CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gall gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol nawr gael mynediad i e-Lyfrgell GIG Cymru
Newyddion

Gall gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol nawr gael mynediad i e-Lyfrgell GIG Cymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad i e-Lyfrgell GIG Cymru, sy’n cynnig ystod o adnoddau o ansawdd uchel i gefnogi eu hymarfer.

Bydd cyfoeth yr e-Lyfrgell o e-gyfnodolion, e-lyfrau, canllawiau a chronfeydd data ar gael yn ddigidol i bron i 10,000 o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr, rheolwyr cartrefi gofal, rheolwyr gofal preswyl i blant, a rheolwyr gofal cartref.

Mae Charlotte Drury, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Llesiant a Chymorth i Deuluoedd yng Nghyngor Sir Fynwy, yn edrych ymlaen at gael defnyddio adnoddau’r e-Lyfrgell. Dywedodd: “Bydd cael cyfle i ddefnyddio ymchwil ddiweddar o fudd enfawr i sicrhau bod ymarfer yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfredol.”

Daw’r cyfle newydd hwn fel rhan o waith cydweithredol parhaus rhyngom ni, gweithwyr gofal cymdeithasol, ymchwilwyr, GIG Cymru a gwasanaethau llyfrgell Llywodraeth Cymru.

Trwy'r cydweithrediad hwn, mae'r casgliadau e-Lyfrgell wedi tyfu drwy ychwanegu deunydd pwnc gofal cymdeithasol newydd, gan gynnwys cronfeydd data, e-lyfrau ac e-gyfnodolion.

Mae'r e-Lyfrgell ar gael trwy gyfrif hunan-gofrestru ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol, sydd bellach yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio dyfais a ffefrir ganddyn nhw naill ai gartref, yn y gwaith, neu ble bynnag a phryd bynnag y bo angen.

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar sut i greu cyfrif ar ein tudalen wybodaeth neu wrth e-bostio elibraryaccess@socialcare.wales.