CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheolwr gwasanaethau mabwysiadu

Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol

Cofrestrwch yma

I gofrestru fel Rheolwr gwasanaethau mabwysiadu

  • Opsiwn 1

    • Gradd mewn gwaith cymdeithasol

    a

    • Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol Cymdeithasol (adnabyddir hefyd fel Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm (TMDP))

  • Opsiwn 2

    • Gradd mewn gwaith cymdeithasol

    a

    Chymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:

    • yn o leiaf lefel 3
    • ganddo o leiaf 37 credyd
    • wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol a bod y person cofrestriedig mewn rôl iechyd neu gofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.

    Noder: Mae’r rheolwyr sy’n dal y Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol ond dim un o’r cymwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau y Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol yn ei cyfnod cofrestru 3 mlynedd.

  • Cymwysterau eraill a dderbynnir

    Cymwysterau eraill a dderbynnir a fydd yn cael eu derbyn ar gyfer y swydd hon, os nad oes gennych y cymwysterau Cymraeg presennol:

    • Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru

    a

    • NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.