CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ein projectau data

Rydyn ni ynghlwm â nifer o brojectau sy'n ymwneud â data gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dysgu mwy am y gweithlu data yng ngwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol

Fe wnaethom ni gomisiynu ymchwil i ddarganfod mwy am y bobl sy'n gweithio gyda data yng ngwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

Yr hyn roeddem ni'n awyddus i'w ddarganfod

Roeddem ni am ddysgu mwy am y bobl sy’n gweithio ym maes data yn y gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol.

Roedden ni eisiau gwybod:

  • sut mae pobl yn dod i weithio mewn rolau data gofal cymdeithasol
  • sut maent yn ennill sgiliau
  • pa gyfleoedd sydd ganddynt ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a dilyniant gyrfa
  • a fyddai'n ddefnyddiol cael cynllun datblygiad proffesiynol i helpu i wella sgiliau pobl.

Beth wnaethom ni

Ar ddechrau 2022, fe wnaethom ni gomisiynu Social Finance, cwmni ymgynghori dielw, i gynnal ymchwil i ddarganfod mwy am y bobl sy’n gweithio ym maes data yng ngwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

Daeth yr ymchwil â mwy nag 80 o bobl ynghyd o awdurdodau lleol, gofal iechyd, addysg uwch a sefydliadau llywodraeth ledled Cymru. Fe wnaethon nhw gymryd rhan mewn gweithdai, cyfweliadau ac arolwg.

Yr hyn a ddywedodd yr ymchwil wrthym

Canfu’r ymchwil dystiolaeth o amrywiaeth o sgiliau a galluoedd ar gyfer defnyddio data’n effeithiol a bod gan wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru lawer o’r un problemau â sgiliau data â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd y rhan fwyaf o ddadansoddwyr wrthym eu bod wedi dysgu eu sgiliau ‘yn y swydd’ oherwydd gall cyfleoedd hyfforddi ar gyfer dadansoddwyr data fod yn ddrud.

Canfuom hefyd nad yw rheolwyr timau data bob amser yn gwybod pa gyrsiau y dylent anfon eu staff arnynt, ac yn aml, mae cyrsiau hyfforddi mewnol yn ymdrin â phynciau fel llywodraethu data yn unig.

Dywedodd yr ymchwil wrthym hefyd fod y dadansoddwyr data angen sgiliau data technegol a gwybodaeth dda am ofal cymdeithasol i fod mor llwyddiannus â phosibl. Gall fod yn anodd cael y wybodaeth hon heb lawer o brofiad yn y swydd.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud o ganlyniad i’r ymchwil

Mae gan yr adroddiad argymhellion a allai gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes data ym maes gofal cymdeithasol.

Mae’r argymhellion yn cynnwys:

  • cyflwyno cyfres o brosiectau ar raddfa fach, megis creu llyfrgell adnoddau hyfforddi
  • swydd ddisgrifiadau torfol i weld a yw hyn yn helpu'r gweithlu i ddatblygu
  • dod â dadansoddwyr data ynghyd mewn cymuned ar-lein
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu eu teithiau data.

Gweld copi o’r adroddiad llawn