CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymestyn dyddiad cau Gwobrau 2023 ar gyfer y categori ‘Cefnogi gofalwyr di-dâl’
Newyddion

Ymestyn dyddiad cau Gwobrau 2023 ar gyfer y categori ‘Cefnogi gofalwyr di-dâl’

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydy eich prosiect, tîm neu sefydliad yn cefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru? Os felly, beth am ymgeisio ar gyfer y Gwobrau 2023?

Rydyn ni’n ymestyn y dyddiad cau ar gyfer categori ‘Cefnogi gofalwyr di-dâl’ Gwobrau 2023 tan 5pm ddydd Mercher, 30 Tachwedd.

Ni waeth pa mor fawr neu fach yw eich menter, mae ein beirniaid yn awyddus i glywed gennych chi er mwyn i ni allu cydnabod, dathlu a rhannu’r cymorth wych sy’n cael eu darparu yng Nghymru.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gofal a chymorth yma yng Nghymru ac rydyn ni’n gwybod bod nifer o dimoedd, prosiectau a sefydliadau yn darparu cefnogaeth gwych iddyn nhw.

“Rydyn ni’n ymestyn y dyddiad cau ar gyfer y categori arbennig hwn oherwydd rydyn ni eisiau rhoi cyfle i bobl dynnu sylw at y mentrau maen nhw wedi’u defnyddio i gefnogi gofalwyr di-dâl – petai nhw’n gamau mawr neu fach – fel y gallwn ni rannu’r ymarfer da hynny mor eang â phosibl.

“Felly os ydych chi wedi cefnogi gofalwyr di-dâl yn effeithiol, ystyriwch rannu eich llwyddiant ag eraill trwy ymgeisio ar gyfer y Gwobrau 2023.”