CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pedwar ymrwymiad i helpu i wella llesiant gweithwyr gofal
Newyddion

Pedwar ymrwymiad i helpu i wella llesiant gweithwyr gofal

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Unwaith eto, dydw i ddim yn ymddiheuro am ddefnyddio’r golofn hon i bwysleisio pwysigrwydd gwneud yn siŵr ein bod yn gofalu am lesiant ein gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.

Mae llesiant y gweithlu yn eithriadol o bwysig – i’r rheini sy’n darparu ac yn derbyn gofal. Rydyn ni’n gwybod bod gweithleoedd cadarnhaol, lle mae staff yn dda ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn arwain at ofal cadarnhaol.

Mae’r rheini sy’n gweithio yn y sector gofal yn hynod o gadarn ac wedi delio â phwysau’r pandemig a’i ganlyniadau, gan wynebu galw heb ei debyg o’r blaen am ofal a chymorth.

Dangosodd astudiaeth ddiweddar fod ansawdd bywyd a llesiant gwaith wedi dirywio yn y sector gofal ac nid yw hyn yn syndod, yn enwedig gyda heriau newydd costau byw a nifer cynyddol o swyddi gwag.

Rydyn ni hefyd wedi clywed am rai newidiadau cadarnhaol iawn sy’n cael eu gwneud a ffyrdd creadigol o gefnogi staff.

Mewn ymateb i hyn, rydyn ni wedi lansio rhywbeth newydd yn ddiweddar i helpu cyflogwyr, rheolwyr a’u staff i wella llesiant y gweithlu.

Fe’i galwyd yn Fframwaith Llesiant, ac mae’n canolbwyntio ar bedwar ymrwymiad.

Y cyntaf yw creu amgylcheddau gwaith diogel sy’n cefnogi iechyd a llesiant. Mae hyn er mwyn cefnogi llesiant corfforol, meddyliol ac ariannol gweithwyr.

Mae’n golygu gwneud yn siŵr bod unrhyw un sy’n rhannu gwybodaeth am gyflwr iechyd yn cael ei drin yn deg ac yn dosturiol, a bod ganddo gyfleoedd gyrfa cyfartal. Mae hefyd yn golygu deall a bod yn ymwybodol o’r gwasanaethau iechyd meddwl o ansawdd da y gellir cyfeirio staff atynt.

Yr ail ymrwymiad yw trin pawb yn deg, gydag urddas a pharch.

Nod hyn yw creu diwylliannau cadarnhaol gyda thriniaeth deg, urddas a pharch i’r bobl maen nhw’n eu cyflogi a’r rhai maen nhw’n eu cefnogi.

Dylai hyn fod heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Mae’r ymrwymiad hwn yn arbennig o ingol gan ein bod ym Mis Hanes Pobl Dduon, sy’n gyfle i ni i gyd ddangos ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Yn drydydd, rydyn ni’n gofyn am ymrwymiad i sefydlu diwylliannau yn y gweithle lle mae pawb yn cymryd rhan ac yn cael gwybodaeth. Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu pan fydd ganddynt lais ac yn cael eu cynnwys mewn newid. Gallai hyn fod yn newid i’r ffordd y mae’r sefydliad yn gweithio neu’r ffordd y darperir gofal a chymorth.

Y pedwerydd ymrwymiad yw blaenoriaethu diwylliant o ddysgu a datblygu parhaus, oherwydd gall teimlo’n fodlon mewn gwaith wella llesiant.

Mae’r ymrwymiad hwn yn golygu cefnogi’r gweithlu i ddysgu a thyfu, fel eu bod yn teimlo’n hyderus ac yn gymwys yn y gwaith mae nhw’n ei wneud.

Mae’n galw am amgylcheddau dysgu cadarnhaol lle mae staff yn cael eu meithrin, ac yn teimlo ymdeimlad o bwrpas a pherthyn. Ac mae’n golygu cefnogi staff gyda hyfforddiant a chyfleoedd i barhau â’u datblygiad proffesiynol.

Er mwyn helpu cyflogwyr a staff i roi’r ymrwymiadau hyn ar waith, rydyn ni wedi creu rhai adnoddau:

  • cynllun llesiant ar gyfer sefydliadau: mae hwn yn dempled i helpu sefydliadau i ddatblygu cynllun llesiant drwy edrych ar bob ymrwymiad a nodi ble maen nhw nawr a lle maen nhw am gyrraedd
  • canllaw ar gyfer sgyrsiau llesiant i reolwyr: mae hwn yn cynnwys set o gwestiynau i helpu rheolwyr i nodi lle mae angen cymorth ar weithwyr
  • rhestr wirio llesiant ar gyfer gweithwyr: mae hyn yn annog gweithwyr i chwilio am ffyrdd o wella eu llesiant. Gall helpu pobl sy’n gweithio’n bennaf ar eu pen eu hunain neu mewn tîm neu sefydliad mwy.

Dysgwch fwy am y fframwaith llesiant, yr ymrwymiadau a’r adnoddau