CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gweithiwr gofal preswyl i blant wedi’i dynnu oddi ar y Gofrestr am ymddygiad ymosodol
Newyddion

Gweithiwr gofal preswyl i blant wedi’i dynnu oddi ar y Gofrestr am ymddygiad ymosodol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Bowys wedi’i dynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad gan Ofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd.

Cyhuddwyd Jamie Neil Saunders o weithredu mewn modd amhriodol ac ymosodol tuag at ddau berson ifanc agored i niwed a oedd yn ei ofal ym mis Medi 2018.

Mewn ffilm teledu cylch cyfyng a ddangoswyd yn ystod y gwrandawiad, gwelwyd Mr Saunders yn tynnu un o’r bobl ifanc oddi ar silff ffenestr, yn dal y person ifanc ar y llawr ac yna’n tynnu’r person ifanc yn ôl i’r llawr pan geisiodd ddianc.

Mewn digwyddiad arall a ffilmiwyd ar deledu cylch cyfyng ac a ddangoswyd yn ystod y gwrandawiad, gwelwyd Mr Saunders yn gwthio person ifanc arall ac yn dal y person ifanc i fyny yn erbyn wal wrth ei wddf.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Mr Saunders i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Ni ddangosodd Mr Saunders unrhyw ddealltwriaeth nac edifeirwch, nac unrhyw berchnogaeth o’i weithredoedd pan siaradodd ei gyflogwr ag ef am y mater. Ceisiodd gyfiawnhau ei weithredoedd drwy ddweud eu bod yn ddulliau rhesymol o atal ac, yn ein barn ni, mae hyn yn codi amheuaeth ynghylch ei uniondeb.

“Roedd hyn, heb os, yn ymddygiad gwarthus ac roedd ymhell islaw’r nod o ran yr hyn y mae’n briodol ei ddisgwyl gan weithiwr gofal preswyl i blant. Mae ymddwyn yn dreisgar, fel y gwnaeth Mr Saunders, yn groes i un o gredoau sylfaenol ymarfer gofal cymdeithasol.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Saunders o’r Gofrestr, gan ddweud: “Rydym o’r farn bod gweithredoedd Mr Saunders yn ddigon difrifol i gyfiawnhau Gorchymyn Dileu… Rydym hefyd wedi dod i’r casgliad bod Gorchymyn Dileu yn angenrheidiol i ddiogelu’r cyhoedd a budd ehangach y cyhoedd.”

Nid oedd Mr Saunders yn bresennol yn y gwrandawiad undydd a gynhaliwyd o bell dros Zoom yr wythnos diwethaf.