CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Hyfforddiant sefydlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd yn gysylltiedig â newidiadau cadarnhaol mewn ymarfer a gwell canlyniadau
Newyddion

Hyfforddiant sefydlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd yn gysylltiedig â newidiadau cadarnhaol mewn ymarfer a gwell canlyniadau

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae rhaglen beilot o hyfforddiant sefydlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd wedi’i chysylltu â newidiadau cadarnhaol mewn ymarfer a gwell canlyniadau ar gyfer pobl sy’n defnyddio gofal a gwasanaethau cymorth, yn ôl adroddiad gwerthuso newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Rhwng 2019 a 2021, buom yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac awdurdodau lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i ddatblygu a chynnal rhaglen beilot o hyfforddiant sefydlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd yn llwyddiannus.

Mae gwerthusiad o’r peilot gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCiE) wedi datgelu bellach bod cwblhau’r rhaglen wedi’i gysylltu â newidiadau cadarnhaol mewn ymarfer a gwell canlyniadau ar gyfer pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Nododd yr adroddiad fod cydweithio effeithiol rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i lwyddiant y peilot. Datgelodd hefyd fod y rhaglen beilot yn cynyddu hyder a chymhwysedd dysgwyr, ac yn cefnogi’r broses o recriwtio a chadw’r gweithlu.

Llwyddodd mwy na 160 o weithwyr i gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus ers ei chyflwyno ym mis Gorffennaf 2019, gyda 120 o weithwyr yn cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yn llwyddiannus.

Cefnogodd y rhaglen weithwyr newydd yn eu misoedd cyntaf mewn cyflogaeth ac roedd yn seiliedig ar Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a rhannau o’r Rhaglen Sefydlu Gofal Iechyd Clinigol a defnyddiwyd gan y sector iechyd.

Roedd yn trafod pynciau fel egwyddorion a gwerthoedd, gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, diogelu, ynghyd ag iechyd a diogelwch, dementia ac arsylwadau hanfodol iechyd.

Roedd canfyddiadau eraill yr adroddiad gwerthuso yn cynnwys:

  • mae’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a chyflogwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i gynnal arsylwadau iechyd a chwblhau hyfforddiant ym maes sgiliau clinigol
  • fe wnaeth cael mentoriaid a chymorth yn y gweithle gynorthwyo’r gweithwyr a oedd yn cymryd rhan yn y peilot
  • roedd cael ymarferwyr profiadol o faes iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag arbenigwyr, yn gweithredu fel tiwtoriaid yn elfen bwysig o lwyddiant y peilot
  • fe wnaeth creu gweithlu mwy hyblyg a oedd ag elfennau hyfforddiant iechyd a gofal cymdeithasol helpu i integreiddio’r ddau sector.

Yn dilyn llwyddiant y rhaglen beilot, rydyn ni bellach yn ystyried sut gallwn ni adeiladu ar ei waith da ac ar ei ganlyniadau cadarnhaol.

Darllenwch yr adroddiad gwerthuso