CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu rheolwr gofal preswyl i blant o'r Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol
Newyddion

Tynnu rheolwr gofal preswyl i blant o'r Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae rheolwr gofal preswyl i blant o Sir y Fflint wedi cael ei dynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Clywodd y gwrandawiad fod Thomas Burgoyne, ym mis Medi 2016, wedi anfon negeseuon amhriodol lle mynegodd i berson arall ddiddordeb rhywiol mewn plant, gan ddefnyddio ap negeseua wrth weithio fel ymarferydd gofal mewn lleoliad gofal preswyl i blant.

Cafodd y negeseuon eu darganfod gan Heddlu Avon and Somerset yn ystod ymchwiliad troseddol i'r person yr oedd Mr Burgoyne wedi bod yn anfon negeseuon ato.

Yn ogystal, dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Mr Burgoyne, trwy fethu rhoi gwybod am y negeseuon fel pryder amddiffyn plant i'w gyflogwr neu'r tîm diogelu, yn rhoi plant mewn perygl o niwed.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i'r casgliad bod addasrwydd Mr Burgoyne i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Esboniodd y panel ei benderfyniad, gan ddweud: "Mae Mr Burgoyne wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac nid yw wedi cydnabod yr effaith bosibl o ran anfon y negeseuon na'i fethiant i adrodd am bryder diogelu.

Parhaodd y panel: "Rydym yn pryderu nad yw [Mr Burgoyne] wedi dangos unrhyw ddealltwriaeth o natur ddifrifol ei ymddygiad a chanlyniadau posibl ei weithredoedd."

Ychwanegodd y panel: "Mae [Mr Burgoyne] hefyd wedi methu dangos unrhyw fyfyrdod ynglŷn â'i ymddygiad, ac nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth i ddangos ei fod wedi cymryd camau i gywiro ei ymddygiad.

"Roedd ymddygiad Mr Burgoyne yn rhoi plant mewn perygl o niwed drwy fethu rhoi gwybod am ei sgwrs gyda [yr unigolyn]. Yn hyn o beth, rydym yn canfod ei fod yn peri risg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau."

Penderfynodd y panel i dynnu Mr Burgoyne o’r Gofrestr, gan ddweud: "Nid ydym yn ystyried bod unrhyw ffordd arall o ddiogelu'r cyhoedd rhag y risgiau y mae Mr Burgoyne yn eu cyflwyno oherwydd ei ddiffyg mewnwelediad, ei batrwm o wadu a'r rhagolygon cyfyngedig o adfer.

"Byddai'n rhaid i Mr Burgoyne gydnabod yr hyn a wnaeth o'i le cyn y gellid disgwyl iddo ei gywiro."

Nid oedd Mr Burgoyne yn bresennol yn y gwrandawiad tri diwrnod, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.