CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu rheolwr cartref gofal i oedolion oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu rheolwr cartref gofal i oedolion oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae rheolwr cartref gofal i oedolion o Fae Colwyn wedi'i thynnu oddi ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Clywodd y gwrandawiad, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf, fod Gaynor Brownson wedi methu ar sawl achlysur i amddiffyn preswylwyr y cartref gofal oedd dan ei rheolaeth, rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.

Hefyd, roedd Ms Brownson wedi methu hybu a chynnal llesiant a diogelwch y preswylwyr, yn enwedig o ran anghenion meddyginiaeth amrywiol y preswylwyr, a methu rhedeg y cartref gyda gofal, cymhwysedd a sgil digonol.

Ar ben hynny, methodd Ms Brownson â sicrhau bod gwybodaeth hynod sensitif a chyfrinachol am y preswylwyr yn cael ei storio'n ddiogel, gydag un bocs o wybodaeth sensitif yn cael ei gadw mewn toiled cymunedol sydd ar gael i staff, preswylwyr ac ymwelwyr.

Wrth ymddangos gerbron y panel, cyfaddefodd Ms Brownson yr holl gyhuddiadau, ac ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Ms Brownson i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel wrth Ms Brownson: “Dydyn ni ddim yn ymdrin ag un honiad sy'n codi o un digwyddiad yma. Yn hytrach, mae'r problemau a ganfuwyd gennym wedi digwydd dros gyfnod o amser ac yn ymwneud â daliadau sylfaenol ymarfer gofal cymdeithasol.”

Penderfynodd y panel dynnu Ms Brownson o'r Gofrestr, gan ddweud: “Gwelsom fod risg o niwed i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau yn parhau, a risg wirioneddol o ailadrodd y problemau y cyfaddefwyd iddynt ac a brofwyd gennym, pe baech yn dal i fod yn rheolwr cartref gofal i oedolion.”

Parhaodd y panel: “Mae tystiolaeth o niwed gwirioneddol i breswylwyr bregus yn y cartref. Roedd dyletswydd broffesiynol arnoch i ddiogelu eu hiechyd, eu diogelwch a'u lles. Roedd eich camymddygiad yn camddefnyddio ymddiriedaeth y preswylwyr bregus hynny.

“Bu gwyro difrifol oddi wrth y safonau perthnasol a nodir yn y Cod [Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol], a ddangosir gan natur eang ac amrywiol eich methiannau, a'ch diffyg dealltwriaeth (heb unrhyw dystiolaeth ei bod yn debygol y bydd gwaith adfer boddhaol).”