Gweithiwr cymdeithasol wrth ei waith a benodir i uwch swydd benodedig ym maes gwaith cymdeithasol. Mae’n bosibl y bydd gweithwyr cymdeithasol mewn rolau uwch yn ymgymryd ag ymarfer cymhleth a gwaith goruchwylio, cefnogi ac asesu, ymchwil a datblygu’r gwasanaeth.
Registration required
Cofrestrwch ymaGofynion eraill
Os bydd gweithiwr cymdeithasol wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016, bydd angen iddo gwblhau'r Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol sydd Newydd Gymhwyso i adnewyddu ei gofrestriad proffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Gofynion sefydlu
Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Mae’n rhaid i weithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016 gwblhau'r Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol sydd Newydd Gymhwyso fel rhan o'u tair blynedd gyntaf o ymarfer gwaith cymdeithasol.
Disgwylir hefyd i bob gweithiwr cymdeithasol newydd gael copi o'r ddogfen Y Gweithiwr Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)
Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.