CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gweledigaeth newydd ar gyfer gwell data er budd pobl sydd angen gofal a chymorth
Newyddion

Gweledigaeth newydd ar gyfer gwell data er budd pobl sydd angen gofal a chymorth

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Heddiw, bydd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn lansio Datganiad o Fwriad Strategol, gweledigaeth newydd i wella'r ffordd y defnyddir data gofal cymdeithasol er budd pobl sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru.

Mae'r datganiad gan Lywodraeth Cymru a ni yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl sy'n derbyn gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru. Mae'r weledigaeth yn nodi sut y byddwn yn ymgysylltu â phobl ynghylch defnyddio eu data i fod o fudd iddynt ac mae'n cefnogi'r uchelgeisiau a nodir yn Strategaeth Ddigidol Cymru Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mick Giannasi, ein Cadeirydd: "Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hyder wrth adael i ni arwain ar y weledigaeth uchelgeisiol hon, sy'n anelu at greu diwylliant data cryf ac arweinyddiaeth data yng Nghymru.

"Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio data yn foesegol i wella penderfyniadau gofal a chynllunio i helpu i ddiwallu anghenion pobl a chymunedau. Drwy wireddu'r weledigaeth hon, byddwn yn galluogi pobl yng Nghymru i gyfleu eu hanghenion yn fwy effeithiol, a chael system cyngor, gofal a chymorth fwy personol."

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: "Mae Covid-19 wedi dangos gwerth data wrth gynllunio gwasanaethau gofal a chymorth, a'r ffordd y darperir y gwasanaethau hyn i'r cyhoedd. Drwy weithio mewn partneriaeth, byddwn yn casglu data gwell a mwy ystyrlon, a byddwn yn ei rannu'n fwy effeithiol a diogel rhwng sefydliadau.

"Edrychwn ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid mewn sectorau iechyd a sectorau eraill i gyflawni gweledigaeth hirdymor y datganiad yn y dyfodol o ddull di-dor, system gyfan o ymdrin â gofal cymdeithasol, iechyd a llesiant."

Darllenwch y Datganiad o fwriad strategol