Gweithiwr cymdeithasol sydd â chyfrifoldebau penodol dros sicrhau bod plant unigol yn cael y gwasanaethau gofal a chymorth sydd eu hangen arnynt yw Swyddog adolygu annibynnol. Mae ei ddyletswyddau penodol yn cynnwys cyfrannu at adolygu cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau lleoli a monitro pa mor effeithiol yw'r cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno o ran bodloni canlyniadau llesiant y plentyn yn ogystal a chymryd camau i sicrhau bod y cynlluniau’n cael eu diwygio neu eu hadnewyddu pan fo angen newid. Mae gan y swyddog adolygu annibynnol gyfrifoldebau penodol o ran sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, a’u bod yn cael help i gymryd rhan.
Registration required
Cofrestrwch ymaGofynion sefydlu
Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Mae’n rhaid i weithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016 gwblhau'r Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol sydd Newydd Gymhwyso fel rhan o'u tair blynedd gyntaf o ymarfer gwaith cymdeithasol.
Disgwylir hefyd i bob gweithiwr cymdeithasol newydd gael copi o'r ddogfen Y Gweithiwr Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)
Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.