CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ein hamcanion cydraddoldeb drafft ar gyfer 2022 i 2027
Ymgynghoriad

Ein hamcanion cydraddoldeb drafft ar gyfer 2022 i 2027

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Hoffem gael eich safbwyntiau a’ch syniadau chi am ein hamcanion cydraddoldeb drafft i’n helpu i ddatblygu ein Cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2022 i 2027.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o’n hymrwymiad i ddod yn sefydliad sy’n mynd ati’n weithredol i wella bywydau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig drwy:

  • fynd i’r afael â gwahaniaethu
  • hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • creu cymdeithas fwy cynhwysol.

Rydym yn cydnabod ein rôl i fod yn arweinydd yn y meysydd hyn mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, a chydweithio ag eraill yn y sector i greu newid gwirioneddol ac ystyrlon.

Nawr, rydym yn gofyn i chi ein helpu i wneud yn siŵr eu bod yn ein rhoi ar y trywydd iawn. A ydym yn canolbwyntio ar y pethau cywir? A ydym yn bod yn ddigon mentrus? Beth fydd canlyniadau ein gwaith?

Mae’r ymgyngoriad ar agor am 10 wythnos ac yn cau am 5pm, 13 Medi 2021.

Sut i ymateb

Os hoffech ddweud eich dweud am ein hamcanion cydraddoldeb arfaethedig, gallwch wneud hynny drwy: