Hierarchaeth grwpiau ymarferwyr safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol.
Bydd unrhyw hyfforddiant, dysgu a datblygu a wneir mewn grŵp uwch yn golygu nad oes angen adnewyddu hyfforddiant, dysgu a datblygu yn y grwpiau oddi tano.
Grŵp F (arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus)
Angen cwblhau grŵp A – hyfforddiant, dysgu a datblygu ymwybyddiaeth sylfaenol a phwrpasol perthnasol, megis rhianta corfforaethol, ond gellir galw arnynt i drafod materion/problemau yn grwpiau A i E.
Grŵp E (arweinydd sector / ymgynghoriaeth)
- Arweinwyr strategol
- Penderfynwyr
Grŵp D (arbenigwr)
- Rolau sydd â chyfrifoldebau diogelu plant a/neu oedolion penodol, fel arweinwyr diogelu a gweithwyr proffesiynol a enwir.
Grŵp C (lefel uwch)
- Ymarferwyr cofrestredig neu reoleiddiedig gyda rôl asesu, cynllunio, ymyrryd a gwerthuso. Bydd ganddynt rôl cynllunio diogelu glir (mynychu grŵp craidd, cynhadledd achos, cyfarfod strategaeth) a swyddogaeth statudol.
Bydd y trydydd sector yn sicrhau bod rolau anstatudol perthnasol yn cael hyfforddiant ar y lefel hon hefyd.
Grŵp B (canolradd)
- Pob ymarferydd sy'n cael cysylltiad rheolaidd ag oedolion, plant ac aelodau'r cyhoedd yn eu rôl. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr cofrestredig neu anghofrestredig neu reoleiddiedig neu anrheoleiddiedig a gwirfoddolwyr.
Grŵp A (ymwybyddiaeth sylfaenol)
- Pob aelod o staff sy'n gweithio ym maes: gofal cymdeithasol, gofal iechyd, adrannau awdurdodau lleol, addysg, y blynyddoedd cynnar, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol (gwirfoddolwyr â thâl neu ddi-dâl) a chontractwyr annibynnol (gwasanaethau wedi'u comisiynu).
Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 2 Hydref 2023
Diweddarwyd y gyfres: 2 Hydref 2023
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch