CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Mae cofrestru yn newid
Ymgynghoriad

Mae cofrestru yn newid

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar hyn o bryd mae gennym ni tua 18,000 o weithwyr ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol.

Mae gweithwyr gofal cartref bellach yn cofrestru gyda ni a bydd yn orfodol iddyn nhw gofrestru o 2020.

Bydd gweithwyr cartref gofal i oedolion a gweithwyr cymorth canolfannau preswyl i deuluoedd yn gallu cofrestru o 2020 a bydd yn orfodol iddyn nhw gofrestru o 2022.

I gefnogi’r estyniad parhaus hwn o’r Gofrestr, rydyn ni’n ceisio’ch barn am ein cynigion ar gyfer:

  • y gofynion y bydd angen i weithwyr gofal cartref i oedolion a gweithwyr cymorth canolfannau preswyl i deuluoedd eu bodloni i gofrestru gyda ni
  • y safonau y disgwylir i’r gweithwyr hynny weithio iddynt, gan gynnwys y canllawiau ymarfer drafft ar gyfer gweithwyr gofal cartref i oedolion.

Hefyd, rydyn ni’n ceisio’ch adborth am nifer o newidiadau yr ydym wedi’u cynnig i’n system bresennol o gofrestru. Sef:

  • galluogi gweithwyr gofal preswyl i blant i gofrestru’n gychwynnol gan ddefnyddio Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn gwneud y dyfarniad yn llwybr cyson at gofrestru ar gyfer yr holl weithwyr gofal cymdeithasol
  • newid y ffordd yr ydym yn caniatáu cofrestru yn flynyddoedd dau a thri i atal peidio â thalu ffioedd cofrestru
  • mabwysiadu ffordd fwy hyblyg o gydnabod gweithiwr gofal cymdeithasol fel rheolwr mewn gwasanaethau sydd heb reolwr am resymau dilys.

Yn ogystal, rydyn ni wedi cyflwyno rhai syniadau cychwynnol i symleiddio’r categorïau o weithwyr sydd ar y Gofrestr a byddwn ni’n croesawu’ch safbwyntiau ar y rhain.

Mae’r ymgynghoriad ar agor am wyth wythnos a bydd yn cau am 5pm ar ddydd Gwener, 20 Rhagfyr 2019.

Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori a chwblhewch ein harolwg byr ar-lein. Gallwch ateb y cwestiynau i gyd neu’r rhai sydd bwysicaf i chi’n unig.

Gallwch hefyd e-bostio’ch ymateb i ymgynghoriadau@gofalcymdeithasol.cymru.