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster rhyngwladol bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw'ch cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.

Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].

Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) - Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) - Trefniadau Cymdeithas Masnach Rydd (FTA) (Gweithlu a reoleiddir yn unig)

Mae’r EEA-EFTA-FTA yn gytundeb masnach rydd cynhwysfawr rhwng y DU a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a’r Swistir (gwledydd) ac un o’r meysydd y mae’n ei gwmpasu yw cydnabod cymwysterau proffesiynol.

O dan y cytundeb, mae’n ofynnol i ni gydnabod cymwysterau proffesiynol ymgeiswyr o’r gwledydd yma lle maent yn debyg i’r rheini sy’n ofynnol ar gyfer y proffesiwn gofal cymdeithasol perthnasol yng Nghymru. Mae'n ofynnol i ni gynnig cyfnodau addasu lle bo angen ac mae gofynion pellach ynghylch sut rydym yn prosesu ceisiadau.

Mae Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 yn gweithredu cytundeb EEA-EFTA-FTA yng Nghymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr Cymru gydymffurfio â'r darpariaethau ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol.

Os ydych chi wedi cwblhau eich cymhwyster proffesiynol yn un o’r gwledydd a nodir uchod, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth: CymwysterauEquivalency@gofalcymdeithasol.cymru

Gofynion sefydlu

Mae’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol yn cynnwys lled y cyfrifoldeb ar gyfer arwain a rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol ac yn darparu strwythur ar gyfer sefydlu ar draws Cymru.

Mae gan gyflogwyr cyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod eu rheolwyr newydd yn derbyn sefydlu addas gan ddefnyddio’r fframwaith yma. Gall rheolwyr fod yn newydd i’r rôl, sefydliad neu’r sector.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.

Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am DPP.