CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Atebion i gwestiynau am yr arolwg peilot gweithlu gofal cymdeithasol, 2023

Beth yw pwrpas yr arolwg hwn?

Gyda’r arolwg hwn, rydym yn gobeithio cael atebion a fydd yn ein helpu i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch a chodi materion pwysig sydd o bwys i chi gyda llunwyr polisi Llywodraeth Cymru. Dyna pan rydyn ni’n gofyn cwestiynau am eich iechyd a’ch lles, cyflog ac amodau, hyfforddiant, cymhwysterau a sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.

Arolwg peilot yw hwn i brofi a ddylai ddod yn arolwg blynyddol. Byddwn yn gwneud y penderfyniad hwnnw mewn ymgynghoriad â’r sector unwaith y bydd y canlyniadau wedi’u cyhoeddi.

Pwy sy’n cynnal yr arolwg?

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar ein rhan gan Opinion Research Services (ORS), asiantaeth ymchwil gymdeithasol annibynnol yn Abertawe. Mae’r arolwg, a’r hyn y mae’n bwriadu ei gyflawni, yn cael ei gefnogi gan bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Fforwm Gwaith Teg, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru. Gallwch ddarganfod mwy am ORS yma.

Mae ORS yn glynu'n gaeth at God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad (Market Research Society-MRS). Gallwch gysylltu â’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad ar 0800 975 9596.

Pam ydw i wedi cael fy newis i gymryd rhan?

Ar ôl gwahodd sampl cynrychioliadol i gyflawni'r arolwg ym mis Mawrth, rydyn ni nawr yn gofyn i bawb ar y gofrestr i gymryd rhan.

Pam mae fy marn yn bwysig?

Mae arnom angen pobl o bob oedran a chefndir i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Bydd eich barn yn bwysig o ran rhoi darlun gwirioneddol gynrychioliadol inni o sut beth yw pethau i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru heddiw.

Pwy sy’n gweld fy nata?

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil ac ystadegol yn unig. Cedwir eich manylion cyswllt ar wahân i'ch atebion ac ni fyddant yn cael eu trosglwyddo i unrhyw un y tu allan i ORS.

Bydd eich atebion yn cael eu cyfuno â rhai gan eraill a gymerodd ran yn yr arolwg. Byddwn yn derbyn y canlyniadau a'r dadansoddiad cyffredinol gan ORS, a fydd yn y pen draw yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad. Ni fydd hyn yn cynnwys eich enw na’ch manylion cyswllt, ac ni fydd modd adnabod unrhyw unigolyn o’r canlyniadau.

Ni fyddwch yn derbyn unrhyw ‘bost sothach’ o ganlyniad i gymryd rhan.

A yw fy nata yn ddiogel?

Bydd, bydd eich data yn ddiogel.

Bydd ORS yn gyfrifol am gasglu, storio, defnyddio, rhannu a dileu eich gwybodaeth, yn unol â rheoliadau diogelu data cyfredol.

Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol rydych yn ei rannu yn yr arolwg. Mae hyn yn golygu y byddwn yn sicrhau bod ORS yn diogelu eich data a bod eich hawliau data yn cael eu rhoi yn gyntaf.

Bydd ORS ond yn rhannu data dienw gyda ni. Ni fydd unrhyw un sy'n darllen y canlyniadau yn gallu eich adnabod chi na phwy rydych chi'n gweithio iddo.

Rydym wedi rhannu eich cyfeiriad e-bost a gwybodaeth bersonol berthnasol (fel oedran a rhyw) gydag ORS fel y gallant gynnal yr arolwg a dadansoddi'r canlyniadau. Ni all ORS ddefnyddio'r wybodaeth ar gyfer unrhyw beth arall.

Caniateir i ni rannu eich gwybodaeth bersonol ag ORS gan ei fod yn ein galluogi i gynnal yr ymchwil sydd ei angen arnom i gyflawni ein rhwymedigaeth gyfreithiol i gefnogi gwelliant mewn gofal cymdeithasol.

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn rheoli data personol, gan gynnwys eich hawliau a sut i'w harfer. Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd yma, ac mae hysbysiad preifatrwydd ORS ar gael yma.

Bydd ORS yn cadw’n ddiogel unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl cwblhau’r prosiect hwn, yn haf 2023. Byddant yn dileu eich gwybodaeth pan fyddant wedi gorffen dadansoddi’r data a pharatoi canlyniadau’r arolwg ar ein cyfer.

Sut bydd y wybodaeth yn cael ei ddefnyddio?

Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i’n helpu i benderfynu ar y ffordd orau i ni eich cefnogi yn eich gwaith a nodi materion y gallai fod angen i ni eu codi gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol eraill. Bydd y prif ganfyddiadau a dadansoddiad yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad a fydd ar gael ar ein gwefan.

Beth os nad ydw i’n defnyddio’r rhyngrwyd?

Os hoffech gymryd rhan, ond yn methu â chwblhau’r arolwg ar-lein, gallwch gysylltu ag ORS ar eu rhif Rhadffôn 0800 324 7005 neu drwy e-bost ar HaveYourSaySurvey@ors.org.uk.

Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae cwblhau'r arolwg hwn yn wirfoddol.

Efallai y byddwch yn teimlo bod rhai o’r cwestiynau hyn yn sensitif ac nid oes yn rhaid i chi eu hateb os yw’n well gennych beidio. Fodd bynnag, po fwyaf cyflawn yw'r wybodaeth a gasglwn, y mwyaf defnyddiol yw hi pan fydd y canlyniadau'n cael eu dadansoddi.

Gallwch dynnu’n ôl o’r arolwg unrhyw bryd drwy gysylltu â ORS ar HaveYourSaySurvey@ors.org.uk a gofyn iddynt dynnu eich atebion o’r dadansoddiad.

Pryd mae'r dyddiad cau?

Mae gennych tan ddiwedd y dydd ar ddydd Iau 4 Mai i ymateb.

Beth os oes gennyf unrhyw gwestiynau am yr arolwg?

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr arolwg, e-bostiwch Catherine Wall yn ORS, HaveYourSaySurvey@ors.org.uk neu Rhadffôn 0800 324 7005, neu Emma Taylor-Collins yn Gofal Cymdeithasol Cymru, emma.taylor-collins@gofalcymdeithasol.cymru