CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheolwr gwasanaethau eirioli (gwasanaethau i oedolion)

Nid oes angen cofrestru

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Qualifications gained outside of Wales

Lloegr a Gogledd Iwerddon:

Rhestrir cymwysterau rhagflaenol yn yr adran ar ‘gymwysterau eraill'. Nid oes unrhyw gymwysterau cyfredol wedi'u nodi ar gyfer rheolwyr eiriolaeth yn unrhyw un o genhedloedd eraill y DU.

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.