CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr cymdeithasol oddi ar y Gofrestr ar ôl adolygiad oherwydd ei hymddygiad ymosodol
Newyddion

Tynnu gweithiwr cymdeithasol oddi ar y Gofrestr ar ôl adolygiad oherwydd ei hymddygiad ymosodol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr cymdeithasol o Fanceinion, a oedd wedi’i chofrestru i weithio yng Nghymru, wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad adolygu Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd gweithred o ymddygiad ymosodol difrifol yn erbyn unigolion eraill.

Cafodd Emily Jo Brown ei hatal rhag gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru am wyth mis ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Chwefror 2021 ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad deuddydd fod Ms Brown wedi ymddwyn yn dreisgar y tu allan i'w gweithle tra dan ddylanwad alcohol.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd gwrandawiad undydd dros Zoom i adolygu cynnydd Ms Brown ac i benderfynu a oedd ei haddasrwydd i ymarfer dal wedi amharu ar hyn o bryd.

Gan ymddangos gerbron y panel, dangosodd Ms Brown elfen o ediferwch am ei gweithredoedd.

Ond ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel nad oedd Ms Brown wedi datblygu dealltwriaeth lawn o’i gweithredoedd ac nad oedd wedi rhoi mesurau ar waith i ddangos sut mae hi wedi gwella ei hymddygiad.

Felly, canfu’r panel fod addasrwydd i ymarfer Ms Brown wedi amharu ar hyn o bryd.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel wrth Ms Brown: “Penderfynodd y panel [blaenorol] bod modd gwella’ch ymddygiad sy’n amharu ar eich addasrwydd i ymarfer ond nad oeddech yn dirnad hyn, gan i chi ganolbwyntio ar effaith eich ymddygiad ar eich bywyd eich hun yn hytrach na chydnabod yr effaith ar y dioddefwyr.

“Daeth y panel i gasgliad nad oedd gennych ddealltwriaeth lawn o rôl Gofal Cymdeithasol Cymru a’ch cyfrifoldebau chi fel person cofrestredig. Yr adolygiad hwn oedd eich cyfle chi i ddangos beth sydd wedi newid ers hynny.”

Ychwanegodd y panel: “Daethom i’r casgliad eich bod wedi cael cyfle i fyfyrio a chyflwyno’n ddealladwy’r hyn roeddech chi wedi’i ddysgu [heddiw], ond nid ydych wedi gallu gwneud hynny.”

Wrth esbonio ymhellach, dywedodd y panel: “Penderfynom nad oeddech chi wedi gwneud digon i fynd i’r afael â’r pryderon a nodwyd gan y panel y tro diwethaf, a bod eich cyflwyniad wedi mynegi pryder ychwanegol ynghylch eich addasrwydd i ddychwelyd i’r gweithle.

“Nid ydym yn hyderus y byddech chi’n gallu atal eich hun rhag ymateb yn fyrbwyll dan bwysau yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel dynnu enw Ms Brown oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Mae’r risgiau a nodwyd ym mis Chwefror yn dal i fod yn bresennol ac mae eich cyflwyniad heddiw wedi amlygu ein pryder ynghylch eich addasrwydd i ddychwelyd i waith cymdeithasol.”

Ychwanegodd y panel: “Rydyn ni wedi dod i’r penderfyniad bod angen gosod Gorchymyn Tynnu i amddiffyn y cyhoedd ac, yn benodol, i gynnal hyder mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru.”