Mae gweithwyr gwybodaeth, cyngor a chymorth yn gweithio mewn canolfannau galwadau (siop un stop) yn bennaf, ac yn rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd, neu’n eu cyfeirio, y tro cyntaf maent yn dod i gysylltiad â’r system gofal a chymorth. Maent hefyd yn gallu rhoi cyngor a chymorth, a fydd yn cynnwys asesiad cymesur. Mae'r cymhwyster sydd i'w argymell ar gyfer y rôl hon yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, ynghyd â swyddogaeth a rôl lawn gweithwyr sy'n cefnogi gweithgareddau gwaith cymdeithasol yn uniongyrchol.
Nid oes angen cofrestru
Gofynion eraill
Os bydd y gweithiwr gwybodaeth, cyngor a chymorth yn cynnal asesiadau, dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod ganddo’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r cymwysterau priodol i wneud hynny.
Mae'r lefelau priodol o gymwysterau ar gyfer gwneud y gwaith hwn yn cynnwys y canlynol:
- naill ai ymarferydd gwaith cymdeithasol neu ymarferydd gofal cymdeithasol cofrestredig gyda chymhwyster proffesiynol lefel 5 neu uwch
- neu rywun gyda chymhwyster gofal cymdeithasol lefel 4 neu uwch, sy'n cynnwys gwybodaeth a sgiliau i gynnal asesiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, o dan oruchwyliaeth ymarferydd gofal cymdeithasol neu ymarferydd gwaith cymdeithasol cofrestredig.
Hefyd, mae angen i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod gan yr holl staff sy’n ymgymryd â'r gweithgareddau hyn y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i weithio gyda phlant a phobl ifanc, oedolion a gofalwyr, fel sy'n briodol.
Mae'r cymhwyster sydd i'w argymell ar gyfer y rôl hon yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, ynghyd â swyddogaeth a rôl lawn gweithwyr sy'n cefnogi gweithgareddau gwaith cymdeithasol yn uniongyrchol.
Gofynion sefydlu
Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i greu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.