Rheolwr y ganolfan breswyl i deuluoedd fydd yn pennu cyfeiriad gweithredol y gwasanaeth, ac yn trefnu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n effeithiol er mwyn cyflawni datganiad o ddiben y lleoliad.
Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol
Cofrestrwch ymaGofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae'r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Qualifications gained outside of Wales
Mae angen cymwysterau gofynnol i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol. Lle nad oes gennych un o'r rhain ond bod gennych gymhwyster arall sy'n bodloni meini prawf hanfodol y cytunwyd arnynt, gellir defnyddio cwblhau'r Fframwaith Sefydlu fel elfen atodol os ydych am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai:
- am y tro cyntaf neu;
- symud i ran wahanol o'r Gofrestr.
Os hoffech ddefnyddio'r llwybr hwn i gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno cais i'r tîm cofrestru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, dylech gwblhau'r Fframwaith Sefydlu o fewn 12 mis cyntaf eich cofrestriad, a rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn fel rhan o adnewyddu eich cofrestriad.
Os rydych wedi cofrestru gyda ni yn barod ac eisiau symud i ran arall o’r Gofrestr, does dim angen anfon cais newydd. Dylech chi anfon e-bost at cofrestwyr@gofalcymdeithasol.cymru i ofyn i newid eich cofrestriad.
Gofynion sefydlu
Mae’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol yn cynnwys lled y cyfrifoldeb ar gyfer arwain a rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol ac yn darparu strwythur ar gyfer sefydlu ar draws Cymru.
Mae gan gyflogwyr cyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod eu rheolwyr newydd yn derbyn sefydlu addas gan ddefnyddio’r fframwaith yma. Gall rheolwyr fod yn newydd i’r rôl, sefydliad neu’r sector.
Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.
Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)
Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.