CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol

- | Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Hoffwn ni gael eich barn ar ein canllawiau drafft i weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol.

Rydyn ni’n cyhoeddi’r canllawiau hyn oherwydd nodwyd cyfryngau cymdeithasol fel maes y mae angen mwy o ganllawiau yn ei gylch yn ystod ein hymgynghoriadau diweddar.

Mae’r canllawiau drafft yn edrych ar:

  • beth rydyn ni’n meddwl wrth y term cyfryngau cymdeithasol
  • y rhannau o’r Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol sy’n berthnasol i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn briodol
  • awgrymiadau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol a chydymffurfio â safonau proffesiynol.

Sut alla i gymryd rhan?

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, lawrlwythwch y ddogfen ymgynghoriad isod a chwblhewch ein harolwg byr ar-lein.