CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Gastell-nedd wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Rhoddwyd amodau ar gofrestriad Martin Wellington am 12 mis ym mis Ebrill 2021, ar ôl i banel ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd gwrandawiad undydd dros Zoom i adolygu cynnydd Mr Wellington, ac i benderfynu a oedd nam ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.

Dywedwyd wrth y panel nad oedd Mr Wellington wedi darparu tystiolaeth ei fod wedi cydymffurfio ag unrhyw un o’r amodau a osodwyd ar ei gofrestriad yn ystod y gwrandawiad ym mis Ebrill, fel cael mwy o hyfforddiant a gweithio o dan oruchwyliaeth. Dywedwch wrth y panel hefyd nad yw Mr Wellington bellach yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad fod addasrwydd i ymarfer Mr Wellington wedi amharu o hyd oherwydd ei gamymddygiad difrifol.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Roedd camymddygiad Mr Wellington yn ddifrifol ac nid yw’r risgiau sy’n deillio ohono wedi lleihau.

“Nid ydym yn dawel ein meddwl bod Mr Wellington wedi cymryd unrhyw gamau pellach i wella’r camymddygiad hwn ers dyddiad y gwrandawiad diwethaf. Nid oes gennym ni unrhyw dystiolaeth ei fod wedi cadw at yr addewidion a’r ymrwymiadau a wnaeth i’r panel blaenorol, sy’n ein harwain ni i gwestiynu ei uniondeb.

“Ni allwn fod yn hyderus na fydd ei gamymddygiad yn debygol iawn o ddigwydd eto. Felly, rydyn ni’n ystyried bod Mr Wellington yn parhau’n berygl i’r cyhoedd ac unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Wellington oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Rydyn ni’n ystyried mai hwn yw’r unig ddewis priodol gan ystyried diffyg ymgysylltiad Mr Wellington a’i fethiant i arddangos ei fod wedi cymryd y camau angenrheidiol i wella ei ymddygiad.

“Nid ydym o’r farn y byddai unrhyw ateb arall yn mynd i’r afael yn foddhaol â’r risgiau yn yr achos hwn neu y byddant yn methu mynd i’r afael â nhw’n ddigonol tan yn ddiweddarach.”

Nid oedd Mr Wellington yn bresennol yn y gwrandawiad adolygu undydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.