CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cymwysterau gwaith cymdeithasol

Y radd mewn gwaith cymdeithasol yw'r cymhwyster proffesiynol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru a ledled y DU. Mae'r teitl gweithiwr cymdeithasol wedi'i ddiogelu. Dim ond pobl sydd â chymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol all ymarfer fel gweithwyr cymdeithasol. Disgwylir i weithwyr cymdeithasol gynyddu eu gwybodaeth a'u sgiliau ar ôl iddynt fod yn gymwys.

Diffiniad o weithiwr cymdeithasol

Dyma'r diffiniad cenedlaethol cyntaf y cytunwyd arno o rôl gweithiwr cymdeithasol. Cafodd hwn ei greu yn dilyn ymgynghoriad helaeth ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys WLGA, BASW Cymru ac ADSS Cymru a chytunwyd yn unfrydol fel diffiniad swyddogol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

Mae gwaith cymdeithasol yn broffesiwn sy’n cefnogi, yn awdurdodi a diogelu’r oedolion a phlant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas

Mae gweithwyr cymdeithasol yn amddiffyn hawliau dynol pobl sydd, am resymau gwahanol, angen help i siarad drostynt eu hunain. Mae ganddynt ystod o wybodaeth a sgiliau cyfreithiol, academaidd ac ynglŷn â gwaith cymdeithasol. Mae’r teitl ‘gweithiwr cymdeithasol’ wedi’i ddiogelu a dydych chi ddim yn cael ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol heb i chi gymhwyso a chofrestru.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn sefydlu perthnasoedd drwy weithio gyda phobl i’w helpu i nodi eu cryfderau, anghenion a chanlyniadau llesiant. Maen nhw’n cefnogi pobl i gydbwyso eu hawliau a’u cyfrifoldebau iddynt gael gafael ar gymorth a chefnogaeth yn ôl yr angen. Mae ganddyn nhw hefyd ddyletswyddau diogelu statudol, lle bo angen.

Mae’r proffesiwn yn rhoi’r cyfle i chi weithio gydag ystod eang o’r boblogaeth ac i’w cefnogi nhw ar eu hamseroedd mwyaf anodd ac agored i niwed. Mae disgwyl i weithwyr cymdeithasol lywio llwybr anodd ar adegau drwy feithrin ymddiriedaeth a chyfathrebu oddi fewn i berthnasoedd teuluoedd a chymunedol cymhleth. Mae’n yrfa werth chweil ac yn rhoi’r cyfle i chi weithio am newid cymdeithasol a chyfranogiad ystyrlon mewn gwneud penderfyniadau i wella lles pobl.

Cyfranogiad unigryw gwaith cymdeithasol

Dyma ddiffiniad o waith cymdeithasol o wefan Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol.

'Gwaith cymdeithasol yw’r proffesiwn sy'n tyfu cyflymaf yn y byd wrth i fwy o lywodraethau a chyflogwyr gydnabod yr effaith bwerus mae gweithwyr cymdeithasol yn ei chael mewn cymunedau. Cyfraddau troseddu is, canlyniadau iechyd gwell, a mwy o bobl yn cael mynediad i waith ac addysg ymhlith - dyma rai o ganlyniadau i weithwyr cymdeithasol proffesiynol gefnogi pobl i fod yn gyfrifol am eu dyfodol a gwireddu eu dyheadau.
Fel proffesiwn sy'n seiliedig ar hawliau dynol, mae gan waith cymdeithasol rôl hanfodol ym mhob cymdeithas i hwyluso cymunedau a phoblogaethau i godi eu lleisiau a sefyll ar gyfer eu cydraddoldeb ochr-yn-ochr â phawb arall. Mae cryfder y proffesiwn gwaith cymdeithasol yn ei allu i adeiladu democratiaeth gyfranogol, ymgysylltiad cymunedau yn eu dyfodol cynaliadwy, ac amddiffyn hawliau dynol.'

Mae newidiadau i ddeddfwriaeth yng Nghymru yn gofyn am ddull mwy cydweithiol o weithio ochr-yn-ochr â phobl i ddiwallu eu hanghenion canlyniadau personol. Mae’r dull yma’n datblygu gweithlu sy’ ddim yn dibynnu ar fodel gwasanaethau yn unig ond yn defnyddio ei wybodaeth a sgiliau, gyda chefnogaeth ymchwil a thystiolaeth gwaith achos i gefnogi unigolion.

Mae Cymru Iachach, Deddf Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i gyd yn gofyn am ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau pobl, yn canolbwyntio arnynt fel pobl ac yn ffocysu ar eu canlyniadau. Mae’r rhain i gyd ar sail gweithio ar y cyd i hyrwyddo llais a rheolaeth.

