CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cynllun Strategaeth Gofal Cymdeithasol Cymru 2017 - 2022
Ymgynghoriad

Cynllun Strategaeth Gofal Cymdeithasol Cymru 2017 - 2022

- | Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Diweddariad i'r ymgynghoriad

    Ym mis Medi 2017, cyhoeddwyd gynllun strategol drafft Gofal Cymdeithasol Cymru 2017-2022 ar gyfer ymgynghori. Mae ein cynllun strategol yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf; yr hyn y bwriadwn ei gyflawni, beth fydd ein ffocws a sut y byddwn yn gweithio gyda chi i wireddu ein huchelgais.

    Roedd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, a benodwyd yn ddiweddar, yn awyddus i gael adborth ar ei gynllun strategol pum mlynedd cyntaf. Cytunodd y Bwrdd y byddai cymaint o adborth â phosibl yn cael ei gasglu i lywio cynnwys y cynllun strategol terfynol cyn ei lansio.

    Roedd yr ymgynghoriad yn agored am saith wythnos o 23 Mehefin 2017 tan 11 Awst 2017, gyda 12 o sefydliadau ac unigolion yn ymateb yn ffurfiol.

    Mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o'r ymatebion a manylion sut yr ydym wedi addasu ein cynigion yng ngoleuni'r adborth a gawsom.

Mae Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru sydd newydd ei sefydlu yn awyddus i gael adborth ar ei gynllun strategol pum mlynedd cyntaf, y mae’n bwriadu ei lansio ddiwedd Medi.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2017, yn gyfrifol am reoleiddio a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol a gwella gwasanaethau.

Yn ei ail gyfarfod, cytunodd y Bwrdd y dylai cymaint o adborth â phosibl gael ei gasglu yn ystod yr haf, i ddylanwadu ar gynnwys y cynllun strategol terfynol cyn ei lansio yn yr hydref.

Mae’r cynllun arfaethedig yn nodi gweledigaeth Gofal Cymdeithasol Cymru am y pum mlynedd nesaf, yr hyn y mae’n bwriadu ei gyflawni, y prif feysydd y bydd yn canolbwyntio arnynt a sut bydd y sefydliad yn gweithio gydag eraill i wireddu ei uchelgais.

Mae’r cynllun strategol yn dangos mai’r prif flaenoriaethau ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru fydd datblygu’r gweithlu; ysgogi gwelliant a darparu hyder i’r cyhoedd.