CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o’r Rhondda Cynon Taf wedi cael ei thynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad deuddydd bod Alisha Masters wedi mynd i gynulliad cymdeithasol ym mis Mai 2020 yn groes i’r rheoliadau coronafeirws yng Nghymru ar y pryd ac yna iddi ddweud celwydd amdano i’w rheolwr.

Bedwar mis yn ddiweddarach, ym mis Medi 2020, ffugiodd Ms Masters wrth ei rheolwr ei bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun a oedd wedi profi’n bositif am Covid-19, gan roi’r argraff bod angen iddi hunanynysu. Teithiodd i Sbaen ar wyliau wedyn a dweud celwydd i’w rheolwr am ble yr oedd hi.

Yn ymddangos o flaen y panel ar Zoom yr wythnos ddiwethaf, cyfaddefodd Ms Masters yr honiadau a dywedodd ei bod hi’n edifarhau ei gweithrediadau, gan ddweud ei fod “y camgymeriad mwyaf” roedd hi erioed wedi’i wneud.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod amhariad ar addasrwydd i ymarfer Ms Masters ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel wrth Ms Masters: “Rydych wedi cyfaddef torri’r rheoliadau oedd yn eu lle i atal ymlediad Covid-19 ar ddau achlysur. Ar yr ail achlysur, ceisioch guddio’r ffaith roeddech wedi teithio i Sbaen trwy greu cyfrifon ffug llafurus iawn.

“Cawsoch gyfleoedd i ddweud y gwir ond ni wnaethoch achub arnyn nhw. Gwnaethoch ‘balu twll dyfnach’ trwy ddweud celwydd arall i’ch cyflogwr. Fel rydych yn derbyn, gallai hyn fod wedi gwneud unigolion sy’n fregus o ran salwch difrifol yn agored i risg uwch o haint.

“Roedd hwn yn gamymddwyn ailadroddus yn hytrach na’n ddigwyddiad ‘untro’. Torroch y rheoliadau gan roi’r unigolion roeddech yn eu cefnogi mewn mwy o berygl ym mis Mai 2020, cawsoch eich rhybuddio am yr ymddygiad hwnnw ac yna torroch y rheoliadau mewn ffordd fwy soffistigedig ym mis Medi 2020. Ailadroddoch eich anonestrwydd a daeth yn fwy soffistigedig pan heriwyd eich cyfrif gwreiddiol.”

Aeth y panel yn ei flaen: “Ystyriom eich cyflwyniadau’n ofalus iawn, gan werthuso lefel eich mewnwelediad ac edifeirwch. Er i chi sôn am eich edifeirwch o ran eich gweithrediadau a’r sefyllfa well rydych yn eich cael eich hun ynddi nawr, ni allwn fod yn hyderus, pe baech mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol, na fyddech yn ymddwyn yn yr un ffordd. Felly, mae eich gonestrwydd dal dan amheuaeth.”

Penderfynodd y panel i dynnu Ms Masters o’r Gofrestr, gan ddweud: “Gorchymyn Gwahardd yw’r unig opsiwn o ystyried bod risg barhaus o niwed, eich bod wedi dangos anonestrwydd parhaus ac y torroch yn sylweddol y safonau a bennir yn y Côd [Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol].”