Mae’r ddeddfwriaeth wedi symud y pwyslais i ataliaeth, ymyrraeth gynnar a chanolbwyntio ar y gymuned. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl neu gymunedau i ddefnyddio dull holl sustemau ar sail cryfderau pobl.

Mae gwaith cymdeithasol yn diogelu pobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol, mewn risg o gam-drin neu esgeulustod, neu sy’n agored i newid am resymau eraill. Rhaid i waith cymdeithasol gydbwyso’r rolau cefnogi a diogelu’n ofalus. Rhaid i’r rhain gyd-fynd ag anghenion ac amgylchiadau’r person neu’r teulu.

Rydym yn broffesiwn cydweithiol, sy’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i helpu plant, oedolion a theuluoedd wella ac ennill rheolaeth dros eu bywydau ar adegau pryd mae eu diogelwch neu allu i gymryd rhan yn eu cymunedau yn cael ei gyfyngu.

Fel gweithwyr cymdeithasol, mae disgwyl i chi:

  • weithio yn arbenigwr ac adnodd i’r wladwriaeth
  • gweithio i alluogi pobl, i hyrwyddo eu hurddas a’u hawliau dynol
  • ymarfer mewn ffordd wrth-ragfarnllyd drwy’r amser
  • bod â’r ddyletswydd a’r pŵer i asesu a diogelu pobl mewn risg
  • bod y person a enwir gyda chyfrifoldeb statudol am reoli baich achos o unigolion a theuluoedd
  • gweithio fel eiriolwr i bobl agored i niwed a phlant (fel sy’n cael ei ddatgan ym mhwynt 32 o’r Côd Ymarfer)
  • hyrwyddo gofal a chymorth gan weithwyr proffesiynol eraill, fel bod pobl yn cael y cymorth priodol ar yr amser priodol
  • gweithio o fewn fframwaith deddfwriaeth Cymru
  • mabwysiadu unrhyw dechnoleg newydd sy’n ein helpu ni i ddiwallu anghenion ein cleientiaid.

Yn derfynol, nod pob gweithiwr cymdeithasol yw galluogi pobl i wneud newidiadau positif a pharhaus yn eu bywydau, i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial, ac i wneud cyfraniad positif i gymdeithas.

Mae gweithiwr cymdeithasol eisiau:

  • gwneud gwahaniaeth
  • gwella pethau i bobl
  • cefnogi pobl i ddiffinio sut mae ‘gwella’ yn edrych iddyn nhw a'u cefnogi i sicrhau newid cadarnhaol
  • gweithio gyda phobl i gadw eu hunain yn ddiogel cyn belled ag y bo modd, gan sicrhau hefyd bod y ddyletswydd statudol o ddiogelu yn cael ei chyflawni pan fo angen
  • cefnogi pobl i liniaru'r heriau y maent wedi'u profi yn eu bywydau, yn aml heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, fel y gallant geisio byw mor annibynnol a chyflawn â phosibl
  • trio lleihau anghydraddoldeb sy’n bodoli, fel bod pobl yn cael y gora o’i fywydau
  • trio rhoi ffydd a chyfleoedd i bobl!

Addysg gymhwyso gwaith cymdeithasol

Mae gweithwyr cymdeithasol yn hybu llesiant ac yn gwella canlyniadau i bobl. Maen nhw'n canolbwyntio ar yr hyn sydd o bwys i'r bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth.

Mae ar weithwyr cymdeithasol angen:

  • sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • cadernid
  • gwybodaeth am y gyfraith a pholisi
  • gwybodaeth am theori gwaith cymdeithasol.

Er mwyn cymhwyso'n weithiwr cymdeithasol yng Nghymru mae'n rhaid i chi gwblhau cwrs a gymeradwyir gennym ni.

Mae'r cymhwyster gwaith cymdeithasol yn cynnwys yr un faint o ddysgu academaidd ac ymarferol. Gallwch astudio ar ei gyfer ar lefelau graddedig neu ôl-raddedig. Mae prifysgolion yn rhedeg rhaglenni mewn partneriaeth gyda gwasanaethau gwaith cymdeithasol awdurdodau lleol.

Prifysgolion yng Nghymru sy'n cynnig y radd israddedig

Prifysgolion yng Nghymru sy'n cynnig y radd Meistr

Am gymorth ariannu gweler y bwrsariaethau rydyn ni'n eu cynnig a chymorth ariannol arall sydd ar gael.

Gweithlu gwaith cymdeithasol sy'n addas ar gyfer y dyfodol: adroddiad newydd

Mae’r nifer o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol wedi bod yn gostwng yng Nghymru ers 2016.

Rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad newydd gyda’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Oxford Brookes sy’n edrych ar y sefyllfa ar hyn o bryd a beth sydd angen i ni ei wneud i sicrhau bod gennym ni ddigon o weithwyr cymdeithasol yn y dyfodol.

Dysgwch fwy am yr adroddiad, ei argymhellion a beth rydyn ni’n mynd i’w wneud.

Y Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso

Mae hon ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yn eu rôl gyntaf ym maes gwaith cymdeithasol ar ôl cymhwyso.

Os gwnaethoch chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016 bydd angen i chi gwblhau'r Rhaglen hon i adnewyddu eich cofrestriad proffesiynol.

Caiff y rhaglen ei darparu gan y canlynol:

  • Porth Agored mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae gofynion y rhaglen ar gael ar dudalen rheoleiddio hyfforddiant gwaith cymdeithasol.

Y tair blynedd cyntaf o ymarfer

Mae ar weithwyr cymdeithasol angen set o sgiliau sy'n seiliedig ar wybodaeth, gwerthoedd a phriodoleddau personol. Ni ellir datblygu'r rhain yn llawn trwy gwrs cymhwyso yn unig ac mae angen datblygiad proffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol wrth iddynt ddod yn ymarferwyr profiadol.

Rydym wedi gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddatblygu canllawiau i helpu gyda datblygiad gweithwyr cymdeithasol ar ôl iddynt gymhwyso. Mae hyn yn dwyn ynghyd yr hyn y disgwylir i weithwyr cymdeithasol a'u cyflogwyr ei wneud.

Mae tri cham i'r fframwaith tair blynedd cyntaf o ymarfer

  • Sefydlu mewn gwaith cymdeithasol proffesiynol.
  • Magu cymhwysedd a hyder.
  • Rhaglen Gadarnhau ac adnewyddu cofrestriad gyda ni.

Gyda hyfforddiant, cymorth ac ymarfer, mae gweithwyr cymdeithasol yn datblygu eu sgiliau mewn sefyllfaoedd mwyfwy cymhleth.

Fframwaith Dysgu ac Addysg Proffesiynol Parhaus (DAPP) ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol

Yn dilyn gwerthusiad ac adolygiad, daeth y rhaglenni Ymarfer Profiadol, Ymarfer Uwch a Gwaith Cymdeithasol Ymgynghorol i ben yn 2020.

Mae adroddiadau gwerthuso DAPP ar gael drwy e-bostio iwqueries@socialcare.wales

Mae’r fframwaith ôl-gymhwyso yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Rydyn ni’n ddiolchgar i’n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus i ddiffinio addysg ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

Nid yw’r Rhaglen Gadarnhau yn rhan o’r adolygiad yma ac nid oes newidiadau pellach wedi’u cynllunio ar gyfer y rhaglenni hyn.

Nid yw’r cyrsiau ôl-gymhwyso eraill sydd wedi’u rhestri isod yn rhan o’r adolygiad yma.

Cyrsiau ôl-gymhwyso eraill

Rydym hefyd yn cymeradwyo cyrsiau ôl-gymhwyso i gefnogi gweithwyr yn y rolau canlynol:

Proffesiynolyn Iechyd Meddwl Cymeradwy PIMC

Mae Proffesiynolion Iechyd Meddwl Cymeradwy yn cael eu hyfforddi i gymhwyso elfennau o gyfraith iechyd meddwl gydag ymarferwyr meddygol. Gallant fod yn weithwyr cymdeithasol a phroffesiynolion eraill gan gynnwys nyrsys seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a seicolegwyr. Caiff y rhaglen ei darparu gan Prifysgol Abertawe.

Dysgu ymarfer ac asesu myfyrwyr gwaith cymdeithasol

Mae cefnogi ac asesu ymarfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn hanfodol. Mae'n helpu i benderfynu a oes ganddynt y sgiliau a'r wybodaeth i ddod yn weithiwr cymdeithasol.

Caiff y rhaglen ei darparu gan:

  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol De Cymru
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Datblygu'r Rheolwr Tîm

Mae'r Rhaglen Ddatblygu Rheolwr Tîm yn cefnogi cyflwyno ymarfer gwaith cymdeithasol rhagorol trwy alluogi rheolwyr rheng flaen i wella ansawdd ymarfer, rheoli eu tîm yn effeithiol a delio â newid yn llwyddiannus. Caiff y rhaglen ei darparu gan Y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen.

Datblygu'r Rheolwr Canol

Mae'r Rhaglen Datblygu'r Rheolwr Canol yn darparu hyfforddiant arweinyddiaeth ar gyfer rheolwyr canol gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae'r rhaglen hon yn cefnogi rheolwyr i ymateb i ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Caiff y rhaglen ei darparu gan Y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Mawrth 2017
Diweddariad olaf: 14 Mehefin 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (46.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch