CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheolwr cartref gofal i oedolion yn cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr am ymddygiad amhriodol a bwlio
Newyddion

Rheolwr cartref gofal i oedolion yn cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr am ymddygiad amhriodol a bwlio

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae rheolwr cartref gofal i oedolion wedi ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol wedi i wrandawiad penderfynu bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn difrifol.

Ym mis Ionawr 2019, fe wnaeth aelodau staff mewn cartref gofal yng Nghaerdydd fynegi pryderon am ymddygiad Debra Lewis, a oedd wedi rheoli’r cartref i oedolion â dementia ers pedair blynedd a mwy.

Ystyriodd y gwrandawiad ddatganiadau gan saith o dystion, yn cynnwys chwe aelod staff a rheolwr mewn cartref arall a ymchwiliodd i’r honiadau, a ddisgrifiodd diwylliant o feio a bwlio yn y cartref.

Cyhuddwyd Ms Lewis o ymddwyn yn amhriodol ac mewn dull o fwlio tuag at aelodau staff, gyda mwy nag un tyst yn disgrifio digwyddiadau lle’r oedd Ms Lewis wedi siarad ag aelodau staff mewn ffordd digywilydd ac ymosodol, gan beri gofid iddynt.

Clywodd y gwrandawiad hefyd fod Ms Lewis wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at ddau o breswylwyr y cartref gan beri cryn ofid iddynt.

Mewn un digwyddiad, gwaeddodd ar breswylydd, gan ddweud wrthi ei bod am ei symud o’r cartref. Mewn digwyddiad arall, fe wnaeth ymddwyn yn amhriodol ac ymosodol tuag at breswylydd nad oedd am ddefnyddio’r lifft grisiau.

Rhoddodd Ms Lewis gyfarwyddiadau i gyfyngu’r ddarpariaeth neu’r dewis o fwyd ar gyfer preswylwyr, gan ddweud wrth aelodau staff i beidio â rhoi bisgedi iddynt gyda’u te ac i roi’r gorau i roi ffrwyth yn yr ystafell fwyta. Cafodd aelodau staff gyfarwyddyd hefyd i leihau maint y dognau bwyd a roddwyd i breswylwyr.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y panel fod addasrwydd i ymarfer Ms Lewis wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Gan egluro’r penderfyniad, dywedodd y panel: “Rydym ni wedi dod i’r casgliad bod Ms Lewis wedi ymddwyn mewn ffordd ymosodol a digyfaddawd tuag at staff a phreswylwyr, a’i bod wedi rheoli’r cartref gyda diwylliant nad oedd yn iach o gwbl.”

Ychwanegodd y panel: “Rydym ni wedi dod i’r casgliad fod Ms Lewis wedi torri egwyddorion sylfaenol gofal cymdeithasol drwy fethu â modelu ymddygiad gofalgar i’w haelodau staff a thrwy drin preswylwyr y cartref mewn ffordd a oedd ar brydiau yn peri loes iddynt neu mewn ffordd a oedd yn methu â pharchu eu hurddas.”

Penderfynodd y panel i dynnu Ms Lewis oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Rydym ni wedi penderfynu fod Gorchymyn Dileu yn angenrheidiol, yn briodol ac yn gymesur.

“Rydym ni wedi dod i’r casgliad fod Ms Lewis wedi dangos diffygion dwfn yn ei hagwedd ers amser maith gan olygu fod y preswylwyr wedi cael niwed.”

Nid oedd Ms Lewis yn bresennol yn y gwrandawiad undydd, a gynhaliwyd o bell yr wythnos diwethaf.