CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheolwr gofal cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc)

Registration required

Cofrestrwch yma

I gofrestru fel Rheolwr gofal cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc)

  • Opsiwn 1

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    • City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

  • Opsiwn 2

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

    a

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer cwbhau yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 3

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Opsiwn 4

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

    a

    Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 5

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 6

    • Gradd mewn gwaith cymdeithasol

    neu

    • Gradd mewn gwaith cymdeithasol

    neu

    Gradd Nyrsio

    a

    • Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol Cymdeithasol (adnabyddir hefyd fel Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm (TMDP))

  • Opsiwn 7

    • Gradd mewn gwaith cymdeithasol

    neu

    • Gradd mewn Therapi Galwedigaethol

    neu

    Gradd Nyrsio

    a

    Cymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:

    • yn o leiaf lefel 3
    • ganddo o leiaf 37 credyd
    • wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol a bod y person cofrestredig mewn rôl iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.

    Mae’r rheolwyr sy’n dal un o’r graddau a rhestrwyd ond dim un o’r cymwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau'r cymhwyster perthnasol yn ei gyfnod cofrestru tair mlynedd.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

  • Cymwysterau eraill a dderbynnir a fydd yn cael eu derbyn ar gyfer y swydd hon, os nad oes gennych y cymwysterau Cymraeg presennol:

    • Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon

    • NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal

    • NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)

    • NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

    • NVQ 4 mewn Gofal

    • Diploma mewn Rheoli Gofal Cartref

    Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 neu uwch arall ar gyfer gweithwyr gofal cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc).

    neu  Tystysgrif Prifysgol De Cymru Camu Ymlaen i Reoli (Gofal Cymdeithasol Cymru) ac wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

    Neu i’r rheini sydd wedi cofrestru cyn 2013:

    Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru

Gofynion eraill

Os bydd rheolwyr gofal cartref yn gweithio gydag oedolion a phlant, mae’n ddyletswydd ar y cyflogwyr i wneud yn siŵr bod y rheolwr wedi cyflawni'r unedau priodol o fewn y cymwysterau yng nghyswllt oedolion a phlant, a bod ganddo’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl.

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”. Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Qualifications gained outside of Wales

Mae angen cymwysterau gofynnol i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol. Lle nad oes gennych un o'r rhain ond bod gennych gymhwyster arall sy'n bodloni meini prawf hanfodol y cytunwyd arnynt, gellir defnyddio cwblhau'r Fframwaith Sefydlu fel elfen atodol os ydych am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai:

  • am y tro cyntaf neu;
  • symud i ran wahanol o'r Gofrestr.

Os hoffech ddefnyddio'r llwybr hwn i gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno cais i'r tîm cofrestru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, dylech gwblhau'r Fframwaith Sefydlu o fewn 12 mis cyntaf eich cofrestriad, a rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn fel rhan o adnewyddu eich cofrestriad.

Os rydych wedi cofrestru gyda ni yn barod ac eisiau symud i ran arall o’r Gofrestr, does dim angen anfon cais newydd. Dylech chi anfon e-bost at cofrestwyr@gofalcymdeithasol.cymru i ofyn i newid eich cofrestriad.

Gofynion sefydlu

Mae’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol yn cynnwys lled y cyfrifoldeb ar gyfer arwain a rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol ac yn darparu strwythur ar gyfer sefydlu ar draws Cymru.

Mae gan gyflogwyr cyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod eu rheolwyr newydd yn derbyn sefydlu addas gan ddefnyddio’r fframwaith yma. Gall rheolwyr fod yn newydd i’r rôl, sefydliad neu’r sector.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.

Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am DPP.